Wrth fynd i fyny i Jerwsalem cymerodd Iesu'r deuddeg disgybl ar wahân, ac ar y ffordd dywedodd wrthynt, “Dyma ni'n mynd i fyny i Jerwsalem; fe gaiff Mab y Dyn ei draddodi i'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion; condemniant ef i farwolaeth, a'i drosglwyddo i'r Cenhedloedd i'w watwar a'i fflangellu a'i groeshoelio; ac ar y trydydd dydd fe'i cyfodir.”
Yna daeth mam meibion Sebedeus ato gyda'i meibion, gan ymgrymu a gofyn ffafr ganddo. Meddai ef wrthi, “Beth a fynni?” Atebodd, “Gorchymyn fod i'm dau fab hyn gael eistedd, un ar dy law dde ac un ar dy law chwith yn dy deyrnas.” Atebodd Iesu, “Ni wyddoch beth yr ydych yn ei ofyn. A allwch chwi yfed y cwpan yr wyf fi i'w yfed?” “Gallwn,” meddent. Dywedodd wrthynt, “Cewch yfed fy nghwpan i, ond eistedd ar fy llaw dde ac ar fy llaw chwith, nid gennyf fi y mae'r hawl i roi hynny; y mae'n perthyn i'r rhai y mae wedi ei ddarparu ar eu cyfer gan fy Nhad.” Pan glywodd y deg, aethant yn ddig wrth y ddau frawd. Galwodd Iesu hwy ato ac meddai, “Gwyddoch fod llywodraethwyr y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a'u gwŷr mawr yn dangos eu hawdurdod drostynt. Ond nid felly y mae i fod yn eich plith chwi; yn hytrach, pwy bynnag sydd am fod yn fawr yn eich plith, rhaid iddo fod yn was i chwi, a phwy bynnag sydd am fod yn flaenaf yn eich plith, rhaid iddo fod yn gaethwas i chwi, fel Mab y Dyn, na ddaeth i gael ei wasanaethu ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.”
Fel yr oeddent yn mynd allan o Jericho, dilynodd tyrfa fawr ef. Yr oedd dau ddyn dall yn eistedd ar fin y ffordd, a phan glywsant fod Iesu yn mynd heibio, gwaeddasant, “Syr, trugarha wrthym, Fab Dafydd.” Ceryddodd y dyrfa hwy a dweud wrthynt am dewi, ond gweiddi'n fwy byth a wnaethant, “Syr, trugarha wrthym, Fab Dafydd.” Safodd Iesu, a'u galw a dweud, “Beth yr ydych am i mi ei wneud i chwi?” Meddent hwy wrtho, “Syr, mae arnom eisiau i'n llygaid gael eu hagor.” Tosturiodd Iesu wrthynt a chyffyrddodd â'u llygaid, a chawsant eu golwg yn ôl yn y fan, a chanlynasant ef.