Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Numeri 16

16
Gwrthryfel Cora, Dathan ac Abiram
1Aeth Cora fab Ishar, fab Cohath, fab Lefi, gyda'r Reubeniaid Dathan ac Abiram, feibion Eliab, ac On fab Peleth, i gynnull dynion 2i godi yn erbyn Moses; gyda hwy yr oedd dau gant a hanner o bobl Israel, a'r rheini'n wŷr adnabyddus o blith penaethiaid ac arweinwyr y cynulliad. 3Wedi iddynt ymgynnull yn erbyn Moses ac Aaron, dywedasant wrthynt, “Yr ydych wedi cymryd gormod arnoch eich hunain. Y mae pob un o'r holl gynulliad yn sanctaidd, ac y mae'r ARGLWYDD gyda hwy; pam felly yr ydych chwi yn eich dyrchafu eich hunain uwchlaw cynulliad yr ARGLWYDD?” 4Pan glywodd Moses hyn, syrthiodd ar ei wyneb, 5a dywedodd wrth Cora a'i holl gwmni, “Yn y bore bydd yr ARGLWYDD yn datguddio pwy sy'n eiddo iddo ef, pwy sy'n sanctaidd, a phwy sy'n cael dynesu ato; pwy bynnag y bydd ef yn ei ddewis fydd yn cael dynesu ato. 6Dyma yr ydych i'w wneud: yr wyt ti, Cora, a'th holl gwmni i gymryd thuserau; 7ac yfory, gerbron yr ARGLWYDD, rhowch dân ynddynt a gosodwch arogldarth arnynt, a'r un a ddewisa'r ARGLWYDD fydd yn sanctaidd. Yr ydych chwi, feibion Lefi, wedi cymryd gormod arnoch eich hunain.” 8Dywedodd Moses hefyd wrth Cora, “Gwrandewch, feibion Lefi. 9Ai peth dibwys yn eich golwg yw fod Duw Israel wedi eich neilltuo chwi o blith cynulliad Israel, ichwi ddynesu ato a gwasanaethu yn nhabernacl yr ARGLWYDD a sefyll o flaen y cynulliad a gweini arnynt? 10Y mae wedi caniatáu i ti a'th holl frodyr, meibion Lefi, ddynesu ato; a ydych am geisio bod yn offeiriaid hefyd? 11Yr wyt ti a'th holl gwmni wedi ymgynnull yn erbyn yr ARGLWYDD; pam, felly, yr ydych yn grwgnach yn erbyn Aaron?”
12Yna galwodd Moses am Dathan ac Abiram, feibion Eliab, ond dywedasant hwy, “Nid ydym am ddod. 13Ai peth dibwys yw dy fod wedi dod â ni allan o wlad yn llifeirio o laeth a mêl, i'n lladd yn yr anialwch? A wyt hefyd am dy osod dy hun yn bennaeth arnom? 14Yn wir, ni ddaethost â ni i wlad yn llifeirio o laeth a mêl, na rhoi inni faes na gwinllan yn feddiant. A wyt am ddallu'r dynion hyn? Nid ydym am ddod.”
15Yr oedd Moses yn ddig iawn, a dywedodd wrth yr ARGLWYDD, “Paid ag edrych ar eu hoffrwm. Ni chymerais gymaint ag un asyn oddi arnynt, ac nid wyf wedi gwneud cam â'r un ohonynt.” 16Dywedodd Moses wrth Cora, “Yr wyt ti a'th holl gwmni ac Aaron i fod yn bresennol gerbron yr ARGLWYDD yfory. 17Y mae pob un i gymryd ei thuser a rhoi arogldarth ynddo, a dod ag ef gerbron yr ARGLWYDD; yr wyt ti, Aaron, a phob un arall i ddod â thuser, a bydd dau gant a hanner ohonynt.” 18Felly cymerodd pob un ei thuser a rhoi tân ynddynt a gosod arogldarth arnynt, a sefyll gyda Moses ac Aaron wrth ddrws pabell y cyfarfod; 19ac ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD i'r holl gynulliad. 20Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, 21“Ymwahanwch oddi wrth y cynulliad hwn, oherwydd yr wyf am eu difa ar unwaith.” 22Ond syrthiasant hwy ar eu hwynebau, a dweud, “O Dduw, Duw ysbryd pob cnawd, a wyt am ddigio wrth yr holl gynulliad am fod un dyn wedi pechu?” 23Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 24“Dywed wrth y cynulliad am fynd ymaith oddi wrth babell Cora, Dathan ac Abiram.”
25Cododd Moses ac aeth at Dathan ac Abiram, a dilynodd henuriaid Israel ef. 26Yna dywedodd wrth y cynulliad, “Ewch allan o bebyll y dynion drwg hyn, a pheidiwch â chyffwrdd â dim o'u heiddo, rhag ichwi gael eich difa am eu holl bechodau hwy.” 27Felly aethant draw oddi wrth babell Cora, Dathan ac Abiram; a daeth Dathan ac Abiram allan gyda'u gwragedd, eu plant a'u rhai bychain, a sefyll wrth ddrws eu pebyll. 28Dywedodd Moses, “Cewch wybod trwy hyn mai'r ARGLWYDD a'm hanfonodd i wneud yr holl bethau hyn, ac nad o'm dyfais fy hun y gwneuthum hwy. 29Os bydd y dynion hyn farw'n naturiol, a phrofi'r un ffawd ag sy'n dod yn arferol i bobl, yna nid yw'r ARGLWYDD wedi fy anfon. 30Ond os gwna'r ARGLWYDD rywbeth newydd, trwy beri i'r ddaear agor ei genau a'u llyncu hwy a phopeth a berthyn iddynt, fel eu bod yn disgyn yn fyw i Sheol, yna byddwch yn gwybod bod y dynion hyn wedi dirmygu'r ARGLWYDD.”
31Fel yr oedd yn gorffen dweud hyn i gyd, holltodd y tir odanynt, 32ac agorodd y ddaear ei genau a'u llyncu hwy a'u tylwyth, a holl ddynion Cora a'u heiddo i gyd. 33Felly disgynasant hwy, a phawb oedd gyda hwy, yn fyw i Sheol; yna caeodd y ddaear amdanynt, a difawyd hwy o blith y cynulliad. 34Wrth iddynt weiddi, ffodd yr holl Israeliaid oedd o'u hamgylch, gan ddweud, “Rhag i'r ddaear ein llyncu ninnau!” 35Yna daeth tân oddi wrth yr ARGLWYDD a difa'r ddau gant a hanner o ddynion oedd yn offrymu arogldarth.
Y Thuserau
36 # 16:36 Hebraeg, 17:1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 37“Dywed wrth Eleasar fab Aaron yr offeiriad am godi'r thuserau allan o'r goelcerth, am eu bod yn sanctaidd, a thaenu'r tân ar wasgar; 38yna y mae thuserau'r rhai a bechodd, ac a fu farw, i'w curo'n blatiau i wneud caead ar yr allor, oherwydd y maent yn sanctaidd am iddynt gael eu hoffrymu gerbron yr ARGLWYDD; felly byddant yn arwydd i bobl Israel.” 39Yna cymerodd Eleasar yr offeiriad y thuserau pres, a offrymwyd gan y rhai a gafodd eu llosgi, ac fe'u curwyd i wneud caead i'r allor, 40i atgoffa pobl Israel nad oedd neb heblaw'r rhai oedd yn gymwys, sef disgynyddion Aaron, i ddynesu i losgi arogldarth gerbron yr ARGLWYDD, rhag iddo fod fel Cora a'i gwmni. Gwnaed hyn fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Eleasar trwy Moses.
Aaron yn Achub y Bobl
41Trannoeth dechreuodd holl gynulliad pobl Israel rwgnach yn erbyn Moses ac Aaron, a dweud, “Yr ydych wedi lladd pobl yr ARGLWYDD.” 42Ac wedi i'r cynulliad ymgynnull yn erbyn Moses ac Aaron, troesant at babell y cyfarfod a gwelsant gwmwl yn ei gorchuddio a gogoniant yr ARGLWYDD yn ymddangos. 43Yna daeth Moses ac Aaron o flaen pabell y cyfarfod, 44a dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 45“Ewch ymaith o blith y cynulliad hwn, oherwydd yr wyf am eu difa ar unwaith.” Syrthiasant ar eu hwynebau, 46a dywedodd Moses wrth Aaron, “Cymer thuser, a rho ynddo dân oddi ar yr allor, a gosod arno arogldarth, a dos rhag blaen at y cynulliad, a gwna gymod drostynt; daeth digofaint oddi wrth yr ARGLWYDD, ac y mae'r pla wedi dechrau.” 47Gwnaeth Aaron fel yr oedd Moses wedi dweud, a rhedodd i ganol y cynulliad, ond gwelodd fod y pla eisoes wedi dechrau ymhlith y bobl. Rhoddodd arogldarth ar y thuser, a gwnaeth gymod dros y bobl. 48Safodd rhwng y meirw a'r byw, ac fe beidiodd y pla. 49Bu farw pedair mil ar ddeg a saith gant trwy'r pla, heblaw'r rhai a fu farw o achos Cora. 50Yna, wedi i'r pla beidio, aeth Aaron yn ôl at Moses yn nrws pabell y cyfarfod.

Dewis Presennol:

Numeri 16: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd