Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 10:1-32

Diarhebion 10:1-32 BCND

Dyma ddiarhebion Solomon: Y mae mab doeth yn gwneud ei dad yn llawen, ond mab ffôl yn dwyn gofid i'w fam. Nid oes elw o drysorau a gaed mewn drygioni, ond y mae cyfiawnder yn amddiffyn rhag marwolaeth. Nid yw'r ARGLWYDD yn gadael i'r cyfiawn newynu, ond y mae'n siomi chwant y rhai drwg. Y mae llaw segur yn dwyn tlodi, ond llaw ddiwyd yn peri cyfoeth. Y mae mab sy'n cywain yn yr haf yn ddeallus, ond un sy'n cysgu trwy'r cynhaeaf yn dod â chywilydd. Bendithion sy'n disgyn ar y cyfiawn, ond y mae genau'r drwg yn cuddio trais. Y mae cofio'r cyfiawn yn dwyn bendith, ond y mae enw'r drwg yn diflannu. Y mae'r doeth yn derbyn gorchymyn, ond y ffôl ei siarad yn cael ei ddifetha. Y mae'r un sy'n byw'n uniawn yn cerdded yn ddiogel, ond darostyngir yr un sy'n gwyrdroi ei ffyrdd. Y mae wincio â'r llygad yn achosi helbul, ond cerydd agored yn peri heddwch. Ffynnon bywyd yw geiriau'r cyfiawn, ond y mae genau'r drwg yn cuddio trais. Y mae casineb yn achosi cynnen, ond y mae cariad yn cuddio pob trosedd. Ar wefusau'r deallus ceir doethineb, ond rhoddir gwialen ar gefn y disynnwyr. Y mae'r doeth yn trysori deall, ond dwyn dinistr yn agos a wna siarad ffôl. Golud y cyfoethog yw ei ddinas gadarn, ond dinistr y tlawd yw ei dlodi. Cyflog y cyfiawn yw bywyd, ond cynnyrch y drwg yw pechod. Y mae derbyn disgyblaeth yn arwain i fywyd, ond gwrthod cerydd yn arwain ar ddisberod. Y mae gwefusau twyllodrus yn anwesu casineb, a ffôl yw'r un sy'n enllibio. Pan amlheir geiriau nid oes ball ar dramgwyddo, ond y mae'r deallus yn atal ei eiriau. Y mae tafod y cyfiawn fel arian dethol, ond diwerth yw calon yr un drwg. Y mae geiriau'r cyfiawn yn cynnal llawer, ond y mae ffyliaid yn marw o ddiffyg synnwyr. Bendith yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfoeth, ac nid yw'n ychwanegu gofid gyda hi. Gwneud anlladrwydd sy'n ddifyrrwch i'r ffôl, ond doethineb yw hyfrydwch y deallus. Yr hyn a ofna a ddaw ar y drygionus, ond caiff y cyfiawn ei ddymuniad. Ar ôl y storm, ni bydd sôn am y drygionus, ond y mae sylfaen y cyfiawn yn dragwyddol. Fel finegr i'r dannedd, neu fwg i'r llygaid, felly y mae'r diogyn i'w feistr. Y mae ofn yr ARGLWYDD yn estyn dyddiau, ond mae blynyddoedd y rhai drygionus yn cael eu byrhau. Y mae gobaith y cyfiawn yn troi'n llawenydd, ond derfydd gobaith y drygionus. Y mae ffordd yr ARGLWYDD yn noddfa i'r uniawn, ond yn ddinistr i'r rhai a wna ddrwg. Ni symudir y cyfiawn byth, ond nid erys y drygionus ar y ddaear. Y mae genau'r cyfiawn yn llefaru doethineb, ond torrir ymaith y tafod twyllodrus. Gŵyr gwefusau'r cyfiawn beth sy'n gymeradwy, ond twyllodrus yw genau'r drygionus.