Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 26:1-28

Diarhebion 26:1-28 BCND

Fel eira yn yr haf, neu law yn ystod y cynhaeaf, felly nid yw anrhydedd yn gweddu i'r ffôl. Fel aderyn y to yn hedfan, neu wennol yn gwibio, felly ni chyflawnir melltith ddiachos. Chwip i geffyl, ffrwyn i asyn, a gwialen i gefn ffyliaid! Paid ag ateb y ffŵl yn ôl ei ffolineb, rhag i ti fynd yn debyg iddo. Ateb y ffŵl yn ôl ei ffolineb, rhag iddo fynd yn ddoeth yn ei olwg ei hun. Y mae'r sawl sy'n anfon neges yn llaw ffŵl yn torri ymaith ei draed ei hun ac yn profi trais. Fel coesau'r cloff yn honcian, felly y mae dihareb yng ngenau ffyliaid. Fel gosod carreg mewn ffon dafl, felly y mae rhoi anrhydedd i ffŵl. Fel draenen yn mynd i law meddwyn, felly y mae dihareb yng ngenau ffyliaid. Fel saethwr yn clwyfo pawb sy'n mynd heibio, felly y mae'r un sy'n cyflogi ffŵl neu feddwyn. Fel ci yn troi'n ôl at ei gyfog, felly y mae'r ffŵl sy'n ailadrodd ei ffolineb. Fe welaist un sy'n ddoeth yn ei olwg ei hun; y mae mwy o obaith i ffŵl nag iddo ef. Dywed y diog, “Y mae llew ar y ffordd, llew yn rhydd yn y strydoedd!” Fel y mae drws yn troi ar ei golyn, felly y mae'r diog yn ei wely. Y mae'r diog yn gwthio'i law i'r ddysgl, ond yn rhy ddiog i'w chodi i'w geg. Y mae'r diog yn ddoethach yn ei olwg ei hun na saith o rai sy'n ateb yn synhwyrol. Fel cydio yng nghlustiau ci sy'n mynd heibio, felly y mae ymyrryd yng nghweryl rhywun arall. Fel rhywun gwallgof yn saethu pentewynion â saethau marwol, felly y mae'r un sy'n twyllo'i gymydog, ac yn dweud, “Dim ond cellwair yr oeddwn.” Heb goed fe ddiffydd tân, a heb y straegar fe dderfydd am gynnen. Fel glo i farwor, a choed i dân, felly y mae'r cwerylgar yn creu cynnen. Y mae geiriau'r straegar fel danteithion sy'n mynd i lawr i'r cylla. Fel golchiad arian ar lestr pridd, felly y mae geiriau esmwyth a chalon ddrygionus. Y mae gelyn yn rhagrithio â'i eiriau, ac yn cynllunio twyll yn ei galon; pan yw'n llefaru'n deg, paid ag ymddiried ynddo, oherwydd y mae saith peth ffiaidd yn ei feddwl; er iddo guddio'i gasineb â rhagrith, datguddir ei ddrygioni yn y gynulleidfa. Y mae'r un sy'n cloddio pwll yn syrthio iddo, a daw carreg yn ôl ar yr un sy'n ei threiglo. Y mae tafod celwyddog yn casáu purdeb, a genau gwenieithus yn dwyn dinistr.