Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 1:57-80

Luc 1:57-80 BCND

Am Elisabeth, cyflawnwyd yr amser iddi esgor, a ganwyd iddi fab. Clywodd ei chymdogion a'i pherthnasau am drugaredd fawr yr Arglwydd iddi, ac yr oeddent yn llawenychu gyda hi. A'r wythfed dydd daethant i enwaedu ar y plentyn, ac yr oeddent am ei enwi ar ôl ei dad, Sachareias. Ond atebodd ei fam, “Nage, Ioan yw ei enw i fod.” Meddent wrthi, “Nid oes neb o'th deulu â'r enw hwnnw arno.” Yna gofynasant drwy arwyddion i'w dad sut y dymunai ef ei enwi. Galwodd yntau am lechen fach ac ysgrifennodd, “Ioan yw ei enw.” A synnodd pawb. Ar unwaith rhyddhawyd ei enau a'i dafod, a dechreuodd lefaru a bendithio Duw. Daeth ofn ar eu holl gymdogion, a bu trafod ar yr holl ddigwyddiadau hyn trwy fynydd-dir Jwdea i gyd; a chadwyd hwy ar gof gan bawb a glywodd amdanynt. “Beth gan hynny fydd y plentyn hwn?” meddent. Ac yn wir yr oedd llaw'r Arglwydd gydag ef. Llanwyd Sachareias ei dad ef â'r Ysbryd Glân, a phroffwydodd fel hyn: “Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel am iddo ymweld â'i bobl a'u prynu i ryddid; cododd waredigaeth gadarn i ni yn nhŷ Dafydd ei was— fel y llefarodd trwy enau ei broffwydi sanctaidd yn yr oesoedd a fu— gwaredigaeth rhag ein gelynion ac o afael pawb sydd yn ein casáu; fel hyn y cymerodd drugaredd ar ein hynafiaid, a chofio ei gyfamod sanctaidd, y llw a dyngodd wrth Abraham ein tad, y rhoddai inni gael ein hachub o afael gelynion, a'i addoli yn ddiofn mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef holl ddyddiau ein bywyd. A thithau, fy mhlentyn, gelwir di yn broffwyd y Goruchaf, oherwydd byddi'n cerdded o flaen yr Arglwydd i baratoi ei lwybrau, i roi i'w bobl wybodaeth am waredigaeth trwy faddeuant eu pechodau. Hyn yw trugaredd calon ein Duw— fe ddaw â'r wawrddydd oddi uchod i'n plith, i lewyrchu ar y rhai sy'n eistedd yn nhywyllwch cysgod angau, a chyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.” Yr oedd y plentyn yn tyfu ac yn cryfhau yn ei ysbryd; a bu yn yr anialwch hyd y dydd y dangoswyd ef i Israel.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd