Aeth i lawr i Gapernaum, tref yng Ngalilea, a bu'n dysgu'r bobl ar y Saboth. Yr oeddent yn synnu at yr hyn yr oedd yn ei ddysgu, oherwydd yr oedd ei air yn llawn awdurdod. Yn y synagog yr oedd dyn a chanddo ysbryd cythraul aflan. Gwaeddodd hwnnw â llais uchel, “Och, beth sydd a fynni di â ni, Iesu o Nasareth? A wyt ti wedi dod i'n difetha ni? Mi wn pwy wyt ti—Sanct Duw.” Ceryddodd Iesu ef â'r geiriau, “Taw, a dos allan ohono.” Lluchiodd y cythraul y dyn i'w canol ac aeth allan ohono heb niweidio dim arno. Aeth pawb yn syn a dechreusant siarad â'i gilydd, gan ddweud, “Pa air yw hwn? Y mae ef yn gorchymyn yr ysbrydion aflan ag awdurdod ac â nerth, ac y maent yn mynd allan.” Yr oedd sôn amdano yn mynd ar hyd a lled y gymdogaeth.
Darllen Luc 4
Gwranda ar Luc 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 4:31-37
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos