Dyma ddiarhebion Solomon:
Y mae mab doeth yn gwneud ei dad yn llawen,
ond mab ffôl yn dwyn gofid i'w fam.
Nid oes elw o drysorau a gaed mewn drygioni,
ond y mae cyfiawnder yn amddiffyn rhag marwolaeth.
Nid yw'r ARGLWYDD yn gadael i'r cyfiawn newynu,
ond y mae'n siomi chwant y rhai drwg.
Y mae llaw segur yn dwyn tlodi,
ond llaw ddiwyd yn peri cyfoeth.
Y mae mab sy'n cywain yn yr haf yn ddeallus,
ond un sy'n cysgu trwy'r cynhaeaf yn dod â chywilydd.
Bendithion sy'n disgyn ar y cyfiawn,
ond y mae genau'r drwg yn cuddio trais.
Y mae cofio'r cyfiawn yn dwyn bendith,
ond y mae enw'r drwg yn diflannu.
Y mae'r doeth yn derbyn gorchymyn,
ond y ffôl ei siarad yn cael ei ddifetha.
Y mae'r un sy'n byw'n uniawn yn cerdded yn ddiogel,
ond darostyngir yr un sy'n gwyrdroi ei ffyrdd.
Y mae wincio â'r llygad yn achosi helbul,
ond cerydd agored yn peri heddwch.
Ffynnon bywyd yw geiriau'r cyfiawn,
ond y mae genau'r drwg yn cuddio trais.
Y mae casineb yn achosi cynnen,
ond y mae cariad yn cuddio pob trosedd.
Ar wefusau'r deallus ceir doethineb,
ond rhoddir gwialen ar gefn y disynnwyr.
Y mae'r doeth yn trysori deall,
ond dwyn dinistr yn agos a wna siarad ffôl.
Golud y cyfoethog yw ei ddinas gadarn,
ond dinistr y tlawd yw ei dlodi.
Cyflog y cyfiawn yw bywyd,
ond cynnyrch y drwg yw pechod.
Y mae derbyn disgyblaeth yn arwain i fywyd,
ond gwrthod cerydd yn arwain ar ddisberod.
Y mae gwefusau twyllodrus yn anwesu casineb,
a ffôl yw'r un sy'n enllibio.
Pan amlheir geiriau nid oes ball ar dramgwyddo,
ond y mae'r deallus yn atal ei eiriau.
Y mae tafod y cyfiawn fel arian dethol,
ond diwerth yw calon yr un drwg.
Y mae geiriau'r cyfiawn yn cynnal llawer,
ond y mae ffyliaid yn marw o ddiffyg synnwyr.
Bendith yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfoeth,
ac nid yw'n ychwanegu gofid gyda hi.
Gwneud anlladrwydd sy'n ddifyrrwch i'r ffôl,
ond doethineb yw hyfrydwch y deallus.
Yr hyn a ofna a ddaw ar y drygionus,
ond caiff y cyfiawn ei ddymuniad.
Ar ôl y storm, ni bydd sôn am y drygionus,
ond y mae sylfaen y cyfiawn yn dragwyddol.
Fel finegr i'r dannedd, neu fwg i'r llygaid,
felly y mae'r diogyn i'w feistr.
Y mae ofn yr ARGLWYDD yn estyn dyddiau,
ond mae blynyddoedd y rhai drygionus yn cael eu byrhau.
Y mae gobaith y cyfiawn yn troi'n llawenydd,
ond derfydd gobaith y drygionus.
Y mae ffordd yr ARGLWYDD yn noddfa i'r uniawn,
ond yn ddinistr i'r rhai a wna ddrwg.
Ni symudir y cyfiawn byth,
ond nid erys y drygionus ar y ddaear.
Y mae genau'r cyfiawn yn llefaru doethineb,
ond torrir ymaith y tafod twyllodrus.
Gŵyr gwefusau'r cyfiawn beth sy'n gymeradwy,
ond twyllodrus yw genau'r drygionus.