Pan eisteddi i fwyta gyda llywodraethwr, rho sylw manwl i'r hyn sydd o'th flaen, a gosod gyllell at dy wddf os wyt yn un blysig. Paid â chwennych ei ddanteithion, oherwydd bwyd sy'n twyllo ydyw. Paid â'th flino dy hun i ennill cyfoeth; bydd yn ddigon synhwyrol i ymatal. Os tynni dy lygaid oddi arno, y mae'n diflannu, oherwydd y mae'n magu adenydd, fel eryr yn hedfan i'r awyr. Paid â bwyta gyda neb cybyddlyd, na chwennych ei ddanteithion, oherwydd bydd hynny fel blewyn yn ei lwnc; bydd yn dweud wrthyt, “Bwyta ac yf”, ond ni fydd yn meddwl hynny. Byddi'n chwydu'r tameidiau a fwyteaist, ac yn gwastraffu dy ganmoliaeth. Paid â llefaru yng nghlyw'r ffŵl, oherwydd bydd yn dirmygu synnwyr dy eiriau. Paid â symud yr hen derfynau, na chymryd meddiant o diroedd yr amddifaid; oherwydd y mae eu Gwaredwr yn gryf, a bydd yn amddiffyn eu hachos yn dy erbyn. Gosod dy feddwl ar gyfarwyddyd, a'th glust ar eiriau deall. Paid ag atal disgyblaeth oddi wrth blentyn; os byddi'n ei guro â gwialen, ni fydd yn marw. Os byddi'n ei guro â gwialen, byddi'n achub ei fywyd o Sheol. Fy mab, os bydd dy galon yn ddoeth, bydd fy nghalon innau yn llawen. Byddaf yn llawenhau drwof i gyd pan fydd dy enau yn llefaru'n uniawn. Paid â chenfigennu wrth bechaduriaid, ond wrth y rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD bob amser; os felly, bydd dyfodol iti, ac ni thorrir ymaith dy obaith.
Darllen Diarhebion 23
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Diarhebion 23:1-18
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos