Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 20:1-18

Luc 20:1-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Un o'r dyddiau pan oedd ef yn dysgu'r bobl yn y deml ac yn cyhoeddi'r newydd da, daeth y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, ynghyd â'r henuriaid, ato, ac meddent wrtho, “Dywed wrthym trwy ba awdurdod yr wyt ti'n gwneud y pethau hyn, neu pwy roddodd i ti'r awdurdod hwn.” Atebodd ef hwy, “Fe ofynnaf finnau rywbeth i chwi. Dywedwch wrthyf: bedydd Ioan, ai o'r nef yr oedd, ai o'r byd daearol?” Dadleusant â'i gilydd gan ddweud, “Os dywedwn, ‘O'r nef’, fe ddywed, ‘Pam na chredasoch ef?’ Ond os dywedwn, ‘O'r byd daearol’, bydd yr holl bobl yn ein llabyddio, oherwydd y maent yn argyhoeddedig fod Ioan yn broffwyd.” Ac atebasant nad oeddent yn gwybod o ble'r oedd. Meddai Iesu wrthynt, “Ni ddywedaf finnau chwaith wrthych chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn.” Dechreuodd ddweud y ddameg hon wrth y bobl: “Fe blannodd rhywun winllan, ac wedi iddo ei gosod hi i denantiaid, aeth oddi cartref am amser hir. Pan ddaeth yn amser, anfonodd was at y tenantiaid iddynt roi iddo gyfran o ffrwyth y winllan. Ond ei guro a wnaeth y tenantiaid, a'i yrru i ffwrdd yn waglaw. Anfonodd ef was arall, ond curasant hwn hefyd a'i amharchu, a'i yrru i ffwrdd yn waglaw. Anfonodd ef drachefn drydydd, ond clwyfasant hwn hefyd a'i fwrw allan. Yna meddai perchen y winllan, ‘Beth a wnaf fi? Fe anfonaf fy mab, yr anwylyd; efallai y parchant ef.’ Ond pan welodd y tenantiaid hwn, dechreusant drafod ymhlith ei gilydd gan ddweud, ‘Hwn yw'r etifedd; lladdwn ef, er mwyn i'r etifeddiaeth ddod yn eiddo i ni.’ A bwriasant ef allan o'r winllan a'i ladd. Beth ynteu a wna perchen y winllan iddynt? Fe ddaw ac fe ddifetha'r tenantiaid hynny, ac fe rydd y winllan i eraill.” Pan glywsant hyn meddent, “Na ato Duw!” Edrychodd ef arnynt a dweud, “Beth felly yw ystyr yr Ysgrythur hon: “ ‘Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a ddaeth yn faen y gongl’? “Pawb sy'n syrthio ar y maen hwn, fe'i dryllir; pwy bynnag y syrth y maen arno, fe'i maluria.”

Luc 20:1-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Un diwrnod roedd Iesu’n dysgu’r bobl ac yn cyhoeddi’r newyddion da yn y deml. Dyma’r prif offeiriaid, yr arbenigwyr yn y Gyfraith a’r arweinwyr Iddewig eraill yn dod ato, a gofyn iddo, “Pa hawl sydd gen ti i wneud beth wnest ti? Pwy yn union roddodd yr awdurdod i ti?” Atebodd Iesu, “Gadewch i mi ofyn un cwestiwn i chi’n gyntaf. Dwedwch wrtho i – Ai Duw anfonodd Ioan i fedyddio neu ddim?” Wrth drafod y peth gyda’i gilydd, dyma nhw’n dweud, “Os atebwn ni ‘Ie’, bydd yn gofyn, ‘Pam doeddech chi ddim yn ei gredu?’ Ond allwn ni ddim dweud ‘Na’ … Bydd y bobl yn ein llabyddio ni â cherrig. Maen nhw’n credu’n gwbl bendant fod Ioan yn broffwyd.” Felly dyma nhw’n dweud eu bod nhw ddim yn gwybod yr ateb. “Felly dw i ddim yn mynd i ateb eich cwestiwn chi chwaith,” meddai Iesu. Aeth yn ei flaen i ddweud y stori yma wrth y bobl: “Roedd dyn wedi plannu gwinllan. Gosododd y winllan ar rent i rhyw ffermwyr cyn mynd i ffwrdd am amser hir. Pan oedd hi’n amser casglu’r grawnwin anfonodd un o’i weision i nôl y siâr roedd y tenantiaid i fod i’w rhoi iddo. Ond dyma’r tenantiaid yn curo’r gwas a’i anfon i ffwrdd heb ddim. Felly dyma’r dyn yn anfon gwas arall; dyma nhw’n curo hwnnw hefyd a’i gam-drin a’i anfon i ffwrdd heb ddim. Pan anfonodd was arall eto, dyma nhw’n anafu hwnnw’n ddifrifol a’i daflu allan. “‘Beth wna i?’ meddai’r dyn oedd biau’r winllan. ‘Dw i’n gwybod! Anfona i fy mab annwyl atyn nhw. Byddan nhw’n ei barchu e.’ “Ond pan welodd y tenantiaid y mab, dyma nhw’n dweud wrth ei gilydd: ‘Hwn sy’n mynd i etifeddu’r winllan. Os lladdwn ni hwn cawn ni’r winllan i ni’n hunain!’ Felly dyma nhw’n ei daflu allan o’r winllan a’i ladd. Felly beth fydd y dyn biau’r winllan yn ei wneud iddyn nhw? Bydd yn dod ac yn lladd y tenantiaid hynny ac yn rhoi’r winllan i bobl eraill.” Pan glywodd y bobl y stori yma, eu hymateb oedd, “Na! Byth!” Edrychodd Iesu i fyw eu llygaid, ac meddai, “Felly beth ydy ystyr y geiriau yma o’r ysgrifau sanctaidd: ‘Mae’r garreg wrthododd yr adeiladwyr wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen’ ? Bydd pawb sy’n baglu dros y garreg honno yn dryllio’n ddarnau, a bydd pwy bynnag mae’r garreg yn syrthio arno yn cael ei fathru.”

Luc 20:1-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A digwyddodd ar un o’r dyddiau hynny, ac efe yn dysgu’r bobl yn y deml, ac yn pregethu’r efengyl, ddyfod arno yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, gyda’r henuriaid, A llefaru wrtho, gan ddywedyd, Dywed i ni, Trwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn? neu pwy yw’r hwn a roddodd i ti yr awdurdod hon? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minnau a ofynnaf i chwithau un gair; a dywedwch i mi: Bedydd Ioan, ai o’r nef yr ydoedd, ai o ddynion? Eithr hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O’r nef; efe a ddywed, Paham gan hynny na chredech ef? Ac os dywedwn, O ddynion; yr holl bobl a’n llabyddiant ni: canys y maent hwy yn cwbl gredu fod Ioan yn broffwyd. A hwy a atebasant, nas gwyddent o ba le. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ac nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn. Ac efe a ddechreuodd ddywedyd y ddameg hon wrth y bobl; Rhyw ŵr a blannodd winllan, ac a’i gosododd i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref dros dalm o amser. Ac mewn amser efe a anfonodd was at y llafurwyr, fel y rhoddent iddo o ffrwyth y winllan: eithr y llafurwyr a’i curasant ef, ac a’i hanfonasant ymaith yn waglaw. Ac efe a chwanegodd anfon gwas arall: eithr hwy a gurasant ac a amharchasant hwnnw hefyd, ac a’i hanfonasant ymaith yn waglaw. Ac efe a chwanegodd anfon y trydydd: a hwy a glwyfasant hwn hefyd, ac a’i bwriasant ef allan. Yna y dywedodd arglwydd y winllan, Pa beth a wnaf? Mi a anfonaf fy annwyl fab: fe allai pan welant ef, y parchant ef. Eithr y llafurwyr, pan welsant ef, a ymresymasant â’i gilydd, gan ddywedyd, Hwn yw’r etifedd: deuwch, lladdwn ef, fel y byddo’r etifeddiaeth yn eiddom ni. A hwy a’i bwriasant ef allan o’r winllan, ac a’i lladdasant. Pa beth gan hynny a wna arglwydd y winllan iddynt hwy? Efe a ddaw, ac a ddifetha’r llafurwyr hyn, ac a rydd ei winllan i eraill. A phan glywsant hyn, hwy a ddywedasant, Na ato Duw. Ac efe a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd, Beth gan hynny yw hyn a ysgrifennwyd, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl? Pwy bynnag a syrthio ar y maen hwnnw, a ddryllir: ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a’i mâl ef.