Yna llefarodd ei oracl a dweud: “Gair Balaam fab Beor, gair y gŵr yr agorir ei lygaid ac sy'n clywed geiriau Duw, yn gwybod meddwl y Goruchaf, yn cael gweledigaeth gan yr Hollalluog, ac yn syrthio i lawr, a'i lygaid wedi eu hagor: Fe'i gwelaf ef, ond nid yn awr; edrychaf arno, ond nid yw'n agos. Daw seren allan o Jacob, a chyfyd teyrnwialen o Israel; fe ddryllia dalcen Moab, a difa holl feibion Seth. Bydd Edom yn cael ei meddiannu, bydd Seir yn feddiant i'w gelynion, ond bydd Israel yn gweithredu'n rymus. Daw llywodraethwr allan o Jacob a dinistrio'r rhai a adawyd yn y dinasoedd.”
Darllen Numeri 24
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Numeri 24:15-19
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos