Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 11:1-31

Diarhebion 11:1-31 BCND

Y mae cloriannau twyllodrus yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, ond pwysau cywir wrth ei fodd. Yn dilyn balchder fe ddaw amarch, ond gyda'r rhai gwylaidd y mae doethineb. Y mae eu gonestrwydd yn arwain yr uniawn, ond eu gwyrni eu hunain yn difa'r twyllwyr. Nid oes gwerth mewn cyfoeth yn nydd dicter, ond y mae cyfiawnder yn amddiffyn rhag angau. Y mae cyfiawnder y cywir yn ei gadw ar y ffordd union, ond cwympa'r drygionus trwy ei ddrygioni. Y mae eu cyfiawnder yn gwaredu'r uniawn, ond eu trachwant yn fagl i'r twyllwyr. Pan fydd farw'r drygionus, derfydd gobaith, a daw terfyn ar hyder mewn cyfoeth. Gwaredir y cyfiawn rhag adfyd, ond fe â'r drygionus dros ei ben iddo. Y mae'r annuwiol yn dinistrio'i gymydog â'i eiriau, ond gwaredir y cyfiawn trwy ddeall. Ymhyfryda dinas yn llwyddiant y cyfiawn, a cheir gorfoledd pan ddinistrir y drygionus. Dyrchefir dinas gan fendith yr uniawn, ond dinistrir hi trwy eiriau'r drygionus. Y mae'r disynnwyr yn dilorni ei gymydog, ond cadw'n dawel a wna'r deallus. Y mae'r straegar yn bradychu cyfrinach, ond y mae'r teyrngar yn ei chadw. Heb ei chyfarwyddo, methu a wna cenedl, ond y mae diogelwch mewn llawer o gynghorwyr. Daw helbul o fynd yn feichiau dros ddieithryn, ond y mae'r un sy'n casáu mechnïaeth yn ddiogel. Y mae gwraig raslon yn cael clod, ond pobl ddidostur sy'n ennill cyfoeth. Dwyn elw iddo'i hun y mae'r trugarog, ond ei niweidio'i hun y mae'r creulon. Gwneud elw twyllodrus y mae'r drygionus, ond caiff yr un sy'n hau cyfiawnder gyflog teg. I'r un sy'n glynu wrth gyfiawnder daw bywyd, ond i'r sawl sy'n dilyn drygioni marwolaeth. Y mae'r rhai gwrthnysig yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, ond y mae'r rhai cywir wrth ei fodd. Y mae'n sicr na chaiff un drwg osgoi cosb, ond caiff plant y cyfiawn fynd yn rhydd. Fel modrwy aur yn nhrwyn hwch, felly y mae gwraig brydferth heb synnwyr. Dymuno'r hyn sydd dda a wna'r cyfiawn, ond diflanna gobaith y drygionus. Y mae un yn hael, ac eto'n ennill cyfoeth, ond arall yn grintach, a phob amser mewn angen. Llwydda'r un a wasgar fendithion, a diwellir yr un a ddiwalla eraill. Y mae pobl yn melltithio'r un sy'n cronni ŷd, ond yn bendithio'r sawl sy'n ei werthu. Y mae'r un sy'n ceisio daioni yn ennill ffafr, ond syrth drygioni ar y sawl sy'n ei ddilyn. Cwympa'r un sy'n ymddiried yn ei gyfoeth, ond ffynna'r cyfiawn fel deilen werdd. Y mae'r un sy'n peri helbul i'w deulu'n etifeddu'r gwynt, a bydd y ffôl yn was i'r doeth. Ffrwyth cyfiawnder yw pren y bywyd, ond y mae trais yn difa bywydau. Os caiff y cyfiawn ei dalu ar y ddaear, pa faint mwy y drygionus a'r pechadur?