1
Mathew 15:18-19
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Ond y mae'r pethau sy'n dod allan o'r genau yn dod o'r galon, a dyna'r pethau sy'n halogi rhywun. Oherwydd o'r galon y daw cynllunio drygionus, llofruddio, godinebu, puteinio, lladrata, camdystiolaethu, a chablu.
Cymharu
Archwiliwch Mathew 15:18-19
2
Mathew 15:11
Nid yr hyn sy'n mynd i mewn i enau rhywun sy'n ei halogi, ond yr hyn sy'n dod allan o'i enau, dyna sy'n halogi rhywun.”
Archwiliwch Mathew 15:11
3
Mathew 15:8-9
“ ‘Y mae'r bobl hyn yn fy anrhydeddu â'u gwefusau, ond y mae eu calon ymhell oddi wrthyf; yn ofer y maent yn fy addoli, gan ddysgu gorchmynion dynol fel athrawiaethau.’ ”
Archwiliwch Mathew 15:8-9
4
Mathew 15:28
Yna atebodd Iesu hi, “Wraig, mawr yw dy ffydd; boed iti fel y mynni.” Ac fe iachawyd ei merch o'r munud hwnnw.
Archwiliwch Mathew 15:28
5
Mathew 15:25-27
Ond daeth hithau ac ymgrymu iddo gan ddweud, “Syr, helpa fi.” Atebodd Iesu, “Nid yw'n deg cymryd bara'r plant a'i daflu i'r cŵn.” Dywedodd hithau, “Gwir, syr, ond y mae hyd yn oed y cŵn yn bwyta o'r briwsion sy'n syrthio oddi ar fwrdd eu meistri.”
Archwiliwch Mathew 15:25-27
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos