Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 20:17-34

Mathew 20:17-34 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Pan oedd Iesu ar ei ffordd i Jerwsalem, aeth â’r deuddeg disgybl i’r naill ochr i gael gair gyda nhw. “Pan gyrhaeddwn ni Jerwsalem, bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy mradychu i’r prif offeiriaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith. Byddan nhw’n rhoi dedfryd marwolaeth arna i, ac yna’n fy rhoi yn nwylo’r Rhufeiniaid. Bydd y rheiny yn gwneud sbort am fy mhen, fy chwipio a’m croeshoelio. Ond yna ddeuddydd wedyn bydda i’n dod yn ôl yn fyw!” Dyma fam Iago ac Ioan, sef gwraig Sebedeus, yn mynd at Iesu gyda’i meibion. Aeth ar ei gliniau o’i flaen i ofyn ffafr ganddo. “Beth ga i wneud i chi?” gofynnodd Iesu iddi. Dyma’r fam yn ateb, “Baswn i’n hoffi i’m meibion i gael eistedd bob ochr i ti pan fyddi’n teyrnasu.” “Dych chi ddim yn gwybod am beth dych chi’n siarad!” meddai Iesu. “Allwch chi yfed o’r gwpan chwerw dw i’n mynd i yfed ohoni?” “Gallwn,” medden nhw wrtho. Dwedodd Iesu, “Byddwch chi’n yfed o’m cwpan i, ond dim fi sydd i ddweud pwy sy’n cael eistedd bob ochr i mi. Mae’r lleoedd hynny wedi’u cadw i bwy bynnag mae fy Nhad wedi’u dewis.” Pan glywodd y deg disgybl arall am y peth, roedden nhw’n wyllt gyda’r ddau frawd. Ond dyma Iesu’n eu galw nhw i gyd at ei gilydd a dweud, “Dych chi’n gwybod sut mae’r rhai sy’n llywodraethu’r cenhedloedd yn ymddwyn – maen nhw wrth eu bodd yn dangos eu hawdurdod ac yn ei lordio hi dros bobl. Ond rhaid i chi fod yn wahanol. Rhaid i’r sawl sydd am arwain ddysgu gwasanaethu, a phwy bynnag sydd am fod yn geffyl blaen fod yn was i eraill. Wnes i, hyd yn oed, ddim disgwyl i bobl eraill fy ngwasanaethu i, er mai fi ydy Mab y Dyn; des i fel gwas i aberthu fy mywyd er mwyn talu’r pris i ryddhau llawer o bobl.” Wrth iddo fynd allan o Jericho gyda’i ddisgyblion, roedd tyrfa fawr yn dilyn Iesu. Roedd dau ddyn dall yn cardota ar ochr y ffordd, a phan ddeallodd y ddau ohonyn nhw mai Iesu oedd yn mynd heibio, dyma nhw’n gweiddi, “Helpa ni Fab Dafydd!” “Caewch eich cegau!” meddai’r dyrfa wrthyn nhw. Ond yn lle hynny dyma nhw’n gweiddi’n uwch, “Arglwydd! Helpa ni Fab Dafydd!” Dyma Iesu’n stopio, a’u galw nhw draw a gofyn, “Beth ga i wneud i chi?” Dyma nhw’n ateb, “Arglwydd, dŷn ni eisiau gweld.” Roedd Iesu’n teimlo drostyn nhw, a dyma fe’n cyffwrdd eu llygaid. Yn sydyn roedden nhw’n gallu gweld! A dyma nhw’n ei ddilyn e.

Mathew 20:17-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Wrth fynd i fyny i Jerwsalem cymerodd Iesu'r deuddeg disgybl ar wahân, ac ar y ffordd dywedodd wrthynt, “Dyma ni'n mynd i fyny i Jerwsalem; fe gaiff Mab y Dyn ei draddodi i'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion; condemniant ef i farwolaeth, a'i drosglwyddo i'r Cenhedloedd i'w watwar a'i fflangellu a'i groeshoelio; ac ar y trydydd dydd fe'i cyfodir.” Yna daeth mam meibion Sebedeus ato gyda'i meibion, gan ymgrymu a gofyn ffafr ganddo. Meddai ef wrthi, “Beth a fynni?” Atebodd, “Gorchymyn fod i'm dau fab hyn gael eistedd, un ar dy law dde ac un ar dy law chwith yn dy deyrnas.” Atebodd Iesu, “Ni wyddoch beth yr ydych yn ei ofyn. A allwch chwi yfed y cwpan yr wyf fi i'w yfed?” “Gallwn,” meddent. Dywedodd wrthynt, “Cewch yfed fy nghwpan i, ond eistedd ar fy llaw dde ac ar fy llaw chwith, nid gennyf fi y mae'r hawl i roi hynny; y mae'n perthyn i'r rhai y mae wedi ei ddarparu ar eu cyfer gan fy Nhad.” Pan glywodd y deg, aethant yn ddig wrth y ddau frawd. Galwodd Iesu hwy ato ac meddai, “Gwyddoch fod llywodraethwyr y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a'u gwŷr mawr yn dangos eu hawdurdod drostynt. Ond nid felly y mae i fod yn eich plith chwi; yn hytrach, pwy bynnag sydd am fod yn fawr yn eich plith, rhaid iddo fod yn was i chwi, a phwy bynnag sydd am fod yn flaenaf yn eich plith, rhaid iddo fod yn gaethwas i chwi, fel Mab y Dyn, na ddaeth i gael ei wasanaethu ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.” Fel yr oeddent yn mynd allan o Jericho, dilynodd tyrfa fawr ef. Yr oedd dau ddyn dall yn eistedd ar fin y ffordd, a phan glywsant fod Iesu yn mynd heibio, gwaeddasant, “Syr, trugarha wrthym, Fab Dafydd.” Ceryddodd y dyrfa hwy a dweud wrthynt am dewi, ond gweiddi'n fwy byth a wnaethant, “Syr, trugarha wrthym, Fab Dafydd.” Safodd Iesu, a'u galw a dweud, “Beth yr ydych am i mi ei wneud i chwi?” Meddent hwy wrtho, “Syr, mae arnom eisiau i'n llygaid gael eu hagor.” Tosturiodd Iesu wrthynt a chyffyrddodd â'u llygaid, a chawsant eu golwg yn ôl yn y fan, a chanlynasant ef.

Mathew 20:17-34 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac a’r Iesu yn myned i fyny i Jerwsalem, efe a gymerth y deuddeg disgybl o’r neilltu ar y ffordd, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a Mab y dyn a draddodir i’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a hwy a’i condemniant ef i farwolaeth, Ac a’i traddodant ef i’r Cenhedloedd, i’w watwar, ac i’w fflangellu, ac i’w groeshoelio: a’r trydydd dydd efe a atgyfyd. Yna y daeth mam meibion Sebedeus ato gyda’i meibion, gan addoli, a deisyf rhyw beth ganddo. Ac efe a ddywedodd wrthi, Pa beth a fynni? Dywedodd hithau wrtho, Dywed am gael o’m dau fab hyn eistedd, y naill ar dy law ddeau, a’r llall ar dy law aswy, yn dy frenhiniaeth. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed o’r cwpan yr ydwyf fi ar yfed ohono, a’ch bedyddio â’r bedydd y bedyddir fi? Dywedasant wrtho, Gallwn. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o’m cwpan, ac y’ch bedyddir â’r bedydd y’m bedyddir ag ef: eithr eistedd ar fy llaw ddeau ac ar fy llaw aswy, nid eiddof ei roddi; ond i’r sawl y darparwyd gan fy Nhad. A phan glybu’r deg hyn, hwy a sorasant wrth y ddau frodyr. A’r Iesu a’u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd, Chwi a wyddoch fod penaethiaid y Cenhedloedd yn tra-arglwyddiaethu arnynt, a’r rhai mawrion yn tra-awdurdodi arnynt hwy. Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a fynno fod yn fawr yn eich plith chwi, bydded yn weinidog i chwi; A phwy bynnag a fynno fod yn bennaf yn eich plith, bydded yn was i chwi: Megis na ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn bridwerth dros lawer. Ac a hwy yn myned allan o Jericho, tyrfa fawr a’i canlynodd ef. Ac wele, dau ddeillion yn eistedd ar fin y ffordd, pan glywsant fod yr Iesu yn myned heibio, a lefasant, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarha wrthym. A’r dyrfa a’u ceryddodd hwynt, fel y tawent: hwythau a lefasant fwyfwy, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarha wrthym. A’r Iesu a safodd, ac a’u galwodd hwynt, ac a ddywedodd, Pa beth a ewyllysiwch ei wneuthur ohonof i chwi? Dywedasant wrtho, Arglwydd, agoryd ein llygaid ni. A’r Iesu a dosturiodd wrthynt, ac a gyffyrddodd â’u llygaid: ac yn ebrwydd y cafodd eu llygaid olwg, a hwy a’i canlynasant ef.