Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Numeri 24

24
1Pan welodd Balaam fod yr ARGLWYDD yn dymuno bendithio Israel, nid aeth i arfer dewiniaeth, fel cynt; yn hytrach, trodd ei wyneb tua'r diffeithwch. 2Cododd ei olwg a gweld yr Israeliaid yn gwersyllu yn ôl eu llwythau. Yna daeth ysbryd Duw arno, 3a llefarodd ei oracl a dweud:
“Gair Balaam fab Beor,
gair y gŵr yr agorir ei lygaid
4ac sy'n clywed geiriau Duw,
yn cael gweledigaeth gan yr Hollalluog,
ac yn syrthio i lawr, a'i lygaid wedi eu hagor:
5Mor brydferth yw dy bebyll, O Jacob,
a'th wersylloedd, O Israel!
6Y maent yn ymestyn fel palmwydd,
fel gerddi ar lan afon,
fel aloewydd a blannodd yr ARGLWYDD,
fel cedrwydd wrth ymyl dyfroedd.
7Tywelltir dŵr o'i ystenau,
a bydd digon o ddŵr i'w had.
Bydd ei frenin yn uwch nag Agag,
a dyrchefir ei frenhiniaeth.
8Daeth Duw ag ef allan o'r Aifft,
ac yr oedd ei nerth fel nerth ych gwyllt;
bydd yn traflyncu'r cenhedloedd sy'n elynion iddo,
gan ddryllio eu hesgyrn yn ddarnau,
a'u gwanu â'i saethau.
9Pan gryma, fe orwedd fel llew,
neu lewes; pwy a'i deffry?
Bydded bendith ar bawb a'th fendithia,
a melltith ar bawb a'th felltithia.”
10Yna digiodd Balac wrth Balaam; curodd ei ddwylo, a dywedodd wrtho, “Gelwais amdanat i felltithio fy ngelynion, ond yr wyt ti wedi eu bendithio'r teirgwaith hyn. 11Felly ffo yn awr i'th le dy hun; addewais dy anrhydeddu, ond fe gadwodd yr ARGLWYDD yr anrhydedd oddi wrthyt.” 12Dywedodd Balaam wrth Balac, “Oni ddywedais wrth y negeswyr a anfonaist ataf, 13‘Pe rhoddai Balac imi lond ei dŷ o arian ac aur, ni allwn fynd yn groes i air yr ARGLWYDD a gwneud na da na drwg o'm hewyllys fy hun; rhaid imi lefaru'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD’? 14Yn awr, fe af at fy mhobl fy hun; tyrd, ac fe ddywedaf wrthyt beth a wna'r bobl hyn i'th bobl di yn y dyfodol.”
Pedwaredd Neges Balaam
15Yna llefarodd ei oracl a dweud:
“Gair Balaam fab Beor,
gair y gŵr yr agorir ei lygaid
16ac sy'n clywed geiriau Duw,
yn gwybod meddwl y Goruchaf,
yn cael gweledigaeth gan yr Hollalluog,
ac yn syrthio i lawr, a'i lygaid wedi eu hagor:
17Fe'i gwelaf ef, ond nid yn awr;
edrychaf arno, ond nid yw'n agos.
Daw seren allan o Jacob,
a chyfyd teyrnwialen o Israel;
fe ddryllia dalcen Moab,
a difa holl feibion Seth.
18Bydd Edom yn cael ei meddiannu,
bydd Seir yn feddiant i'w gelynion,
ond bydd Israel yn gweithredu'n rymus.
19Daw llywodraethwr allan o Jacob
a dinistrio'r rhai a adawyd yn y dinasoedd.”
Negesau Olaf Balaam
20Yna edrychodd ar Amalec, a llefarodd ei oracl a dweud:
“Amalec oedd y blaenaf ymhlith y cenhedloedd,
ond caiff yntau, yn y diwedd, ei ddinistrio.”
21Yna edrychodd ar y Cenead, a llefarodd ei oracl a dweud:
“Y mae dy drigfan yn gadarn,
a'th nyth yn ddiogel mewn craig;
22eto bydd Cain yn cael ei anrheithio.
Am ba hyd y bydd Assur yn dy gaethiwo?”
23Llefarodd ei oracl a dweud:
“Och! Pwy fydd byw pan wna Duw hyn?
24Daw llongau o gyffiniau Chittim,
gan orthrymu Assur ac Eber;
cânt hwythau hefyd eu dinistrio.”
25Yna cododd Balaam a dychwelodd adref, ac aeth Balac hefyd ymaith.

Dewis Presennol:

Numeri 24: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda