Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 15

15
Traddodiad yr Hynafiaid
Mc. 7:1–23
1Yna daeth Phariseaid ac ysgrifenyddion o Jerwsalem at Iesu a dweud, 2“Pam y mae dy ddisgyblion di yn troseddu yn erbyn traddodiad yr hynafiaid? Oherwydd nid ydynt yn golchi eu dwylo pan fyddant yn bwyta'u bwyd.” 3Atebodd yntau hwy, “A pham yr ydych chwithau yn troseddu yn erbyn gorchymyn Duw er mwyn eich traddodiad? 4Oherwydd dywedodd Duw, ‘Anrhydedda dy dad a'th fam’, a ‘Bydded farw'n gelain y sawl a felltithia ei dad neu ei fam.’ 5Ond yr ydych chwi'n dweud, ‘Os dywed rhywun wrth ei dad neu ei fam, “Offrwm i Dduw yw beth bynnag y gallasit ei dderbyn yn gymorth gennyf fi”, ni chaiff anrhydeddu ei dad#15:5 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir neu ei fam..’ 6Ac yr ydych wedi dirymu gair Duw er mwyn eich traddodiad chwi. 7Ragrithwyr, da y proffwydodd Eseia amdanoch:
8“ ‘Y mae'r bobl hyn yn fy anrhydeddu â'u gwefusau,
ond y mae eu calon ymhell oddi wrthyf;
9yn ofer y maent yn fy addoli,
gan ddysgu gorchmynion dynol fel athrawiaethau.’ ”
10Galwodd y dyrfa ato a dywedodd wrthynt, “Gwrandewch a deallwch. 11Nid yr hyn sy'n mynd i mewn i enau rhywun sy'n ei halogi, ond yr hyn sy'n dod allan o'i enau, dyna sy'n halogi rhywun.” 12Yna daeth ei ddisgyblion a dweud wrtho, “A wyddost fod y Phariseaid wedi eu tramgwyddo wrth glywed dy eiriau?” 13Atebodd yntau, “Pob planhigyn na phlannodd fy Nhad nefol, fe'i diwreiddir. 14Gadewch iddynt; arweinwyr dall i ddeillion ydynt. Os bydd rhywun dall yn arwain rhywun dall, bydd y ddau yn syrthio i bydew.” 15Dywedodd Pedr wrtho, “Eglura'r ddameg hon inni.” 16Meddai Iesu, “A ydych chwithau'n dal mor ddiddeall? 17Oni welwch fod popeth sy'n mynd i mewn i'r genau yn mynd i'r cylla ac yn cael ei yrru allan i'r geudy? 18Ond y mae'r pethau sy'n dod allan o'r genau yn dod o'r galon, a dyna'r pethau sy'n halogi rhywun. 19Oherwydd o'r galon y daw cynllunio drygionus, llofruddio, godinebu, puteinio, lladrata, camdystiolaethu, a chablu. 20Dyma'r pethau sy'n halogi rhywun; ond bwyta â dwylo heb eu golchi, nid yw hynny'n halogi neb.”
Ffydd y Gananees
Mc. 7:24–30
21Aeth Iesu allan oddi yno ac ymadawodd i barthau Tyrus a Sidon. 22A dyma wraig oedd yn Gananëes o'r cyffiniau hynny yn dod ymlaen gan weiddi, “Syr, trugarha wrthyf, Fab Dafydd; y mae fy merch wedi ei meddiannu gan gythraul ac yn dioddef yn enbyd.” 23Ond nid atebodd ef un gair iddi. A daeth ei ddisgyblion ato a gofyn iddo, “Gyr hi i ffwrdd, oherwydd y mae'n gweiddi ar ein hôl.” 24Atebodd yntau, “Ni'm hanfonwyd at neb ond at ddefaid colledig tŷ Israel.” 25Ond daeth hithau ac ymgrymu iddo gan ddweud, “Syr, helpa fi.” 26Atebodd Iesu, “Nid yw'n deg cymryd bara'r plant a'i daflu i'r cŵn.” 27Dywedodd hithau, “Gwir, syr, ond y mae hyd yn oed y cŵn yn bwyta o'r briwsion sy'n syrthio oddi ar fwrdd eu meistri.” 28Yna atebodd Iesu hi, “Wraig, mawr yw dy ffydd; boed iti fel y mynni.” Ac fe iachawyd ei merch o'r munud hwnnw.
Iacháu Llawer
29Symudodd Iesu oddi yno ac aeth gerllaw Môr Galilea, ac i fyny'r mynydd. Eisteddodd yno, 30a daeth tyrfaoedd mawr ato yn dwyn gyda hwy y cloff a'r dall, yr anafus a'r mud, a llawer eraill; gosodasant hwy wrth ei draed, ac iachaodd ef hwy, 31er syndod i'r dyrfa wrth weld y mud yn llefaru, yr anafus yn holliach, y cloff yn cerdded a'r dall yn gweld; a rhoesant ogoniant i Dduw Israel.
Porthi'r Pedair Mil
Mc. 8:1–10
32Galwodd Iesu ei ddisgyblion ato, ac meddai, “Yr wyf yn tosturio wrth y dyrfa, oherwydd y maent wedi bod gyda mi dridiau erbyn hyn, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwyta. Ac ni fynnaf eu hanfon ymaith ar eu cythlwng, rhag iddynt lewygu ar y ffordd.” 33Dywedodd y disgyblion wrtho, “O ble, mewn lle anial, y cawn ddigon o fara i fwydo tyrfa mor fawr?” 34Gofynnodd Iesu iddynt, “Pa sawl torth sydd gennych?” “Saith,” meddent hwythau, “ac ychydig bysgod bychain.” 35Gorchmynnodd i'r dyrfa eistedd ar y ddaear. 36Yna cymerodd y saith torth a'r pysgod, ac wedi diolch fe'u torrodd a'u rhoi i'r disgyblion, a'r disgyblion i'r tyrfaoedd. 37Bwytasant oll a chael digon, a chodasant lond saith cawell o'r tameidiau oedd dros ben. 38Yr oedd y rhai oedd yn bwyta yn bedair mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant. 39Wedi gollwng y tyrfaoedd aeth Iesu i mewn i'r cwch a daeth i gyffiniau Magadan.

Dewis Presennol:

Mathew 15: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda