Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Nehemeia 12

12
Offeiriaid a Lefiaid
1Dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid a ddaeth i fyny gyda Sorobabel fab Salathiel, a Jesua: Seraia, Jeremeia, Esra, 2Amareia, Maluch, Hattus, 3Sechaneia, Rehum, Meremoth, 4Ido, Ginnetho, Abeia, 5Miamin, Maadia, Bilga, 6Semaia, Joiarib, Jedaia, Salu, Amoc, Hilceia, Jedaia; 7y rhain oedd penaethiaid yr offeiriaid a'u brodyr yn nyddiau Jesua.
8A'r Lefiaid: Jesua, Binnui, Cadmiel, Serebeia, Jwda; a Mataneia a'i frodyr, oedd yn gyfrifol am y moliant, 9a Bacbuceia ac Unni, eu brodyr, oedd yn sefyll gyferbyn â hwy yn y gwasanaethau.
10Jesua oedd tad Joiacim, ac yr oedd Joiacim yn dad i Eliasib, ac Eliasib yn dad i Joiada, 11a Joiada yn dad i Jonathan, a Jonathan yn dad i Jadua. 12Ac yn nyddiau Joiacim, dyma'r offeiriaid oedd yn bennau-teuluoedd: o Seraia, Meraia; o Jeremeia, Hananei; 13o Esra, Mesulam; o Amareia, Jehohanan; 14o Melichu, Jonathan; o Sebaneia, Joseff; 15o Harim, Adna; o Meraioth, Helcai; 16o Ido, Sechareia; o Ginnethon, Mesulam; 17o Abeia, Sichri; o Miniamin, o Moadeia, Piltai; 18o Bilga, Sammua; o Semaia, Jehonathan; 19o Joiarib, Matenai; o Jedaia, Ussi; 20o Salai, Calai; o Amoc, Eber; 21o Hilceia, Hasabeia; o Jedaia, Nethaneel.
22Yn nyddiau Eliasib yr oedd y Lefiaid, sef Joiada, Johanan a Jadua, a'r offeiriaid wedi eu cofrestru fel pennau-teuluoedd hyd at deyrnasiad Dareius y Persiad. 23Yr oedd pennau-teuluoedd y Lefiaid wedi eu cofrestru yn llyfr y Cronicl hyd at amser Johanan fab Eliasib. 24Arweinwyr y Lefiaid oedd: Hasabeia, Serebeia, Jesua fab Cadmiel a'u brodyr, oedd yn cymryd eu tro i foliannu a thalu diolch yn ôl gorchymyn Dafydd gŵr Duw, ac i gadw cylch y gwasanaethau. 25Mataneia, Bacbuceia, Obadeia, Mesulam, Talmon, ac Accub oedd y porthorion i wylio'r ystordai wrth y pyrth. 26Yr oedd y rhain yn nyddiau Joiacim fab Jesua, fab Josadac, ac yn nyddiau Nehemeia y llywodraethwr ac Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd.
Cysegru Mur Jerwsalem
27Pan ddaeth yr amser i gysegru mur Jerwsalem aethant i chwilio am y Lefiaid ymhle bynnag yr oeddent yn byw, a dod â hwy i Jerwsalem i ddathlu'r cysegru â llawenydd, mewn diolchgarwch a chân, gyda symbalau, nablau, a thelynau. 28Ymgasglodd y cantorion o'r ardaloedd o amgylch Jerwsalem ac o bentrefi'r Netoffathiaid, 29a hefyd o Beth-gilgal a rhanbarthau Geba ac Asmafeth; oherwydd yr oedd y cantorion wedi codi pentrefi iddynt eu hunain o amgylch Jerwsalem. 30Yna purodd yr offeiriaid a'r Lefiaid eu hunain, y bobl, y pyrth a'r mur. 31A gwneuthum i arweinwyr Jwda esgyn i ben y mur, a threfnais i ddau gôr mawr roi diolch#12:31 Tebygol. Hebraeg heb i… roi diolch.. Aeth un i'r dde ar hyd y mur at Borth y Dom, 32ac ar ei ôl aeth Hosaia a hanner arweinwyr Jwda, 33ac Asareia, Esra, Mesulam, 34Jwda, Benjamin, Semaia, a Jeremeia; 35a rhai o'r offeiriaid â thrwmpedau, Sechareia fab Jonathan, fab Semaia, fab Mataneia, fab Michaia, fab Saccur, fab Asaff, 36a'i frodyr Semaia, Asarael, Milalai, Gilalai, Maai, Nethaneel, Jwda, a Hanani, ag offer cerdd Dafydd gŵr Duw, ac Esra'r ysgrifennydd o'u blaen. 37Aethant heibio i Borth y Ffynnon ac i fyny grisiau Dinas Dafydd, wrth yr esgyniad i'r mur uwchben tŷ Dafydd, ac at Borth y Dŵr sydd yn y dwyrain.
38Aeth y côr arall oedd yn rhoi diolch i'r chwith#12:38 Tebygol. Hebraeg, ymlaen. ac euthum innau gyda hanner y bobl ar ei ôl, ar hyd y mur o Dŵr y Ffyrnau at y Mur Llydan, 39dros Borth Effraim a'r Hen Borth a Phorth y Pysgod, a heibio i Dŵr Hananel a Thŵr y Cant at Borth y Defaid, a sefyll ym Mhorth y Wyliadwriaeth. 40Aeth y ddau gôr oedd yn rhoi diolch i mewn i dŷ Dduw, ac yna euthum innau, a hanner yr arweinwyr gyda mi, 41a'r offeiriaid, Eliacim, Maaseia, Miniamin, Michaia, Elioenai, Sechareia, Hananeia, gyda'r trwmpedau; 42a Maaseia, Semaia, Eleasar, Ussi, Jehohanan, Malcheia, Elam ac Esra. Ac fe ganodd y cantorion o dan arweiniad Jasraheia. 43A'r diwrnod hwnnw gwnaethant aberthau mawr a llawenychu, oherwydd yr oedd Duw wedi eu llenwi â gorfoledd; ac yr oedd y merched a'r plant hefyd yn gorfoleddu. Ac yr oedd llawenydd Jerwsalem i'w glywed o bell.
Darparu ar gyfer Addoli yn y Deml
44Y diwrnod hwnnw fe benodwyd dynion dros yr ystordai lle'r oedd y trysorau, y cyfraniadau, y blaenffrwyth a'r degymau, er mwyn casglu'r cyfrannau oedd yn ddyledus i'r offeiriaid a'r Lefiaid o'r meysydd o gwmpas y trefi; oherwydd yr oedd Jwda yn falch o wasanaeth yr offeiriaid a'r Lefiaid. 45Yr oeddent yn gofalu am wasanaeth eu Duw ac yn cadw defodau puredigaeth, fel yr oedd y cantorion a'r porthorion yn ei wneud, yn ôl gorchymyn Dafydd a Solomon ei fab. 46Oherwydd yn yr amser gynt, yn nyddiau Dafydd ac Asaff, yr oedd pen-cantorion a chanu mawl a diolch i Dduw. 47Felly yn nyddiau Sorobabel ac yn nyddiau Nehemeia yr oedd holl Israel yn rhoi cyfran ddyddiol i'r cantorion a'r porthorion. Yr oeddent yn neilltuo cyfran i'r Lefiaid, a'r Lefiaid yn neilltuo cyfran i dylwyth Aaron.

Dewis Presennol:

Nehemeia 12: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda