Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 24:1-34

Diarhebion 24:1-34 BCND

Paid â chenfigennu wrth bobl ddrwg, na dymuno bod yn eu cwmni; oherwydd y maent hwy'n meddwl am drais, a'u genau'n sôn am drybini. Fe adeiledir tŷ trwy ddoethineb, a'i sicrhau trwy wybodaeth. Trwy ddeall y llenwir ystafelloedd â phob eiddo gwerthfawr a dymunol. Y mae'r doeth yn fwy grymus na'r cryf, a'r un deallus na'r un nerthol; oherwydd gelli drefnu dy frwydr â medrusrwydd, a chael buddugoliaeth â llawer o gynghorwyr. Y mae doethineb allan o gyrraedd y ffŵl; nid yw'n agor ei geg yn y porth. Bydd yr un sy'n cynllunio i wneud drwg yn cael ei alw yn ddichellgar. Y mae dichell y ffŵl yn bechod, ac y mae pobl yn ffieiddio'r gwatwarwr. Os torri dy galon yn nydd cyfyngder, yna y mae dy nerth yn wan. Achub y rhai a ddygir i farwolaeth; rho gymorth i'r rhai a lusgir i'w lladd. Os dywedi, “Ni wyddem ni am hyn”, onid yw'r un sy'n pwyso'r galon yn deall? Y mae'r un sy'n dy wylio yn gwybod, ac yn talu i bob un yn ôl ei waith. Fy mab, bwyta fêl, oherwydd y mae'n dda, ac y mae diliau mêl yn felys i'th enau. Felly y mae deall a doethineb i'th fywyd; os cei hwy, yna y mae iti ddyfodol, ac ni thorrir ymaith dy obaith. Paid â llechu fel drwgweithredwr wrth drigfan y cyfiawn, a phaid ag ymosod ar ei gartref. Er i'r cyfiawn syrthio seithwaith, eto fe gyfyd; ond fe feglir y drygionus gan adfyd. Paid â llawenhau pan syrth dy elyn, nac ymfalchïo pan feglir ef, rhag i'r ARGLWYDD weld, a bod yn anfodlon, a throi ei ddig oddi wrtho. Na fydd ddig wrth y rhai drygionus, na chenfigennu wrth y rhai sy'n gwneud drwg. Oherwydd nid oes dyfodol i neb drwg, a diffoddir goleuni'r drygionus. Fy mab, ofna'r ARGLWYDD a'r brenin; paid â bod yn anufudd iddynt, oherwydd fe ddaw dinistr sydyn oddi wrthynt, a phwy a ŵyr y distryw a achosant ill dau? Dyma hefyd eiriau'r doethion: Nid yw'n iawn dangos ffafr mewn barn. Pwy bynnag a ddywed wrth yr euog, “Yr wyt yn ddieuog”, fe'i melltithir gan bobloedd a'i gollfarnu gan genhedloedd. Ond caiff y rhai sy'n eu ceryddu foddhad, a daw gwir fendith arnynt. Y mae rhoi ateb gonest fel rhoi cusan ar wefusau. Rho drefn ar dy waith y tu allan, a threfna'r hyn sydd yn dy gae, ac yna adeilada dy dŷ. Paid â thystio yn erbyn dy gymydog yn ddiachos, na thwyllo â'th eiriau. Paid â dweud, “Gwnaf iddo fel y gwnaeth ef i mi; talaf iddo yn ôl ei weithred.” Euthum heibio i faes un diog, ac i winllan un disynnwyr, a sylwais eu bod yn llawn drain, a danadl drostynt i gyd, a'u mur o gerrig wedi ei chwalu. Edrychais arnynt ac ystyried; sylwais a dysgu gwers: ychydig gwsg, ychydig hepian, ychydig blethu dwylo i orffwys, a daw tlodi atat fel dieithryn creulon, ac angen fel gŵr arfog.