Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 1:1-33

Diarhebion 1:1-33 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Diarhebion Solomon, mab Dafydd, brenin Israel: I dy helpu i fod yn ddoeth a dysgu byw yn iawn, ac i ti ddeall beth sy’n gyngor call. I ti ddysgu sut i fod yn bwyllog, yn gyfiawn, yn gytbwys, ac yn deg. I ddysgu rhai gwirion i fod yn gall, a dangos y ffordd iawn i bobl ifanc. (Bydd y doeth yn gwrando ac eisiau dysgu mwy, a’r rhai sy’n gall yn derbyn arweiniad.) Hefyd, i ti ddeall dihareb a gallu dehongli dywediadau doeth a phosau. Parchu’r ARGLWYDD ydy’r cam cyntaf at wybodaeth; does gan ffyliaid ddim diddordeb mewn bod yn ddoeth na dysgu byw yn iawn. Fy mab, gwrando ar beth mae dy dad yn ei ddweud, a phaid anghofio beth ddysgodd dy fam i ti. Bydd beth ddysgon nhw i ti fel torch hyfryd ar dy ben, neu gadwyni hardd am dy wddf. Fy mab, os ydy cwmni drwg yn ceisio dy ddenu di, paid mynd gyda nhw. Os dwedan nhw, “Tyrd gyda ni! Gad i ni guddio i ymosod ar rywun; mygio rhywun diniwed am ddim rheswm! Gad i ni eu llyncu nhw’n fyw, fel y bedd; a rhoi crasfa iawn iddyn nhw, nes byddan nhw bron â marw. Cawn ni pob math o bethau gwerthfawr, a llenwi ein tai gyda phethau wedi’u dwyn. Tyrd gyda ni! Bydd yn fentrus – byddwn yn rhannu popeth gawn ni.” Fy mab, paid mynd y ffordd yna; cadw draw oddi wrthyn nhw. Maen nhw’n rhuthro i wneud drwg; maen nhw ar frys i dywallt gwaed. Fel mae’r rhwyd sy’n cael ei gosod yn golygu dim byd i’r aderyn, dŷn nhw ddim yn gweld y perygl – maen nhw’n dinistrio’u bywydau eu hunain! Ie, dyna sy’n digwydd i’r rhai sy’n elwa ar draul eraill; mae ymddwyn felly yn difetha bywyd y person ei hun! Mae doethineb yn gweiddi ar y strydoedd, ac yn codi ei llais yn y sgwâr. Mae’n sefyll ar gorneli’r strydoedd prysur ac yn galw allan; ac yn dweud ei dweud wrth giatiau’r ddinas: “Ydych chi, bobl wirion, yn mwynhau anwybodaeth? Ydych chi sy’n gwawdio am ddal ati? A chi rai dwl, ydych chi byth eisiau dysgu? Peidiwch diystyru beth dw i’n ddweud! Dw i’n mynd i dywallt fy nghalon, a dweud beth sydd ar fy meddwl wrthoch chi. Roeddech chi wedi gwrthod ymateb pan o’n i’n galw, ac yn cymryd dim sylw pan wnes i estyn llaw atoch chi. Roeddech chi’n diystyru’r cyngor oedd gen i ac yn gwrthod gwrando arna i’n ceryddu. Ond fi fydd yn chwerthin pan fyddwch chi mewn trafferthion; fi fydd yn gwawdio pan fyddwch chi’n panicio! Bydd dychryn yn dod arnoch chi fel storm, a thrychineb yn eich taro chi fel corwynt! Byddwch mewn helbul ac mewn argyfwng go iawn. Byddwch chi’n galw arna i bryd hynny, ond fydda i ddim yn ateb; byddwch chi’n chwilio’n daer amdana i, ond yn methu dod o hyd i mi. Roeddech chi wedi gwrthod dysgu, ac wedi dangos dim parch at yr ARGLWYDD. Gwrthod y cyngor rois i, a chymryd dim sylw pan oeddwn i’n dweud y drefn. Felly bydd rhaid i chi wynebu canlyniadau eich ffyrdd, a byddwch wedi cael llond bol ar eich cynlluniau. Bydd anufudd-dod pobl wirion yn eu lladd nhw, a difaterwch pobl ddwl yn eu dinistrio. Ond bydd pwy bynnag sy’n gwrando arna i yn saff, yn dawel eu meddwl, ac yn ofni dim.”

Diarhebion 1:1-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Diarhebion Solomon fab Dafydd, brenin Israel— i gael doethineb ac addysg, i ddeall geiriau deallus, i dderbyn addysg fuddiol, cyfiawnder, barn, ac uniondeb, i roi craffter i'r gwirion, a gwybodaeth a synnwyr i'r ifanc. Y mae'r doeth yn gwrando ac yn cynyddu mewn dysg, a'r deallus yn ennill medrusrwydd, i ddeall dameg a'i dehongliad, dywediadau'r doeth a'u posau. Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau gwybodaeth, ond y mae ffyliaid yn diystyru doethineb a disgyblaeth. Fy mab, gwrando ar addysg dy dad, paid â gwrthod cyfarwyddyd dy fam; bydd yn dorch brydferth ar dy ben, ac yn gadwyn am dy wddf. Fy mab, os hudir di gan bechaduriaid, paid â chytuno â hwy. Fe ddywedant, “Tyrd gyda ni, inni gynllwynio i dywallt gwaed, a llechu'n ddiachos yn erbyn y diniwed; fel Sheol, llyncwn hwy'n fyw ac yn gyfan, fel rhai'n disgyn i'r pwll; fe gymerwn bob math ar gyfoeth, a llenwi ein tai ag ysbail; bwrw dy goelbren gyda ni, a bydd un pwrs rhyngom i gyd.” Fy mab, paid â mynd yr un ffordd â hwy; cadw dy droed oddi ar eu llwybr. Oherwydd y mae eu traed yn rhuthro at ddrwg, ac yn prysuro i dywallt gwaed. Yn sicr, ofer yw gosod rhwyd yng ngolwg unrhyw aderyn hedegog. Am eu gwaed eu hunain y maent yn cynllwynio, ac yn llechu yn eu herbyn eu hunain. Dyma dynged pob un awchus am elw; y mae'n cymryd einioes y sawl a'i piau. Y mae doethineb yn galw'n uchel yn y stryd, yn codi ei llais yn y sgwâr, yn gweiddi ar ben y muriau, yn traethu ei geiriau ym mynedfa pyrth y ddinas. Chwi'r rhai gwirion, pa hyd y bodlonwch ar fod yn wirion, ac yr ymhyfryda'r gwatwarwyr mewn gwatwar, ac y casâ ffyliaid wybodaeth? Os newidiwch eich ffyrdd dan fy ngherydd, tywalltaf fy ysbryd arnoch, a gwneud i chwi ddeall fy ngeiriau. Ond am i mi alw, a chwithau heb ymateb, ac imi estyn fy llaw, heb neb yn gwrando; am i chwi ddiystyru fy holl gyngor, a gwrthod fy ngherydd— am hynny, chwarddaf ar eich dinistr, a gwawdio pan ddaw dychryn arnoch, pan ddaw dychryn arnoch fel corwynt, a dinistr yn taro fel storm, pan ddaw adfyd a gwasgfa arnoch. Yna galwant arnaf, ond nid atebaf; fe'm ceisiant yn ddyfal, ond heb fy nghael. Oherwydd iddynt gasáu gwybodaeth, a throi oddi wrth ofn yr ARGLWYDD, a gwrthod fy nghyngor, ac anwybyddu fy holl gerydd, cânt fwyta o ffrwyth eu ffyrdd, a syrffedu ar eu cynlluniau. Oherwydd bydd anufudd-dod y gwirion yn eu lladd, a difrawder y ffyliaid yn eu difa. Ond bydd yr un a wrendy arnaf yn byw'n ddiogel, yn dawel heb ofni drwg.

Diarhebion 1:1-33 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Diarhebion Solomon mab Dafydd, brenin Israel; I wybod doethineb ac addysg, i ddeall geiriau synnwyr; I gymryd athrawiaeth deall, cyfiawnder, a barn, ac uniondeb; I roi callineb i’r angall, ac i’r bachgen wybodaeth a synnwyr. Y doeth a wrendy, ac a chwanega addysg; a’r deallgar a ddaw i gynghorion pwyllog: I ddeall dihareb, a’i deongl; geiriau y doethion, a’u damhegion. Ofn yr ARGLWYDD yw dechreuad gwybodaeth: ond ffyliaid a ddiystyrant ddoethineb ac addysg. Fy mab, gwrando addysg dy dad, ac nac ymado â chyfraith dy fam: Canys cynnydd gras a fyddant hwy i’th ben, a chadwyni am dy wddf di. Fy mab, os pechaduriaid a’th ddenant, na chytuna. Os dywedant, Tyred gyda ni, cynllwynwn am waed, ymguddiwn yn erbyn y gwirion yn ddiachos: Llyncwn hwy yn fyw, fel y bedd; ac yn gyfan, fel rhai yn disgyn i’r pydew: Nyni a gawn bob cyfoeth gwerthfawr, nyni a lanwn ein tai ag ysbail: Bwrw dy goelbren yn ein mysg; bydded un pwrs i ni i gyd: Fy mab, na rodia yn y ffordd gyda hwynt; atal dy droed rhag eu llwybr hwy. Canys eu traed a redant i ddrygioni, ac a brysurant i dywallt gwaed. Diau gwaith ofer yw taenu rhwyd yng ngolwg pob perchen adain. Ac y maent hwy yn cynllwyn am eu gwaed eu hun: am eu heinioes eu hun y maent yn llechu. Felly y mae llwybrau y rhai oll sydd chwannog i elw; yr hwn a ddwg einioes ei berchenogion. Doethineb sydd yn gweiddi oddi allan; y mae hi yn adrodd ei lleferydd yn yr heolydd: Y mae hi yn llefain ym mhrifleoedd y dyrfa, yn nrysau y pyrth; yn y ddinas y mae hi yn traethu ei hymadroddion, gan ddywedyd, Pa hyd, chwi ynfydion, y cerwch ynfydrwydd? a chwi watwarwyr, y bydd hoff gennych watwar? ac y casâ ffyliaid wybodaeth? Dychwelwch wrth fy ngherydd: wele, mi a dywalltaf fy ysbryd i chwi, fy ngeiriau a hysbysaf i chwi. Yn gymaint ag i mi eich gwahodd, ac i chwithau wrthod; i mi estyn fy llaw, a neb heb ystyried; Ond diystyrasoch fy holl gyngor i, ac ni fynnech ddim o’m cerydd: Minnau hefyd a chwarddaf yn eich dialedd chwi; mi a wawdiaf pan syrthio arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni; Pan ddêl arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni megis distryw, ac y dêl eich dialedd arnoch megis corwynt; a dyfod arnoch wasgfa a chaledi: Yna y galwant arnaf, ond ni wrandawaf; yn fore y’m ceisiant, ond ni’m cânt: Canys cas fu ganddynt wybodaeth, ac ofn yr ARGLWYDD ni ddewisasant: Ni chymerent ddim o’m cyngor i; dirmygasant fy holl gerydd. Am hynny hwy a gânt fwyta ffrwyth eu ffordd eu hunain, a’u llenwi â’u cynghorion eu hunain. Canys esmwythdra y rhai angall a’u lladd; a llwyddiant y rhai ffôl a’u difetha. Er hynny y sawl a wrandawo arnaf fi, a gaiff aros yn ddiogel, ac a gaiff lonyddwch oddi wrth ofn drwg.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd