Dyma hefyd ddiarhebion Solomon, a gofnodwyd gan wŷr Heseceia brenin Jwda:
Gogoniant Duw yw cadw pethau'n guddiedig,
a gogoniant brenhinoedd yw eu chwilio allan.
Fel y mae'r nefoedd yn uchel a'r ddaear yn ddwfn,
felly ni ellir chwilio calonnau brenhinoedd.
Symud yr amhuredd o'r arian,
a daw'n llestr yn llaw'r gof.
Symud y drygionus o ŵydd y brenin,
a sefydlir ei orsedd mewn cyfiawnder.
Paid ag ymddyrchafu yng ngŵydd y brenin,
na sefyll yn lle'r mawrion,
oherwydd gwell yw cael dweud wrthyt am symud i fyny,
na'th symud i lawr i wneud lle i bendefig.
Paid â brysio i wneud achos o'r hyn a welaist,
rhag, wedi iti orffen gwneud hynny,
i'th gymydog ddwyn gwarth arnat.
Dadlau dy achos â'th gymydog,
ond paid â dadlennu cyfrinach rhywun arall,
rhag iddo dy sarhau pan glyw,
a thithau'n methu galw dy annoethineb yn ôl.
Fel afalau aur ar addurniadau o arian,
felly y mae gair a leferir yn ei bryd.
Fel modrwy aur neu addurn o aur gwerthfawr,
felly y mae cerydd y doeth i glust sy'n gwrando.
Fel oerni eira yn amser cynhaeaf,
felly y mae negesydd ffyddlon i'r rhai sy'n ei anfon;
y mae'n adfywio ysbryd ei feistri.
Fel cymylau a gwynt, na roddant law,
felly y mae'r un sy'n brolio rhodd heb ei rhoi.
Ag amynedd gellir darbwyllo llywodraethwr,
a gall tafod tyner dorri asgwrn.
Os cei fêl, bwyta'r hyn y mae ei angen arnat,
rhag iti gymryd gormod, a'i daflu i fyny.
Paid â mynd yn rhy aml i dŷ dy gymydog,
rhag iddo gael digon arnat, a'th gasáu.
Fel pastwn, neu gleddyf, neu saeth loyw,
felly y mae tyst yn dweud celwydd yn erbyn ei gymydog.
Fel dant drwg, neu droed yn llithro,
felly y mae ymddiried mewn twyllwr yn amser adfyd.
Fel diosg gwisg ar ddiwrnod oer,
neu roi finegr ar friw,
felly y mae canu caneuon i galon drist.
Os yw dy elyn yn newynu, rho iddo fara i'w fwyta,
ac os yw'n sychedig, rho iddo ddŵr i'w yfed;
byddi felly'n pentyrru marwor ar ei ben,
ac fe dâl yr ARGLWYDD iti.
Y mae gwynt y gogledd yn dod â glaw,
a thafod enllibus yn dod â chilwg.
Y mae'n well byw mewn congl ar ben tŷ
na rhannu cartref gyda gwraig gecrus.
Fel dŵr oer i lwnc sychedig,
felly y mae newydd da o wlad bell.
Fel ffynnon wedi ei difwyno, neu bydew wedi ei lygru,
felly y mae'r cyfiawn yn gwegian o flaen y drygionus.
Nid yw'n dda bwyta gormod o fêl,
a rhaid wrth ofal gyda chanmoliaeth.
Fel dinas wedi ei bylchu a heb fur,
felly y mae'r sawl sy'n methu rheoli ei dymer.