Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Nehemeia 7

7
1Yna, wedi i'r mur gael ei ailgodi, ac imi osod y dorau, ac i'r porthorion a'r cantorion a'r Lefiaid gael eu penodi, 2rhoddais Jerwsalem yng ngofal Hanani fy mrawd a Hananeia arolygwr y palas, oherwydd yr oedd ef yn ddyn gonest ac yn parchu Duw'n fwy na'r mwyafrif. 3A dywedais wrthynt, “Nid yw pyrth Jerwsalem i fod ar agor nes bod yr haul wedi codi; a chyn iddo fachlud#7:3 Tebygol. Hebraeg, a thra oeddent yn sefyll. rhaid cau'r dorau a'u cloi. Trefnwch drigolion Jerwsalem yn wylwyr, pob un i wylio yn ei dro, a phob un yn ymyl ei dŷ ei hun.” 4Yr oedd y ddinas yn fawr ac yn eang, ond ychydig o bobl oedd ynddi, a'r tai heb eu hailgodi.
Rhestr y Rhai a Ddychwelodd o'r Gaethglud
Esra 2:1–70
5Rhoddodd Duw yn fy meddwl i gasglu ynghyd y pendefigion, y swyddogion a'r bobl i'w cofrestru. Deuthum o hyd i lyfr achau y rhai a ddaeth yn gyntaf o'r gaethglud, a dyma oedd wedi ei ysgrifennu ynddo:
6Dyma bobl y dalaith a ddychwelodd o gaethiwed, o'r gaethglud a ddygwyd gan Nebuchadnesar brenin Babilon, ac a ddaeth yn ôl i Jerwsalem ac i Jwda, pob un i'w dref ei hun. 7Gyda Sorobabel yr oedd Jesua, Nehemeia, Asareia, Raameia, Nahmani, Mordecai, Bilsan, Mispereth, Bigfai, Nehum a Baana.
8Rhestr teuluoedd pobl Israel: teulu Paros, dwy fil un cant saith deg a dau; 9teulu Seffateia, tri chant saith deg a dau; 10teulu Ara, chwe chant pum deg a dau; 11teulu Pahath-moab, hynny yw teuluoedd Jesua a Joab, dwy fil wyth gant un deg ac wyth; 12teulu Elam, mil dau gant pum deg a phedwar; 13teulu Sattu, wyth gant pedwar deg a phump; 14teulu Saccai, saith gant chwe deg; 15teulu Binnui, chwe chant pedwar deg ac wyth; 16teulu Bebai, chwe chant dau ddeg ac wyth; 17teulu Asgad, dwy fil tri chant dau ddeg a dau; 18teulu Adonicam, chwe chant chwe deg a saith; 19teulu Bigfai, dwy fil chwe deg a saith; 20teulu Adin, chwe chant pum deg a phump; 21teulu Ater, hynny yw Heseceia, naw deg ac wyth; 22teulu Hasum, tri chant dau ddeg ac wyth; 23teulu Besai, tri chant dau ddeg a phedwar; 24teulu Hariff, cant a deuddeg; 25teulu Gibeon, naw deg a phump. 26Gwŷr Bethlehem a Netoffa, cant wyth deg ac wyth; 27gwŷr Anathoth, cant dau ddeg ac wyth; 28gwŷr Beth-asmafeth, pedwar deg a dau; 29gwŷr Ciriath-jearim a Ceffira a Beeroth, saith gant pedwar deg a thri; 30gwŷr Rama a Geba, chwe chant dau ddeg ac un; 31gwŷr Michmas, cant dau ddeg a dau; 32gwŷr Bethel ac Ai, cant dau ddeg a thri; 33gwŷr y Nebo arall, pum deg a dau. 34Teulu'r Elam arall, mil dau gant pum deg a phedwar; 35teulu Harim, tri chant dau ddeg; 36teulu Jericho, tri chant pedwar deg a phump; 37teulu Lod a Hadid ac Ono, saith gant dau ddeg ac un; 38teulu Senaa, tair mil naw cant tri deg.
39Yr offeiriaid: teulu Jedeia, o linach Jesua, naw cant saith deg a thri; 40teulu Immer, mil pum deg a dau; 41teulu Pasur, mil dau gant pedwar deg a saith; 42teulu Harim, mil un deg a saith.
43Y Lefiaid: teulu Jesua, hynny yw Cadmiel, o linach Hodefa, saith deg a phedwar.
44Y cantorion: teulu Asaff, cant pedwar deg ac wyth.
45Y porthorion: teuluoedd Salum, Ater, Talmon, Accub, Hatita a Sobai, cant tri deg ac wyth.
46Gweision y deml: teuluoedd Siha, Hasuffa, Tabbaoth, 47Ceros, Sïa, Padon, 48Lebana, Hagaba, Salmai, 49Hanan, Gidel, Gahar, 50Reaia, Resin, Necoda, 51Gassam, Ussa, Pasea, 52Besai, Meunim, Neffisesim, 53Bacbuc, Hacuffa, Harhur, 54Baslith, Mehida, Harsa, 55Barcos, Sisera, Tama, 56Neseia a Hatiffa.
57Disgynyddion gweision Solomon: teuluoedd Sotai, Soffereth, Perida, 58Jala, Darcon, Gidel, 59Seffateia, Hattil, Pochereth o Sebaim, ac Amon. 60Cyfanswm gweision y deml a disgynyddion gweision Solomon oedd tri chant naw deg a dau.
61Daeth y rhai canlynol i fyny o Tel-mela, Tel-harsa, Cerub, Adon ac Immer, ond ni fedrent brofi mai o Israel yr oedd eu llinach a'u tras: 62teuluoedd Delaia, Tobeia a Necoda, chwe chant pedwar deg a dau. 63Ac o blith yr offeiriaid: teuluoedd Hobaia, Cos a'r Barsilai a briododd un o ferched Barsilai o Gilead a chymryd ei enw. 64Chwiliodd y rhain am gofnod o'u hachau, ond methu ei gael; felly cawsant eu hatal o'r offeiriadaeth, 65a gwaharddodd y llywodraethwr iddynt fwyta'r pethau mwyaf cysegredig nes y ceid offeiriad i ymgynghori â'r Wrim a'r Twmim.
66Nifer y fintai gyfan oedd pedwar deg dwy o filoedd tri chant chwe deg, 67heblaw eu gweision a'u morynion a oedd yn saith mil tri chant tri deg a saith. Yr oedd ganddynt hefyd ddau gant pedwar deg a phump o gantorion a chantoresau, 68saith gant tri deg a chwech o geffylau, dau gant pedwar deg a phump o fulod#7:68 Felly Esra 2:66 a rhai llawysgrifau. TM heb saith gant… o fulod., 69pedwar cant tri deg a phump o gamelod, a chwe mil saith gant dau ddeg o asynnod.
70Cyfrannodd rhai o'r pennau-teuluoedd tuag at y gwaith. Rhoddodd y llywodraethwr i'r drysorfa fil o ddracmonau aur, pum deg o gostrelau a phum cant tri deg o wisgoedd offeiriadol. 71Rhoddodd rhai o'r pennau-teuluoedd i drysorfa'r gwaith ugain mil o ddracmonau aur a dwy fil dau gant o finâu o arian. 72A'r hyn a roddodd y gweddill o'r bobl oedd ugain mil o ddracmonau aur, a dwy fil o finâu o arian, a chwe deg a saith o wisgoedd offeiriadol.
73Cartrefodd yr offeiriaid a'r Lefiaid yn Jerwsalem; yr oedd y porthorion a'r cantorion a rhai o'r bobl a gweision y deml yn byw yn y cyffiniau, a'r Israeliaid eraill yn byw yn eu trefi eu hunain#7:73 Cymh. Esra 2:70. Hebraeg heb yn Jerwsalem ac yn y cyffiniau..

Dewis Presennol:

Nehemeia 7: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda