Dwyn elw iddo'i hun y mae'r trugarog, ond ei niweidio'i hun y mae'r creulon. Gwneud elw twyllodrus y mae'r drygionus, ond caiff yr un sy'n hau cyfiawnder gyflog teg. I'r un sy'n glynu wrth gyfiawnder daw bywyd, ond i'r sawl sy'n dilyn drygioni marwolaeth. Y mae'r rhai gwrthnysig yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, ond y mae'r rhai cywir wrth ei fodd. Y mae'n sicr na chaiff un drwg osgoi cosb, ond caiff plant y cyfiawn fynd yn rhydd. Fel modrwy aur yn nhrwyn hwch, felly y mae gwraig brydferth heb synnwyr. Dymuno'r hyn sydd dda a wna'r cyfiawn, ond diflanna gobaith y drygionus. Y mae un yn hael, ac eto'n ennill cyfoeth, ond arall yn grintach, a phob amser mewn angen. Llwydda'r un a wasgar fendithion, a diwellir yr un a ddiwalla eraill.
Darllen Diarhebion 11
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Diarhebion 11:17-25
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos