Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Nehemeia 10

10
1Dyma enwau'r rhai sy'n rhoi eu sêl: Nehemeia y llywodraethwr, mab Hachaleia, a Sidcia, 2Seraia, Asareia, Jeremeia, 3Pasur, Amareia, Malcheia, 4Hattus, Sebaneia, Maluch, 5Harim, Meremoth, Obadeia, 6Daniel, Ginnethon, Baruch, 7Mesulam, Abeia, Miamin, 8Maaseia, Bilgai, Semaia; y rhain yw'r offeiriaid. 9Y Lefiaid: Jesua fab Asaneia, Binnui o feibion Henadad, Cadmiel. 10Eu brodyr: Sebaneia, Hodeia, Celita, Pelaia, Hanan, 11Meica, Rehob, Hasabeia, 12Saccur, Serebeia, Sebaneia, 13Hodeia, Bani, Beninu. 14Penaethiaid y bobl: Paros, Pahath-moab, Elam, Sattu, Bani, 15Bunni, Asgad, Bebai, 16Adoneia, Bigfai, Adin, 17Ater, Hisceia, Assur, 18Hodeia, Hasum, Besai, 19Hariff, Anathoth, Nebai, 20Magpias, Mesulam, Hesir, 21Mesesabeel, Sadoc, Jadua, 22Pelatia, Hanan, Anaia, 23Hosea, Hananeia, Hasub, 24Halohes, Pileha, Sobec, 25Rehum, Hasabna, Maaseia, 26Aheia, Hanan, Anan, 27Maluch, Harim a Baana.
Y Datganiad
28Ac am weddill y bobl, yr offeiriaid, y Lefiaid, y porthorion, y cantorion, gweision y deml, a phawb sydd wedi ymneilltuo oddi wrth bobloedd estron er mwyn cadw cyfraith Dduw, gyda'u gwragedd a'u meibion a'u merched, pob un sy'n medru deall, 29y maent yn ymuno â'u brodyr, eu harweinwyr, i gymryd llw a gwneud adduned i fyw yn ôl cyfraith Dduw, a roddwyd trwy Moses gwas Duw, a chadw ac ufuddhau i holl orchmynion, barnau a deddfau yr ARGLWYDD ein Iôr. 30“Ni roddwn ein merched yn wragedd i bobl y wlad na chymryd eu merched hwy yn wragedd i'n meibion. 31Ac os daw pobl y wlad â nwyddau neu rawn o unrhyw fath i'w gwerthu ar y dydd Saboth, ni dderbyniwn ddim ganddynt ar y Saboth nac ar ddydd gŵyl. Yn y seithfed flwyddyn fe rown orffwys i'r tir, a dileu pob dyled. 32Ac yr ydym yn ymrwymo i roi traean o sicl bob blwyddyn at waith tŷ ein Duw, 33ar gyfer y bara gosod, y bwydoffrwm a'r poethoffrwm beunyddiol, y Sabothau, y newydd-loerau, y gwyliau arbennig, y pethau cysegredig a'r offrymau dros bechod i wneud iawn dros Israel, ac at holl waith tŷ ein Duw. 34Ac yr ydym ni, yr offeiriaid, y Lefiaid a'r bobl, wedi bwrw coelbrennau ynglŷn â chario coed yr offrwm i dŷ ein Duw gan bob teulu yn ei dro, ar amseroedd penodol bob blwyddyn, i'w llosgi ar allor yr ARGLWYDD ein Duw, fel y mae'n ysgrifenedig yn y gyfraith. 35Ac yr ydym wedi trefnu i ddod â blaenffrwyth ein tir, a blaenffrwyth pob pren ffrwythau, bob blwyddyn i dŷ'r ARGLWYDD; 36a hefyd i roi'r cyntafanedig o'n meibion a'n hanifeiliaid a'n gwartheg a'n defaid i'r offeiriaid sy'n gwasanaethu yn nhŷ ein Duw, fel y mae'n ysgrifenedig yn y gyfraith. 37Hefyd i roi i'r offeiriaid y cyntaf o'n toes#10:37 Felly Groeg. Hebraeg yn ychwanegu a'n hoffrymau., o ffrwyth pob coeden, ac o'r gwin a'r olew newydd, ar gyfer ystordai tŷ ein Duw; ac i roi i'r Lefiaid ddegwm o'n tir am mai hwy sy'n casglu'r degwm yn yr holl bentrefi lle'r ydym yn gweithio. 38Bydd yr offeiriad, mab Aaron, gyda'r Lefiaid pan fyddant yn casglu'r degwm, ac fe ddaw'r Lefiaid â degfed ran y degwm i'r ystordai yn nhrysorfa tŷ ein Duw. 39Oherwydd fe ddaw'r Israeliaid a'r Lefiaid â'r offrwm o ŷd a gwin ac olew newydd i'r ystordai, lle mae llestri'r cysegr ac offer yr offeiriaid sy'n gweini, a'r porthorion a'r cantorion. Ni fyddwn yn esgeuluso tŷ ein Duw.”

Dewis Presennol:

Nehemeia 10: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd