Mathew 10
10
Cenhadaeth y Deuddeg
Mc. 3:13–19; Lc. 6:12–16
1Wedi galw ato ei ddeuddeg disgybl rhoddodd Iesu iddynt awdurdod dros ysbrydion aflan, i'w bwrw allan, ac i iacháu pob afiechyd a phob llesgedd. 2A dyma enwau'r deuddeg apostol: yn gyntaf Simon, a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd, ac Iago fab Sebedeus, ac Ioan ei frawd, 3Philip a Bartholomeus, Thomas a Mathew'r casglwr trethi, Iago fab Alffeus, a Thadeus#10:3 Yn ôl darlleniad arall, Lebeus., 4Simon y Selot, a Jwdas Iscariot, yr un a'i bradychodd ef.
Rhoi Comisiwn i'r Deuddeg
Mc. 6:7–13; Lc. 9:1–6
5Y deuddeg hyn a anfonodd Iesu allan wedi rhoi'r gorchmynion yma iddynt: “Peidiwch â mynd i gyfeiriad y Cenhedloedd, a pheidiwch â mynd i mewn i un o drefi'r Samariaid. 6Ewch yn hytrach at ddefaid colledig tŷ Israel. 7Ac wrth fynd cyhoeddwch y genadwri: ‘Y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos.’ 8Iachewch y cleifion, cyfodwch y meirw, glanhewch y gwahanglwyfus, bwriwch allan gythreuliaid; derbyniasoch heb dâl, rhowch heb dâl. 9Peidiwch â chymryd aur nac arian na phres yn eich gwregys, 10na chod i'r daith nac ail grys na sandalau na ffon. Y mae'r gweithiwr yn haeddu ei fwyd. 11I ba dref neu bentref bynnag yr ewch, holwch pwy sy'n deilwng yno, ac arhoswch yno hyd nes y byddwch yn ymadael â'r ardal. 12A phan fyddwch yn mynd i mewn i dŷ, cyfarchwch y tŷ. 13Ac os bydd y tŷ yn deilwng, doed eich tangnefedd arno. Ond os na fydd y tŷ yn deilwng, dychweled eich tangnefedd atoch. 14Ac os bydd rhywun yn gwrthod eich derbyn a gwrthod gwrando ar eich geiriau, ewch allan o'r tŷ hwnnw neu'r dref honno ac ysgydwch y llwch oddi ar eich traed. 15Yn wir, rwy'n dweud wrthych y caiff tir Sodom a Gomorra lai i'w ddioddef yn Nydd y Farn na'r dref honno.
Erledigaethau i Ddod
Mc. 13:11–13; Lc. 21:12–17
16“Dyma fi yn eich anfon allan fel defaid i blith bleiddiaid; felly byddwch yn gall fel seirff ac yn ddiniwed fel colomennod. 17Gochelwch rhag pobl; oherwydd fe'ch traddodant chwi i lysoedd, ac fe'ch fflangellant yn eu synagogau. 18Cewch eich dwyn o flaen llywodraethwyr a brenhinoedd o'm hachos i, i ddwyn tystiolaeth iddynt ac i'r Cenhedloedd. 19Pan draddodant chwi, peidiwch â phryderu pa fodd na pha beth i lefaru, oherwydd fe roddir i chwi y pryd hwnnw eiriau i'w llefaru. 20Nid chwi sydd yn llefaru, ond Ysbryd eich Tad sy'n llefaru ynoch chwi. 21Bradycha brawd ei frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn, a chyfyd plant yn erbyn eu rhieni a pheri eu lladd. 22A chas fyddwch gan bawb o achos fy enw i; ond y sawl sy'n dyfalbarhau i'r diwedd a gaiff ei achub. 23Pan erlidiant chwi mewn un dref, ffowch i un arall. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni fyddwch wedi cwblhau trefi Israel cyn dyfod Mab y Dyn.
24“Nid yw disgybl yn well na'i athro na gwas yn well na'i feistr. 25Digon i'r disgybl yw bod fel ei athro, a'r gwas fel ei feistr. Os galwasant feistr y tŷ yn Beelsebwl, pa faint mwy ei deulu?
Pwy i'w Ofni
Lc. 12:2–7
26“Peidiwch â'u hofni hwy. Oherwydd nid oes dim wedi ei guddio na ddatguddir, na dim yn guddiedig na cheir ei wybod. 27Yr hyn a ddywedaf wrthych yn y tywyllwch, dywedwch ef yng ngolau dydd; a'r hyn a sibrydir i'ch clust, cyhoeddwch ef ar bennau'r tai. 28A pheidiwch ag ofni'r rhai sy'n lladd y corff, ond na allant ladd yr enaid; ofnwch yn hytrach yr hwn sy'n gallu dinistrio'r enaid a'r corff yn uffern. 29Oni werthir dau aderyn y to am geiniog? Eto nid oes un ohonynt yn syrthio i'r ddaear heb eich Tad. 30Amdanoch chwi, y mae hyd yn oed pob blewyn o wallt eich pen wedi ei rifo. 31Peidiwch ag ofni felly; yr ydych chwi'n werth mwy na llawer o adar y to.
Cyffesu Crist gerbron Dynion
Lc. 12:8–9
32“Pwy bynnag fydd yn fy arddel i gerbron eraill, byddaf finnau hefyd yn eu harddel hwy gerbron fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd. 33Ond pwy bynnag fydd yn fy ngwadu i gerbron eraill, byddaf finnau hefyd yn eu gwadu hwy gerbron fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd.
Nid Heddwch, ond Cleddyf
Lc. 12:51–53; 14:26–27
34“Peidiwch â meddwl mai i ddwyn heddwch i'r ddaear y deuthum; nid i ddwyn heddwch y deuthum ond cleddyf.
35Oherwydd deuthum i rannu
“ ‘dyn yn erbyn ei dad,
a merch yn erbyn ei mam,
a merch-yng-nghyfraith yn erbyn ei mam-yng-nghyfraith;
36a gelynion rhywun fydd ei deulu ei hun’.
37“Nid yw'r sawl sy'n caru tad neu fam yn fwy na myfi yn deilwng ohonof fi; ac nid yw'r sawl sy'n caru mab neu ferch yn fwy na myfi yn deilwng ohonof fi. 38A'r sawl nad yw'n cymryd ei groes ac yn canlyn ar fy ôl i, nid yw'n deilwng ohonof fi. 39Yr un sy'n ennill ei fywyd a'i cyll, a'r un sy'n colli ei fywyd er fy mwyn i a'i hennill.
Gwobrau
Mc. 9:41
40“Y mae'r sawl sy'n eich derbyn chwi yn fy nerbyn i, a'r sawl sy'n fy nerbyn i yn derbyn yr hwn a'm hanfonodd i. 41Pwy bynnag sy'n derbyn proffwyd am ei fod yn broffwyd, fe gaiff wobr proffwyd, a phwy bynnag sy'n derbyn un cyfiawn am ei fod yn un cyfiawn, fe gaiff wobr un cyfiawn. 42A phwy bynnag a rydd gymaint â chwpanaid o ddŵr oer i un o'r rhai bychain hyn am ei fod yn ddisgybl, yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni chyll ei wobr.”
Dewis Presennol:
Mathew 10: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004