Diarhebion 25:15-28
Diarhebion 25:15-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ag amynedd gellir darbwyllo llywodraethwr, a gall tafod tyner dorri asgwrn. Os cei fêl, bwyta'r hyn y mae ei angen arnat, rhag iti gymryd gormod, a'i daflu i fyny. Paid â mynd yn rhy aml i dŷ dy gymydog, rhag iddo gael digon arnat, a'th gasáu. Fel pastwn, neu gleddyf, neu saeth loyw, felly y mae tyst yn dweud celwydd yn erbyn ei gymydog. Fel dant drwg, neu droed yn llithro, felly y mae ymddiried mewn twyllwr yn amser adfyd. Fel diosg gwisg ar ddiwrnod oer, neu roi finegr ar friw, felly y mae canu caneuon i galon drist. Os yw dy elyn yn newynu, rho iddo fara i'w fwyta, ac os yw'n sychedig, rho iddo ddŵr i'w yfed; byddi felly'n pentyrru marwor ar ei ben, ac fe dâl yr ARGLWYDD iti. Y mae gwynt y gogledd yn dod â glaw, a thafod enllibus yn dod â chilwg. Y mae'n well byw mewn congl ar ben tŷ na rhannu cartref gyda gwraig gecrus. Fel dŵr oer i lwnc sychedig, felly y mae newydd da o wlad bell. Fel ffynnon wedi ei difwyno, neu bydew wedi ei lygru, felly y mae'r cyfiawn yn gwegian o flaen y drygionus. Nid yw'n dda bwyta gormod o fêl, a rhaid wrth ofal gyda chanmoliaeth. Fel dinas wedi ei bylchu a heb fur, felly y mae'r sawl sy'n methu rheoli ei dymer.
Diarhebion 25:15-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gyda tipyn o amynedd gellir perswadio llywodraethwr, ac mae geiriau tyner yn delio gyda gwrthwynebiad. Pan gei fêl, paid cymryd mwy nag wyt ei angen, rhag i ti fwyta gormod, a chwydu’r cwbl i fyny. Paid mynd i dŷ rhywun arall yn rhy aml, rhag iddo gael llond bol, a throi yn dy erbyn di. Mae tyst sy’n dweud celwydd mewn achos llys yn gwneud niwed fel pastwn neu gleddyf neu saeth finiog. Mae trystio rhywun sy’n ddi-ddal mewn amser anodd fel diodde o’r ddannodd neu fod yn simsan ar dy draed. Mae canu caneuon i rywun sydd â chalon drist fel tynnu dillad ar ddiwrnod oer, neu roi halen ar friw. Os ydy dy elyn yn llwgu, rho fwyd iddo; os ydy e’n sychedig, rho ddŵr iddo i’w yfed. Byddi’n tywallt marwor tanllyd ar ei ben, a bydd yr ARGLWYDD yn rhoi dy wobr i ti. Mae gwynt y gogledd yn dod â glaw, a thafod sy’n bradychu cyfrinach yn dod â gwg. Mae byw mewn cornel yn yr atig yn well na rhannu cartref gyda gwraig gecrus. Mae derbyn newyddion da o wlad bell fel diod o ddŵr oer i wddf sych. Mae dyn da sy’n plygu i ddyn drwg fel ffynnon yn llawn mwd neu bydew wedi’i ddifetha. Dydy bwyta gormod o fêl ddim yn beth da, a dydy edrych am ganmoliaeth ddim yn iawn. Mae rhywun sy’n methu rheoli ei dymer fel dinas a’i waliau wedi’u bwrw i lawr.
Diarhebion 25:15-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ag amynedd gellir darbwyllo llywodraethwr, a gall tafod tyner dorri asgwrn. Os cei fêl, bwyta'r hyn y mae ei angen arnat, rhag iti gymryd gormod, a'i daflu i fyny. Paid â mynd yn rhy aml i dŷ dy gymydog, rhag iddo gael digon arnat, a'th gasáu. Fel pastwn, neu gleddyf, neu saeth loyw, felly y mae tyst yn dweud celwydd yn erbyn ei gymydog. Fel dant drwg, neu droed yn llithro, felly y mae ymddiried mewn twyllwr yn amser adfyd. Fel diosg gwisg ar ddiwrnod oer, neu roi finegr ar friw, felly y mae canu caneuon i galon drist. Os yw dy elyn yn newynu, rho iddo fara i'w fwyta, ac os yw'n sychedig, rho iddo ddŵr i'w yfed; byddi felly'n pentyrru marwor ar ei ben, ac fe dâl yr ARGLWYDD iti. Y mae gwynt y gogledd yn dod â glaw, a thafod enllibus yn dod â chilwg. Y mae'n well byw mewn congl ar ben tŷ na rhannu cartref gyda gwraig gecrus. Fel dŵr oer i lwnc sychedig, felly y mae newydd da o wlad bell. Fel ffynnon wedi ei difwyno, neu bydew wedi ei lygru, felly y mae'r cyfiawn yn gwegian o flaen y drygionus. Nid yw'n dda bwyta gormod o fêl, a rhaid wrth ofal gyda chanmoliaeth. Fel dinas wedi ei bylchu a heb fur, felly y mae'r sawl sy'n methu rheoli ei dymer.
Diarhebion 25:15-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Trwy hirymaros y bodlonir pendefig: a thafod esmwyth a dyr asgwrn. Pan gaffech fêl, bwyta a’th wasanaetho: rhag wedi dy lenwi ohono, i ti ei chwydu ef. Cadw dy droed allan o dŷ dy gymydog: rhag iddo flino arnat, a’th gasáu. Y neb a ddygo gamdystiolaeth yn erbyn ei gymydog, sydd megis gordd, a chleddyf, a saeth lem. Hyder ar ffalswr yn nydd cyfyngder, sydd megis dant wedi ei dorri, a throed wedi tyrfu. Fel yr hwn a ddygo ymaith wisg yn amser oerfel, ac fel finegr ar nitr, felly y mae yr hwn sydd yn canu caniadau i galon drist. Os dy elyn a newyna, portha ef â bara; ac os sycheda, dod iddo ddiod i’w hyfed: Canys marwor a bentyrri ar ei ben ef; a’r ARGLWYDD a dâl i ti. Gwynt y gogledd a yrr y glaw ymaith: felly y gyr wynepryd dicllon dafod athrotgar. Gwell yw trigo mewn congl yn nen tŷ, na chyda gwraig anynad mewn tŷ eang. Fel dyfroedd oerion i enaid sychedig, yw newyddion da o wlad bell. Gŵr cyfiawn wedi syrthio i lawr gerbron y drygionus, sydd megis ffynnon wedi ei chymysgu â gofer budr. Nid da bwyta llawer o fêl: ac felly chwilio eu hanrhydedd, nid anrhydedd yw. Y neb ni byddo ganddo atal ar ei ysbryd ei hun, sydd megis dinas ddrylliog heb gaer.