Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Numeri 21

21
Buddugoliaeth dros Ganaan
1Pan glywodd brenin Arad, y Canaanead oedd yn byw yn y Negef, fod yr Israeliaid yn dod ar hyd ffordd Atharaim, ymosododd arnynt a chymryd rhai ohonynt yn garcharorion. 2Gwnaeth Israel adduned i'r ARGLWYDD, a dweud, “Os rhoddi di'r bobl hyn yn ein dwylo, yna fe ddinistriwn eu dinasoedd yn llwyr.” 3Gwrandawodd yr ARGLWYDD ar gri Israel, a rhoddodd y Canaaneaid yn eu dwylo; dinistriodd yr Israeliaid hwy a'u dinasoedd, ac felly y galwyd y lle yn Horma#21:3 H.y., Dinistr..
Y Sarff Bres
4Yna aeth yr Israeliaid o Fynydd Hor ar hyd ffordd y Môr Coch, ac o amgylch gwlad Edom. Dechreuodd y bobl fod yn anniddig ar y daith, 5a siarad yn erbyn Duw a Moses, a dweud, “Pam y daethoch â ni o'r Aifft i farw yn yr anialwch? Nid oes yma na bwyd na diod, ac y mae'n gas gennym y bwyd gwael hwn.” 6Felly anfonodd yr ARGLWYDD seirff gwenwynig ymysg y bobl, a bu nifer o'r Israeliaid farw wedi iddynt gael eu brathu ganddynt. 7Yna daeth y bobl at Moses, a dweud, “Yr ydym wedi pechu trwy siarad yn erbyn yr ARGLWYDD ac yn dy erbyn di; gweddïa ar i'r ARGLWYDD yrru'r seirff ymaith oddi wrthym.” Felly gweddïodd Moses ar ran y bobl, 8a dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Gwna sarff a'i gosod ar bolyn, a bydd pawb a frathwyd, o edrych arni, yn cael byw.” 9Felly gwnaeth Moses sarff bres, a'i gosod ar bolyn, a phan fyddai rhywun yn cael ei frathu gan sarff, byddai'n edrych ar y sarff bres, ac yn byw.
Symud o Fynydd Hor i Ddyffryn ger Pisga
10Aeth yr Israeliaid ymlaen, a gwersyllu yn Oboth, 11a mynd oddi yno a gwersyllu yn Ije-abarim, yn yr anialwch sydd gyferbyn â Moab, tua chodiad haul. 12Wedi cychwyn oddi yno, a gwersyllu yn nyffryn Sared, 13aethant ymlaen, a gwersyllu yr ochr draw i Arnon, yn yr anialwch sy'n ymestyn o derfyn yr Amoriaid; yr oedd Arnon ar y ffin rhwng Moab a'r Amoriaid. 14Dyna pam y mae Llyfr Rhyfeloedd yr ARGLWYDD yn sôn am
“Waheb yn Suffa a'r dyffrynnoedd,
15Arnon a llechweddau'r dyffrynnoedd
sy'n ymestyn at safle Ar
ac yn gorffwys ar derfyn Moab.”
16Oddi yno aethant i Beer#21:16 H.y., Ffynnon., y ffynnon y soniodd yr ARGLWYDD amdani wrth Moses, pan ddywedodd, “Cynnull y bobl ynghyd, er mwyn i mi roi dŵr iddynt.” 17Yna canodd Israel y gân hon:
“Tardda, ffynnon! Canwch iddi—
18y ffynnon a gloddiodd y tywysogion,
ac a agorodd penaethiaid y bobl
â'u gwiail a'u ffyn.”
Aethant ymlaen o'r anialwch i Mattana, 19ac oddi yno i Nahaliel; yna i Bamoth, 20ac ymlaen i'r dyffryn sydd yng ngwlad Moab, ger copa Pisga, sy'n edrych i lawr dros yr anialdir.
Goruchafiaeth ar Sihon ac Og
Deut. 2:16—3:11
21Yna anfonodd Israel genhadon at Sihon brenin yr Amoriaid i ddweud, 22“Gad inni fynd trwy dy wlad; nid ydym am droi i mewn i'th gaeau na'th winllannoedd, nac yfed dŵr o'r ffynhonnau; fe gadwn at briffordd y brenin, nes inni fynd trwy dy diriogaeth.” 23Ond nid oedd Sihon am adael i Israel fynd trwy ei diriogaeth; felly cynullodd ei holl fyddin, ac aeth allan i'r anialwch yn erbyn Israel, a phan ddaeth i Jahas, ymosododd arnynt. 24Ond lladdodd yr Israeliaid ef â min y cleddyf, a chymryd meddiant o'i dir, o Arnon i Jabboc, a hyd at derfyn yr Amoriaid, er mor gadarn oedd hwnnw. 25Meddiannodd Israel y dinasoedd hyn i gyd, ac ymsefydlu yn holl ddinasoedd yr Amoriaid, ac yn Hesbon a'i holl bentrefi. 26Hesbon oedd dinas Sihon brenin yr Amoriaid; yr oedd wedi ymladd yn erbyn brenin blaenorol Moab, a chipio'i holl dir hyd at Arnon. 27Dyna pam y canodd y beirdd:
“Dewch i Hesbon a'i hadeiladu!
Gwnewch yn gadarn ddinas Sihon!
28Oherwydd aeth tân allan o Hesbon,
a fflam o ddinas Sihon,
a difa Ar yn Moab
a pherchnogion mynydd-dir Arnon.
29Gwae di, Moab!
Darfu amdanoch, chwi bobl Cemos!
Gwnaeth ei feibion yn ffoaduriaid,
a'i ferched yn gaethion
i Sihon brenin yr Amoriaid.
30Saethasom hwy, a darfu amdanynt
o Hesbon hyd Dibon,
ac yr ydym wedi eu dymchwel
o Noffa hyd Medeba.”
31Felly y daeth Israel i fyw yng ngwlad yr Amoriaid. 32Anfonodd Moses rai i ysbïo Jaser cyn meddiannu eu pentrefi, a gyrru allan yr Amoriaid a oedd yno. 33Yna troesant a mynd ar hyd ffordd Basan; ond daeth Og brenin Basan a'i holl fyddin allan yn eu herbyn, ac ymladd â hwy yn Edrei. 34Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Paid â'i ofni, oherwydd yr wyf wedi ei roi ef a'i holl fyddin a'i dir yn dy law; gwna iddo ef yr hyn a wnaethost i Sihon brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Hesbon.” 35Felly lladdasant ef, ei feibion a'i holl fyddin, heb adael un yn weddill; yna meddianasant ei dir.

Dewis Presennol:

Numeri 21: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda