Y mae ateb llednais yn dofi dig,
ond gair garw yn cynnau llid.
Y mae tafod y doeth yn clodfori deall,
ond genau ffyliaid yn parablu ffolineb.
Y mae llygaid yr ARGLWYDD ym mhob man,
yn gwylio'r drwg a'r da.
Y mae tafod tyner yn bren bywiol,
ond tafod garw yn dryllio'r ysbryd.
Diystyra'r ffôl ddisgyblaeth ei dad,
ond deallus yw'r un a rydd sylw i gerydd.
Y mae llawer o gyfoeth yn nhŷ'r cyfiawn,
ond trallod sydd yn enillion y drygionus.
Gwasgaru gwybodaeth y mae genau'r doeth,
ond nid felly feddwl y ffyliaid.
Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw aberth y drygionus,
ond y mae gweddi'r uniawn wrth ei fodd.
Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw ffordd y drygionus,
ond y mae'n caru'r rhai sy'n dilyn cyfiawnder.
Bydd disgyblaeth lem ar yr un sy'n gadael y ffordd,
a bydd y sawl sy'n casáu cerydd yn trengi.
Y mae Sheol ac Abadon dan lygad yr ARGLWYDD;
pa faint mwy feddyliau pobl?
Nid yw'r gwatwarwr yn hoffi cerydd;
nid yw'n cyfeillachu â'r doethion.
Y mae calon lawen yn sirioli'r wyneb,
ond dryllir yr ysbryd gan boen meddwl.
Y mae calon ddeallus yn ceisio gwybodaeth,
ond y mae genau'r ffyliaid yn ymborthi ar ffolineb.
I'r cystuddiol, y mae pob diwrnod yn flinderus,
ond y mae calon hapus yn wledd wastadol.
Gwell ychydig gydag ofn yr ARGLWYDD
na chyfoeth mawr a thrallod gydag ef.
Gwell yw pryd o lysiau lle mae cariad,
nag ych pasgedig a chasineb gydag ef.
Y mae un drwg ei dymer yn codi cynnen,
ond y mae'r amyneddgar yn tawelu cweryl.
Y mae ffordd y diog fel llwyn mieri,
ond llwybr yr uniawn fel priffordd wastad.
Rhydd mab doeth lawenydd i'w dad,
ond y mae'r ffôl yn dilorni ei fam.
Y mae ffolineb yn ddifyrrwch i'r disynnwyr,
ond y mae'r deallus yn cadw ffordd union.
Drysir cynlluniau pan nad oes ymgynghori,
ond daw llwyddiant pan geir llawer o gynghorwyr.
Caiff rhywun foddhad pan fydd ganddo ateb,
a beth sy'n well na gair yn ei bryd?
Y mae ffordd y bywyd yn dyrchafu'r deallus,
i'w droi oddi wrth Sheol isod.
Y mae'r ARGLWYDD yn dymchwel tŷ'r balch,
ond yn diogelu terfynau'r weddw.
Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw bwriadau drwg,
ond y mae geiriau pur yn hyfrydwch iddo.
Y mae'r un sy'n awchu am elw yn creu anghydfod yn ei dŷ,
ond y sawl sy'n casáu cildwrn yn cael bywyd.
Y mae'r cyfiawn yn ystyried cyn rhoi ateb,
ond y mae genau'r drygionus yn parablu drwg.
Pell yw'r ARGLWYDD oddi wrth y drygionus,
ond gwrendy ar weddi'r cyfiawn.
Y mae llygaid sy'n gloywi yn llawenhau'r galon,
a newydd da yn adfywio'r corff.
Y mae'r glust sy'n gwrando ar wersi bywyd
yn aros yng nghwmni'r doeth.
Y mae'r un sy'n gwrthod disgyblaeth yn ei gasáu ei hun,
ond y sawl sy'n gwrando ar gerydd yn berchen deall.
Y mae ofn yr ARGLWYDD yn ddisgyblaeth mewn doethineb,
a gostyngeiddrwydd yn arwain i anrhydedd.