Tra oedd ef yn dal i siarad â'r tyrfaoedd, yr oedd ei fam a'i frodyr yn sefyll y tu allan yn ceisio siarad ag ef. Dywedodd rhywun wrtho, “Dacw dy fam a'th frodyr yn sefyll y tu allan yn ceisio siarad â thi.” Atebodd Iesu ef, “Pwy yw fy mam, a phwy yw fy mrodyr?” A chan estyn ei law at ei ddisgyblion dywedodd, “Dyma fy mam a'm brodyr i. Oherwydd pwy bynnag sy'n gwneud ewyllys fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd, y mae hwnnw'n frawd i mi, ac yn chwaer, ac yn fam.”
Darllen Mathew 12
Gwranda ar Mathew 12
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 12:46-50
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos