Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 29

29
1Bydd un sy'n ystyfnigo trwy ei geryddu'n fynych
yn cael ei ddryllio'n sydyn heb fodd i'w adfer.
2Pan fydd y cyfiawn yn llywodraethu#29:2 Cymh. Groeg. Hebraeg, niferus., llawenha'r bobl,
ond pan fydd y drygionus yn rheoli, bydd y bobl yn griddfan.
3Y mae'r un sy'n caru doethineb yn rhoi llawenydd i'w dad,
ond y mae'r un sy'n cyfeillachu â phuteiniaid yn gwastraffu ei eiddo.
4Y mae brenin yn rhoi cadernid i wlad trwy gyfiawnder,
ond y mae'r un sy'n codi trethi yn ei difa.
5Y mae'r sawl sy'n gwenieithio wrth ei gyfaill
yn taenu rhwyd i'w draed.
6Rhwydir y drygionus gan gamwedd,
ond y mae'r cyfiawn yn canu'n llawen.
7Y mae'r cyfiawn yn gwybod hawliau'r tlodion,
ond nid yw'r drygionus yn ystyried deall.
8Y mae'r gwatwarwyr yn creu cyffro mewn dinas,
ond y mae'r doethion yn tawelu dicter.
9Os â un doeth i gyfraith â ffŵl,
bydd y ffŵl yn cythruddo ac yn gwawdio,
ac ni cheir llonyddwch.
10Y mae rhai gwaedlyd yn casáu'r un cywir,
ond y mae'r rhai cyfiawn yn diogelu ei fywyd.
11Y mae'r ffŵl yn arllwys ei holl ddig,
ond y mae'r doeth yn ei gadw dan reolaeth.
12Os yw llywodraethwr yn gwrando ar gelwydd,
bydd ei holl weision yn ddrygionus.
13Y mae hyn yn gyffredin i'r tlawd a'r gormeswr:
yr ARGLWYDD sy'n goleuo llygaid y ddau.
14Os yw brenin yn barnu'r tlodion yn gywir,
yna fe sefydlir ei orsedd am byth.
15Y mae gwialen a cherydd yn rhoi doethineb,
ond y mae plentyn afreolus yn dwyn gwarth ar ei fam.
16Pan amlha'r drygionus, bydd camwedd yn cynyddu,
ond bydd y cyfiawn yn edrych ar eu cwymp.
17Disgybla dy fab, a daw â chysur iti,
a rhydd lawenydd iti yn dy fywyd.
18Lle na cheir gweledigaeth, bydd y bobl ar chwâl;
ond gwyn ei fyd y sawl sy'n cadw'r gyfraith.
19Nid â geiriau yn unig y disgyblir gwas;
er iddo ddeall, nid yw'n ymateb.
20Fe welaist un sy'n eiddgar i siarad;
y mae mwy o obaith i'r ffŵl nag iddo ef.
21Wrth faldodi gwas o'i lencyndod,
bydd yn troi'n anniolchgar yn y diwedd.
22Codi cynnen y mae rhywun cas,
ac un dicllon yn ychwanegu camwedd.
23Y mae balchder unrhyw un yn ei ddarostwng,
ond y mae'r gostyngedig yn cael anrhydedd.
24Gelyn iddo'i hun yw'r sawl sy'n rhannu â lleidr;
y mae'n clywed y felltith, ond heb ddweud dim.
25Magl yw ofni pobl,
ond diogel yw'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD.
26Y mae llawer yn ceisio ffafr llywodraethwr,
ond oddi wrth yr ARGLWYDD y daw cyfiawnder.
27Y mae'r cyfiawn yn ffieiddio'r anghyfiawn,
a'r drygionus yn ffieiddio'r uniawn ei ffordd.

Dewis Presennol:

Diarhebion 29: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd