Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 25:1-28

Diarhebion 25:1-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Dyma hefyd ddiarhebion Solomon, a gofnodwyd gan wŷr Heseceia brenin Jwda: Gogoniant Duw yw cadw pethau'n guddiedig, a gogoniant brenhinoedd yw eu chwilio allan. Fel y mae'r nefoedd yn uchel a'r ddaear yn ddwfn, felly ni ellir chwilio calonnau brenhinoedd. Symud yr amhuredd o'r arian, a daw'n llestr yn llaw'r gof. Symud y drygionus o ŵydd y brenin, a sefydlir ei orsedd mewn cyfiawnder. Paid ag ymddyrchafu yng ngŵydd y brenin, na sefyll yn lle'r mawrion, oherwydd gwell yw cael dweud wrthyt am symud i fyny, na'th symud i lawr i wneud lle i bendefig. Paid â brysio i wneud achos o'r hyn a welaist, rhag, wedi iti orffen gwneud hynny, i'th gymydog ddwyn gwarth arnat. Dadlau dy achos â'th gymydog, ond paid â dadlennu cyfrinach rhywun arall, rhag iddo dy sarhau pan glyw, a thithau'n methu galw dy annoethineb yn ôl. Fel afalau aur ar addurniadau o arian, felly y mae gair a leferir yn ei bryd. Fel modrwy aur neu addurn o aur gwerthfawr, felly y mae cerydd y doeth i glust sy'n gwrando. Fel oerni eira yn amser cynhaeaf, felly y mae negesydd ffyddlon i'r rhai sy'n ei anfon; y mae'n adfywio ysbryd ei feistri. Fel cymylau a gwynt, na roddant law, felly y mae'r un sy'n brolio rhodd heb ei rhoi. Ag amynedd gellir darbwyllo llywodraethwr, a gall tafod tyner dorri asgwrn. Os cei fêl, bwyta'r hyn y mae ei angen arnat, rhag iti gymryd gormod, a'i daflu i fyny. Paid â mynd yn rhy aml i dŷ dy gymydog, rhag iddo gael digon arnat, a'th gasáu. Fel pastwn, neu gleddyf, neu saeth loyw, felly y mae tyst yn dweud celwydd yn erbyn ei gymydog. Fel dant drwg, neu droed yn llithro, felly y mae ymddiried mewn twyllwr yn amser adfyd. Fel diosg gwisg ar ddiwrnod oer, neu roi finegr ar friw, felly y mae canu caneuon i galon drist. Os yw dy elyn yn newynu, rho iddo fara i'w fwyta, ac os yw'n sychedig, rho iddo ddŵr i'w yfed; byddi felly'n pentyrru marwor ar ei ben, ac fe dâl yr ARGLWYDD iti. Y mae gwynt y gogledd yn dod â glaw, a thafod enllibus yn dod â chilwg. Y mae'n well byw mewn congl ar ben tŷ na rhannu cartref gyda gwraig gecrus. Fel dŵr oer i lwnc sychedig, felly y mae newydd da o wlad bell. Fel ffynnon wedi ei difwyno, neu bydew wedi ei lygru, felly y mae'r cyfiawn yn gwegian o flaen y drygionus. Nid yw'n dda bwyta gormod o fêl, a rhaid wrth ofal gyda chanmoliaeth. Fel dinas wedi ei bylchu a heb fur, felly y mae'r sawl sy'n methu rheoli ei dymer.

Diarhebion 25:1-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Diarhebion Solomon ydy’r rhain hefyd, wedi’u casglu gan weision Heseceia, brenin Jwda: Braint Duw ydy cadw pethau’n ddirgelwch; braint brenhinoedd ydy chwilio a darganfod. Fel mae’r awyr yn rhy uchel, a’r ddaear yn rhy ddofn, does neb yn gwybod beth sy’n mynd drwy feddwl brenhinoedd. Ar ôl gwahanu’r amhuredd o’r arian, mae’r gof yn gallu creu llestr hardd. Ar ôl symud y rhai drwg o ŵydd y brenin bydd cyfiawnder yn gwneud ei orsedd yn ddiogel. Paid canmol dy hun o flaen y brenin, a mynd i eistedd yn y seddi pwysig. Mae’n well cael rhywun yn dweud, “Symud i fyny,” na chael dy gywilyddio o flaen pobl bwysig. Paid bod ar ormod o frys i fynd i’r llys am dy fod wedi gweld rhywbeth. Beth os bydd rhywun arall yn dweud yn groes i ti? Trafod y peth yn breifat gyda’r person hwnnw, a phaid dweud am y peth wrth neb arall. Does gen ti ddim eisiau i rywun dy gondemnio di, ac i ti gael enw drwg am byth. Mae gair o ganmoliaeth fel gemwaith aur mewn tlws arian. Mae gwrando ar gerydd gan rywun doeth fel modrwy aur neu dlws o aur coeth. Mae negesydd ffyddlon yn adfywio ysbryd ei feistri, fel dŵr oer ar ddiwrnod poeth o gynhaeaf. Cymylau a gwynt, ond dim glaw – felly mae’r un sy’n brolio’i haelioni, ond byth yn rhoi. Gyda tipyn o amynedd gellir perswadio llywodraethwr, ac mae geiriau tyner yn delio gyda gwrthwynebiad. Pan gei fêl, paid cymryd mwy nag wyt ei angen, rhag i ti fwyta gormod, a chwydu’r cwbl i fyny. Paid mynd i dŷ rhywun arall yn rhy aml, rhag iddo gael llond bol, a throi yn dy erbyn di. Mae tyst sy’n dweud celwydd mewn achos llys yn gwneud niwed fel pastwn neu gleddyf neu saeth finiog. Mae trystio rhywun sy’n ddi-ddal mewn amser anodd fel diodde o’r ddannodd neu fod yn simsan ar dy draed. Mae canu caneuon i rywun sydd â chalon drist fel tynnu dillad ar ddiwrnod oer, neu roi halen ar friw. Os ydy dy elyn yn llwgu, rho fwyd iddo; os ydy e’n sychedig, rho ddŵr iddo i’w yfed. Byddi’n tywallt marwor tanllyd ar ei ben, a bydd yr ARGLWYDD yn rhoi dy wobr i ti. Mae gwynt y gogledd yn dod â glaw, a thafod sy’n bradychu cyfrinach yn dod â gwg. Mae byw mewn cornel yn yr atig yn well na rhannu cartref gyda gwraig gecrus. Mae derbyn newyddion da o wlad bell fel diod o ddŵr oer i wddf sych. Mae dyn da sy’n plygu i ddyn drwg fel ffynnon yn llawn mwd neu bydew wedi’i ddifetha. Dydy bwyta gormod o fêl ddim yn beth da, a dydy edrych am ganmoliaeth ddim yn iawn. Mae rhywun sy’n methu rheoli ei dymer fel dinas a’i waliau wedi’u bwrw i lawr.

Diarhebion 25:1-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Dyma hefyd ddiarhebion Solomon, y rhai a gasglodd gwŷr Heseceia brenin Jwda. Anrhydedd DUW yw dirgelu peth: ond anrhydedd brenin yw chwilio peth allan. Y nefoedd am uchder, y ddaear am ddyfnder, a chalon brenhinoedd, ni ellir eu chwilio. Tyn yr amhuredd oddi wrth yr arian, a daw i’r gof arian lestr. Tyn yr annuwiol o olwg y brenin, a’i orseddfa ef a gadarnheir trwy gyfiawnder. Nac ymogonedda gerbron y brenin; ac na saf yn lle gwŷr mawr: Canys gwell i ti ddywedyd wrthyt, Tyred yma i fyny, na’th fwrw yn is gerbron pendefig yr hwn a welodd dy lygaid. Na ddos allan i gynhennu ar frys: rhag na wypych beth a wnelych yn ei diwedd, wedi dy gywilyddio gan dy gymydog. Ymresyma â’th gymydog ei hun: ond na ddatguddia gyfrinach i arall: Rhag i’r neb a fyddo yn gwrando ddwyn gwarth arnat ti; ac i’th gywilydd na thro ymaith. Gair a ddyweder mewn amser sydd megis afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig. Ceryddwr doeth i’r glust a wrandawo, sydd fel anwyldlws euraid, a gwisg o aur rhagorol. Megis oerder eira yn amser cynhaeaf, yw cennad ffyddlon i’r rhai a’i gyrrant: canys efe a lawenycha enaid ei feistriaid. Y neb a ymffrostio o achos gau rodd, sydd gyffelyb i gymylau a gwynt heb law. Trwy hirymaros y bodlonir pendefig: a thafod esmwyth a dyr asgwrn. Pan gaffech fêl, bwyta a’th wasanaetho: rhag wedi dy lenwi ohono, i ti ei chwydu ef. Cadw dy droed allan o dŷ dy gymydog: rhag iddo flino arnat, a’th gasáu. Y neb a ddygo gamdystiolaeth yn erbyn ei gymydog, sydd megis gordd, a chleddyf, a saeth lem. Hyder ar ffalswr yn nydd cyfyngder, sydd megis dant wedi ei dorri, a throed wedi tyrfu. Fel yr hwn a ddygo ymaith wisg yn amser oerfel, ac fel finegr ar nitr, felly y mae yr hwn sydd yn canu caniadau i galon drist. Os dy elyn a newyna, portha ef â bara; ac os sycheda, dod iddo ddiod i’w hyfed: Canys marwor a bentyrri ar ei ben ef; a’r ARGLWYDD a dâl i ti. Gwynt y gogledd a yrr y glaw ymaith: felly y gyr wynepryd dicllon dafod athrotgar. Gwell yw trigo mewn congl yn nen tŷ, na chyda gwraig anynad mewn tŷ eang. Fel dyfroedd oerion i enaid sychedig, yw newyddion da o wlad bell. Gŵr cyfiawn wedi syrthio i lawr gerbron y drygionus, sydd megis ffynnon wedi ei chymysgu â gofer budr. Nid da bwyta llawer o fêl: ac felly chwilio eu hanrhydedd, nid anrhydedd yw. Y neb ni byddo ganddo atal ar ei ysbryd ei hun, sydd megis dinas ddrylliog heb gaer.