Diarhebion Solomon fab Dafydd, brenin Israel—
i gael doethineb ac addysg,
i ddeall geiriau deallus,
i dderbyn addysg fuddiol,
cyfiawnder, barn, ac uniondeb,
i roi craffter i'r gwirion,
a gwybodaeth a synnwyr i'r ifanc.
Y mae'r doeth yn gwrando ac yn cynyddu mewn dysg,
a'r deallus yn ennill medrusrwydd,
i ddeall dameg a'i dehongliad,
dywediadau'r doeth a'u posau.
Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau gwybodaeth,
ond y mae ffyliaid yn diystyru doethineb a disgyblaeth.
Fy mab, gwrando ar addysg dy dad,
paid â gwrthod cyfarwyddyd dy fam;
bydd yn dorch brydferth ar dy ben,
ac yn gadwyn am dy wddf.
Fy mab, os hudir di gan bechaduriaid,
paid â chytuno â hwy.
Fe ddywedant, “Tyrd gyda ni,
inni gynllwynio i dywallt gwaed,
a llechu'n ddiachos yn erbyn y diniwed;
fel Sheol, llyncwn hwy'n fyw
ac yn gyfan, fel rhai'n disgyn i'r pwll;
fe gymerwn bob math ar gyfoeth,
a llenwi ein tai ag ysbail;
bwrw dy goelbren gyda ni,
a bydd un pwrs rhyngom i gyd.”
Fy mab, paid â mynd yr un ffordd â hwy;
cadw dy droed oddi ar eu llwybr.
Oherwydd y mae eu traed yn rhuthro at ddrwg,
ac yn prysuro i dywallt gwaed.
Yn sicr, ofer yw gosod rhwyd
yng ngolwg unrhyw aderyn hedegog.
Am eu gwaed eu hunain y maent yn cynllwynio,
ac yn llechu yn eu herbyn eu hunain.
Dyma dynged pob un awchus am elw;
y mae'n cymryd einioes y sawl a'i piau.
Y mae doethineb yn galw'n uchel yn y stryd,
yn codi ei llais yn y sgwâr,
yn gweiddi ar ben y muriau,
yn traethu ei geiriau ym mynedfa pyrth y ddinas.
Chwi'r rhai gwirion, pa hyd y bodlonwch ar fod yn wirion,
ac yr ymhyfryda'r gwatwarwyr mewn gwatwar,
ac y casâ ffyliaid wybodaeth?
Os newidiwch eich ffyrdd dan fy ngherydd,
tywalltaf fy ysbryd arnoch,
a gwneud i chwi ddeall fy ngeiriau.
Ond am i mi alw, a chwithau heb ymateb,
ac imi estyn fy llaw, heb neb yn gwrando;
am i chwi ddiystyru fy holl gyngor,
a gwrthod fy ngherydd—
am hynny, chwarddaf ar eich dinistr,
a gwawdio pan ddaw dychryn arnoch,
pan ddaw dychryn arnoch fel corwynt,
a dinistr yn taro fel storm,
pan ddaw adfyd a gwasgfa arnoch.
Yna galwant arnaf, ond nid atebaf;
fe'm ceisiant yn ddyfal, ond heb fy nghael.
Oherwydd iddynt gasáu gwybodaeth,
a throi oddi wrth ofn yr ARGLWYDD,
a gwrthod fy nghyngor,
ac anwybyddu fy holl gerydd,
cânt fwyta o ffrwyth eu ffyrdd,
a syrffedu ar eu cynlluniau.
Oherwydd bydd anufudd-dod y gwirion yn eu lladd,
a difrawder y ffyliaid yn eu difa.
Ond bydd yr un a wrendy arnaf yn byw'n ddiogel,
yn dawel heb ofni drwg.