Symudodd oddi yno a daeth i'w synagog hwy. Yno yr oedd dyn a chanddo law ddiffrwyth. Gofynasant i Iesu, er mwyn cael cyhuddiad i'w ddwyn yn ei erbyn, “A yw'n gyfreithlon iacháu ar y Saboth?” Dywedodd yntau wrthynt, “Pwy ohonoch a chanddo un ddafad, os syrth honno i bydew ar y Saboth, na fydd yn gafael ynddi a'i chodi? Gymaint mwy gwerthfawr yw dyn na dafad. Am hynny y mae'n gyfreithlon gwneud da ar y Saboth.” Yna dywedodd wrth y dyn, “Estyn dy law.” Estynnodd yntau hi, a gwnaed ei law yn holliach fel y llall.
Darllen Mathew 12
Gwranda ar Mathew 12
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 12:9-13
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos