Ag amynedd gellir darbwyllo llywodraethwr, a gall tafod tyner dorri asgwrn. Os cei fêl, bwyta'r hyn y mae ei angen arnat, rhag iti gymryd gormod, a'i daflu i fyny. Paid â mynd yn rhy aml i dŷ dy gymydog, rhag iddo gael digon arnat, a'th gasáu. Fel pastwn, neu gleddyf, neu saeth loyw, felly y mae tyst yn dweud celwydd yn erbyn ei gymydog. Fel dant drwg, neu droed yn llithro, felly y mae ymddiried mewn twyllwr yn amser adfyd. Fel diosg gwisg ar ddiwrnod oer, neu roi finegr ar friw, felly y mae canu caneuon i galon drist. Os yw dy elyn yn newynu, rho iddo fara i'w fwyta, ac os yw'n sychedig, rho iddo ddŵr i'w yfed; byddi felly'n pentyrru marwor ar ei ben, ac fe dâl yr ARGLWYDD iti. Y mae gwynt y gogledd yn dod â glaw, a thafod enllibus yn dod â chilwg. Y mae'n well byw mewn congl ar ben tŷ na rhannu cartref gyda gwraig gecrus. Fel dŵr oer i lwnc sychedig, felly y mae newydd da o wlad bell. Fel ffynnon wedi ei difwyno, neu bydew wedi ei lygru, felly y mae'r cyfiawn yn gwegian o flaen y drygionus. Nid yw'n dda bwyta gormod o fêl, a rhaid wrth ofal gyda chanmoliaeth. Fel dinas wedi ei bylchu a heb fur, felly y mae'r sawl sy'n methu rheoli ei dymer.
Darllen Diarhebion 25
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Diarhebion 25:15-28
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos