Un o'r dyddiau pan oedd ef yn dysgu'r bobl yn y deml ac yn cyhoeddi'r newydd da, daeth y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, ynghyd â'r henuriaid, ato, ac meddent wrtho, “Dywed wrthym trwy ba awdurdod yr wyt ti'n gwneud y pethau hyn, neu pwy roddodd i ti'r awdurdod hwn.” Atebodd ef hwy, “Fe ofynnaf finnau rywbeth i chwi. Dywedwch wrthyf: bedydd Ioan, ai o'r nef yr oedd, ai o'r byd daearol?” Dadleusant â'i gilydd gan ddweud, “Os dywedwn, ‘O'r nef’, fe ddywed, ‘Pam na chredasoch ef?’ Ond os dywedwn, ‘O'r byd daearol’, bydd yr holl bobl yn ein llabyddio, oherwydd y maent yn argyhoeddedig fod Ioan yn broffwyd.” Ac atebasant nad oeddent yn gwybod o ble'r oedd. Meddai Iesu wrthynt, “Ni ddywedaf finnau chwaith wrthych chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn.”
Dechreuodd ddweud y ddameg hon wrth y bobl: “Fe blannodd rhywun winllan, ac wedi iddo ei gosod hi i denantiaid, aeth oddi cartref am amser hir. Pan ddaeth yn amser, anfonodd was at y tenantiaid iddynt roi iddo gyfran o ffrwyth y winllan. Ond ei guro a wnaeth y tenantiaid, a'i yrru i ffwrdd yn waglaw. Anfonodd ef was arall, ond curasant hwn hefyd a'i amharchu, a'i yrru i ffwrdd yn waglaw. Anfonodd ef drachefn drydydd, ond clwyfasant hwn hefyd a'i fwrw allan. Yna meddai perchen y winllan, ‘Beth a wnaf fi? Fe anfonaf fy mab, yr anwylyd; efallai y parchant ef.’ Ond pan welodd y tenantiaid hwn, dechreusant drafod ymhlith ei gilydd gan ddweud, ‘Hwn yw'r etifedd; lladdwn ef, er mwyn i'r etifeddiaeth ddod yn eiddo i ni.’ A bwriasant ef allan o'r winllan a'i ladd. Beth ynteu a wna perchen y winllan iddynt? Fe ddaw ac fe ddifetha'r tenantiaid hynny, ac fe rydd y winllan i eraill.” Pan glywsant hyn meddent, “Na ato Duw!” Edrychodd ef arnynt a dweud, “Beth felly yw ystyr yr Ysgrythur hon:
“ ‘Y maen a wrthododd yr adeiladwyr,
hwn a ddaeth yn faen y gongl’?
“Pawb sy'n syrthio ar y maen hwn, fe'i dryllir; pwy bynnag y syrth y maen arno, fe'i maluria.”