Enynnodd llid yr ARGLWYDD y diwrnod hwnnw, a thyngodd a dweud, ‘Am nad ydynt wedi fy nilyn yn ffyddlon, ni chaiff neb o'r rhai a ddaeth i fyny o'r Aifft, ac sy'n ugain oed a throsodd, weld y wlad a addewais i Abraham, Isaac a Jacob, ar wahân i Caleb fab Jeffunne y Cenesiad a Josua fab Nun, oherwydd darfu iddynt hwy ddilyn yr ARGLWYDD yn ffyddlon.’ Pan enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel, gwnaeth iddynt grwydro'r anialwch am ddeugain mlynedd, nes darfod o'r cyfan o'r genhedlaeth a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. A dyma chwi'n awr yn dilyn eich hynafiaid, yn hil o bobl bechadurus sy'n cyffroi'n fwyfwy ddicter yr ARGLWYDD yn erbyn Israel.
Darllen Numeri 32
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Numeri 32:10-14
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos