Rho sylw, a gwrando ar eiriau'r doethion, a gosod dy feddwl ar fy neall; oherwydd y mae'n werth iti eu cadw yn dy galon, ac iddynt oll gael eu sicrhau ar dy wefusau. Er mwyn i ti roi dy hyder yn yr ARGLWYDD yr wyf yn eu dysgu iti heddiw—ie, i ti! Onid wyf wedi ysgrifennu iti ddeg ar hugain o ddywediadau, yn llawn cyngor a deall, i ddysgu iti wirionedd geiriau cywir, fel y gelli roi ateb cywir i'r rhai a'th anfonodd? Paid ag ysbeilio'r tlawd am ei fod yn dlawd, a phaid â sathru'r anghenus yn y porth; oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn dadlau eu hachos, ac yn difetha'r rhai sy'n eu difetha hwy. Paid â chyfeillachu â neb a chanddo dymer ddrwg, nac aros yng nghwmni'r dicllon, rhag iti ddysgu ei ffordd, a'th gael dy hun mewn magl. Paid â rhoi gwystl, a mynd yn feichiau am ddyledion; os na fydd gennyt ddim i dalu, oni chymerir dy wely oddi arnat? Paid â symud yr hen derfynau a osodwyd gan dy hynafiaid. Gwelaist un medrus yn ei waith; bydd yn gwasanaethu brenhinoedd, ond ni fydd yn gwasanaethu pobl ddibwys.
Darllen Diarhebion 22
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Diarhebion 22:17-29
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos