Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Obadeia 1:1-21

Obadeia 1:1-21 BCND

Gweledigaeth Obadeia. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW am Edom (clywsom genadwri gan yr ARGLWYDD; anfonwyd cennad i blith y cenhedloedd: “Codwch! Gadewch inni fynd i frwydr yn eu herbyn”): “Wele, gwnaf di'n fychan ymysg y cenhedloedd, ac fe'th lwyr ddirmygir. Twyllwyd di gan dy galon falch, ti sy'n byw yn agennau'r graig, a'th drigfan yn uchel; dywedi yn dy galon, ‘Pwy a'm tyn i'r llawr?’ Er iti esgyn cyn uched â'r eryr, a gosod dy nyth ymysg y sêr, fe'th hyrddiaf i lawr oddi yno,” medd yr ARGLWYDD. “Pe dôi lladron atat, neu ysbeilwyr liw nos (O fel y'th ddinistriwyd!), onid digon iddynt eu hunain yn unig a ysbeilient? Pe dôi cynaeafwyr grawnwin atat, oni adawent loffion? O fel yr anrheithiwyd Esau, ac yr ysbeiliwyd ei drysorau! Y mae dy holl gynghreiriaid wedi dy dwyllo, y maent wedi dy yrru dros y terfyn; y mae dy gyfeillion wedi dy drechu, dy wahoddedigion wedi gosod magl i ti— nid oes deall ar hyn.” Ar y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, “oni ddileaf ddoethineb o Edom, a deall o fynydd Esau? Y mae dy gedyrn mewn braw, O Teman, fel y torrir ymaith bob un o fynydd Esau. Am y lladdfa, ac am y trais yn erbyn dy frawd Jacob, fe'th orchuddir gan warth, ac fe'th dorrir ymaith am byth.” “Ar y dydd y sefaist draw, ar y dydd y dygodd estroniaid ei gyfoeth, ac y daeth dieithriaid trwy ei byrth a bwrw coelbren am Jerwsalem, yr oeddit tithau fel un ohonynt. Ni ddylit ymfalchïo ar ddydd dy frawd, dydd ei drallod. Ni ddylit lawenhau dros blant Jwda ar ddydd eu dinistr; ni ddylit wneud sbort ar ddydd gofid. Ni ddylit fynd i borth fy mhobl ar ddydd eu hadfyd; ni ddylit ymfalchïo yn eu dinistr ar ddydd eu hadfyd; ni ddylit ymestyn am eu heiddo ar ddydd eu hadfyd. Ni ddylit sefyll ar y groesffordd i ddifa eu ffoaduriaid; ni ddylit drosglwyddo'r rhai a ddihangodd ar ddydd gofid.” “Y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos; daw ar yr holl genhedloedd. Fel y gwnaethost ti y gwneir i ti; fe ddychwel dy weithredoedd ar dy ben dy hun. Fel yr yfaist ar fy mynydd sanctaidd, fe yf yr holl genhedloedd yn ddi-baid; yfant a llowciant, a mynd yn anymwybodol.” “Ond ym Mynydd Seion bydd rhai dihangol a fydd yn sanctaidd; meddianna tŷ Jacob ei eiddo'i hun. A bydd tŷ Jacob yn dân, tŷ Joseff yn fflam, a thŷ Esau yn gynnud; fe'i cyneuant a'i losgi, ac ni fydd gweddill o dŷ Esau, oherwydd llefarodd yr ARGLWYDD. Bydd y Negef yn meddiannu mynydd Esau, a'r Seffela yn meddiannu gwlad y Philistiaid; byddant yn meddiannu tir Effraim a thir Samaria, a bydd Benjamin yn meddiannu Gilead. Bydd pobl Israel, caethgludion y fyddin, yn meddiannu Canaan hyd Sareffath; a chaethgludion Jerwsalem yn Seffarad yn meddiannu dinasoedd y Negef. Bydd gwaredwyr yn mynd i fyny i Fynydd Seion, i reoli mynydd Esau; a bydd y frenhiniaeth yn eiddo i'r ARGLWYDD.”