Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Numeri 33

33
O'r Aifft i Moab
1Dyma'r siwrnai a gymerodd pobl Israel pan ddaethant allan o wlad yr Aifft yn eu lluoedd dan arweiniad Moses ac Aaron. 2Croniclodd Moses enwau'r camau ar y siwrnai, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn. Dyma'r camau ar eu siwrnai. 3Cychwynnodd yr Israeliaid o Rameses ar y pymthegfed dydd o'r mis cyntaf, sef y diwrnod ar ôl y Pasg, ac aethant allan yn fuddugoliaethus yng ngŵydd yr holl Eifftiaid, 4tra oeddent hwy'n claddu pob cyntafanedig a laddwyd gan yr ARGLWYDD; fe gyhoeddodd yr ARGLWYDD farn ar eu duwiau hefyd.
5Aeth yr Israeliaid o Rameses, a gwersyllu yn Succoth. 6Aethant o Succoth a gwersyllu yn Etham, sydd ar gwr yr anialwch. 7Aethant o Etham a throi'n ôl i Pihahiroth, sydd i'r dwyrain o Baal-seffon, a gwersyllu o flaen Migdol. 8Aethant o Pihahiroth#33:8 Felly'r Fersiynau. Hebraeg, o flaen Hahiroth. a mynd trwy ganol y môr i'r anialwch, a buont yn cerdded am dridiau yn anialwch Etham cyn gwersyllu yn Mara. 9Aethant o Mara a chyrraedd Elim, lle yr oedd deuddeg o ffynhonnau dŵr a saith deg o balmwydd, a buont yn gwersyllu yno. 10Aethant o Elim a gwersyllu wrth y Môr Coch. 11Aethant o'r Môr Coch a gwersyllu yn anialwch Sin. 12Aethant o anialwch Sin a gwersyllu yn Doffca. 13Aethant o Doffca a gwersyllu yn Alus. 14Aethant o Alus a gwersyllu yn Reffidim, lle nad oedd dŵr i'r bobl i'w yfed. 15Aethant o Reffidim a gwersyllu yn anialwch Sinai. 16Aethant o anialwch Sinai a gwersyllu yn Cibroth-hattaafa. 17Aethant o Cibroth-hattaafa a gwersyllu yn Haseroth. 18Aethant o Haseroth a gwersyllu yn Rithma. 19Aethant o Rithma a gwersyllu yn Rimmon-pares. 20Aethant o Rimmon-pares a gwersyllu yn Libna. 21Aethant o Libna a gwersyllu ym Mynydd Rissa. 22Aethant o Rissa a gwersyllu yn Cehelatha. 23Aethant o Cehelatha a gwersyllu ym Mynydd Saffer. 24Aethant o Fynydd Saffer a gwersyllu yn Harada. 25Aethant o Harada a gwersyllu yn Maceloth. 26Aethant o Maceloth a gwersyllu yn Tahath. 27Aethant o Tahath a gwersyllu yn Tara. 28Aethant o Tara a gwersyllu yn Mithca. 29Aethant o Mithca a gwersyllu yn Hasmona. 30Aethant o Hasmona a gwersyllu yn Moseroth. 31Aethant o Moseroth a gwersyllu yn Bene-jaacan. 32Aethant o Bene-jaacan a gwersyllu yn Hor-haggidgad. 33Aethant o Hor-haggidgad a gwersyllu yn Jotbatha. 34Aethant o Jotbatha a gwersyllu yn Abrona. 35Aethant o Abrona a gwersyllu yn Esion-geber. 36Aethant o Esion-geber a gwersyllu yn anialwch Sin, sef Cades. 37Aethant o Cades a gwersyllu ym Mynydd Hor, sydd ar gwr gwlad Edom.
38Aeth Aaron yr offeiriad i fyny Mynydd Hor, ar orchymyn yr ARGLWYDD, a bu farw yno ar y dydd cyntaf o'r pumed mis yn y ddeugeinfed flwyddyn ar ôl i'r Israeliaid ddod allan o wlad yr Aifft. 39Yr oedd Aaron yn gant dau ddeg a thair oed pan fu farw ar Fynydd Hor.
40Clywodd brenin Arad, y Canaanead oedd yn byw yn y Negef yng ngwlad Canaan, fod yr Israeliaid yn dod.
41Aethant o Fynydd Hor a gwersyllu yn Salmona. 42Aethant o Salmona a gwersyllu yn Punon. 43Aethant o Punon a gwersyllu yn Oboth. 44Aethant o Oboth a gwersyllu yn Ije-abarim ar derfyn Moab. 45Aethant o Ijim a gwersyllu yn Dibon-gad. 46Aethant o Dibon-gad a gwersyllu yn Almon-diblathaim. 47Aethant o Almon-diblathaim a gwersyllu ym mynyddoedd Abarim, o flaen Nebo. 48Aethant o fynyddoedd Abarim a gwersyllu yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen; 49yr oedd eu gwersyll ar lan yr Iorddonen yn ymestyn o Beth-jesimoth hyd Abel-sittim yng ngwastadedd Moab.
Rhannu'r Wlad
50Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen, a dweud, 51“Dywed wrth bobl Israel, ‘Wedi i chwi groesi'r Iorddonen i wlad Canaan, 52yr ydych i yrru allan o'ch blaen holl drigolion y wlad, a dinistrio eu holl gerrig nadd a'u delwau tawdd, a difa eu holl uchelfeydd; 53yna yr ydych i feddiannu'r wlad a thrigo yno, oherwydd yr wyf wedi rhoi'r wlad i chwi i'w meddiannu. 54Yr ydych i rannu'r wlad yn etifeddiaeth rhwng eich teuluoedd trwy goelbren: i'r llwythau mawr rhowch etifeddiaeth fawr, ac i'r llwythau bychain etifeddiaeth fechan; lle bynnag y bydd y coelbren yn disgyn i unrhyw un, yno y bydd ei feddiant. Felly yr ydych i rannu'r etifeddiaeth yn ôl llwythau eich hynafiaid. 55Os na fyddwch yn gyrru allan drigolion y wlad o'ch blaen, yna bydd y rhai a adawyd gennych yn bigau yn eich llygaid ac yn ddrain yn eich ystlys, a byddant yn eich poenydio yn y wlad y byddwch yn byw ynddi; 56ac fe wnaf i chwi yr hyn a fwriedais ei wneud iddynt hwy.’ ”

Dewis Presennol:

Numeri 33: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda