Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 12:9-38

Mathew 12:9-38 BCND

Symudodd oddi yno a daeth i'w synagog hwy. Yno yr oedd dyn a chanddo law ddiffrwyth. Gofynasant i Iesu, er mwyn cael cyhuddiad i'w ddwyn yn ei erbyn, “A yw'n gyfreithlon iacháu ar y Saboth?” Dywedodd yntau wrthynt, “Pwy ohonoch a chanddo un ddafad, os syrth honno i bydew ar y Saboth, na fydd yn gafael ynddi a'i chodi? Gymaint mwy gwerthfawr yw dyn na dafad. Am hynny y mae'n gyfreithlon gwneud da ar y Saboth.” Yna dywedodd wrth y dyn, “Estyn dy law.” Estynnodd yntau hi, a gwnaed ei law yn holliach fel y llall. Ac fe aeth y Phariseaid allan a chynllwyn yn ei erbyn, sut i'w ladd. Ond daeth Iesu i wybod hyn, ac aeth ymaith oddi yno. Dilynodd llawer ef, ac fe iachaodd bawb ohonynt, a rhybuddiodd hwy i beidio â'i wneud yn hysbys, fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy Eseia'r proffwyd: “Dyma fy ngwas, yr un a ddewisais, fy anwylyd, yr ymhyfrydodd fy enaid ynddo. Rhoddaf fy Ysbryd arno, a bydd yn cyhoeddi barn i'r Cenhedloedd. Ni fydd yn ymrafael nac yn gweiddi, ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd. Ni fydd yn mathru corsen doredig, nac yn diffodd cannwyll sy'n mygu, nes iddo ddwyn barn i fuddugoliaeth. Ac yn ei enw ef y bydd gobaith y Cenhedloedd.” Yna dygwyd ato ddyn â chythraul ynddo, yn ddall a mud; iachaodd Iesu ef, nes bod y mudan yn llefaru ac yn gweld. A synnodd yr holl dyrfaoedd a dweud, “A yw'n bosibl mai hwn yw Mab Dafydd?” Ond pan glywodd y Phariseaid dywedasant, “Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid ond trwy Beelsebwl, pennaeth y cythreuliaid.” Deallodd Iesu eu meddyliau a dywedodd wrthynt, “Caiff pob teyrnas a ymrannodd yn ei herbyn ei hun ei difrodi, ac ni bydd yr un dref na thŷ a ymrannodd yn ei erbyn ei hun yn sefyll. Ac os yw Satan yn bwrw allan Satan, y mae wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun; sut felly y saif ei deyrnas? Ac os trwy Beelsebwl yr wyf fi'n bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich disgyblion chwi yn eu bwrw allan? Am hynny hwy fydd yn eich barnu. Ond os trwy Ysbryd Duw yr wyf fi'n bwrw allan gythreuliaid, yna y mae teyrnas Dduw wedi cyrraedd atoch. Neu sut y gall rhywun fynd i mewn i dŷ un cryf ac ysbeilio'i ddodrefn heb yn gyntaf rwymo'r un cryf? Wedyn caiff ysbeilio'i dŷ ef. Os nad yw rhywun gyda mi, yn fy erbyn i y mae, ac os nad yw'n casglu gyda mi, gwasgaru y mae. Am hynny rwy'n dweud wrthych, maddeuir pob pechod a chabledd i bobl, ond y cabledd yn erbyn yr Ysbryd ni faddeuir mohono. Caiff pwy bynnag a ddywed air yn erbyn Mab y Dyn, faddeuant; ond pwy bynnag a'i dywed yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni chaiff faddeuant nac yn yr oes hon nac yn yr oes sydd i ddod. “Naill ai cyfrifwch y goeden yn dda a'i ffrwyth yn dda, neu cyfrifwch y goeden yn wael a'i ffrwyth yn wael. Wrth ei ffrwyth y mae'r goeden yn cael ei hadnabod. Chwi epil gwiberod, sut y gallwch lefaru pethau da, a chwi eich hunain yn ddrwg? Oherwydd yn ôl yr hyn sy'n llenwi'r galon y mae'r genau'n llefaru. Y mae'r dyn da o'i drysor da yn dwyn allan bethau da, a'r dyn drwg o'i drysor drwg yn dwyn allan bethau drwg. Rwy'n dweud wrthych am bob gair di-fudd a lefara pobl, fe roddant gyfrif amdano yn Nydd y Farn. Oherwydd wrth dy eiriau y cei dy gyfiawnhau, ac wrth dy eiriau y cei dy gondemnio.” Yna dywedodd rhai o'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid wrtho, “Athro, fe garem weld arwydd gennyt.”

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Mathew 12:9-38