Fel eira yn yr haf, neu law yn ystod y cynhaeaf,
felly nid yw anrhydedd yn gweddu i'r ffôl.
Fel aderyn y to yn hedfan, neu wennol yn gwibio,
felly ni chyflawnir melltith ddiachos.
Chwip i geffyl, ffrwyn i asyn,
a gwialen i gefn ffyliaid!
Paid ag ateb y ffŵl yn ôl ei ffolineb,
rhag i ti fynd yn debyg iddo.
Ateb y ffŵl yn ôl ei ffolineb,
rhag iddo fynd yn ddoeth yn ei olwg ei hun.
Y mae'r sawl sy'n anfon neges yn llaw ffŵl
yn torri ymaith ei draed ei hun ac yn profi trais.
Fel coesau'r cloff yn honcian,
felly y mae dihareb yng ngenau ffyliaid.
Fel gosod carreg mewn ffon dafl,
felly y mae rhoi anrhydedd i ffŵl.
Fel draenen yn mynd i law meddwyn,
felly y mae dihareb yng ngenau ffyliaid.
Fel saethwr yn clwyfo pawb sy'n mynd heibio,
felly y mae'r un sy'n cyflogi ffŵl neu feddwyn.
Fel ci yn troi'n ôl at ei gyfog,
felly y mae'r ffŵl sy'n ailadrodd ei ffolineb.
Fe welaist un sy'n ddoeth yn ei olwg ei hun;
y mae mwy o obaith i ffŵl nag iddo ef.
Dywed y diog, “Y mae llew ar y ffordd,
llew yn rhydd yn y strydoedd!”
Fel y mae drws yn troi ar ei golyn,
felly y mae'r diog yn ei wely.
Y mae'r diog yn gwthio'i law i'r ddysgl,
ond yn rhy ddiog i'w chodi i'w geg.
Y mae'r diog yn ddoethach yn ei olwg ei hun
na saith o rai sy'n ateb yn synhwyrol.
Fel cydio yng nghlustiau ci sy'n mynd heibio,
felly y mae ymyrryd yng nghweryl rhywun arall.
Fel rhywun gwallgof yn saethu
pentewynion â saethau marwol,
felly y mae'r un sy'n twyllo'i gymydog,
ac yn dweud, “Dim ond cellwair yr oeddwn.”
Heb goed fe ddiffydd tân,
a heb y straegar fe dderfydd am gynnen.
Fel glo i farwor, a choed i dân,
felly y mae'r cwerylgar yn creu cynnen.
Y mae geiriau'r straegar fel danteithion
sy'n mynd i lawr i'r cylla.
Fel golchiad arian ar lestr pridd,
felly y mae geiriau esmwyth a chalon ddrygionus.
Y mae gelyn yn rhagrithio â'i eiriau,
ac yn cynllunio twyll yn ei galon;
pan yw'n llefaru'n deg, paid ag ymddiried ynddo,
oherwydd y mae saith peth ffiaidd yn ei feddwl;
er iddo guddio'i gasineb â rhagrith,
datguddir ei ddrygioni yn y gynulleidfa.
Y mae'r un sy'n cloddio pwll yn syrthio iddo,
a daw carreg yn ôl ar yr un sy'n ei threiglo.
Y mae tafod celwyddog yn casáu purdeb,
a genau gwenieithus yn dwyn dinistr.