Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 1:5-25

Luc 1:5-25 BCND

Yn nyddiau Herod, brenin Jwdea, yr oedd offeiriad o adran Abeia, o'r enw Sachareias, a chanddo wraig o blith merched Aaron; ei henw hi oedd Elisabeth. Yr oeddent ill dau yn gyfiawn gerbron Duw, yn ymddwyn yn ddi-fai yn ôl holl orchmynion ac ordeiniadau'r Arglwydd. Nid oedd ganddynt blant, oherwydd yr oedd Elisabeth yn ddiffrwyth, ac yr oeddent ill dau wedi cyrraedd oedran mawr. Ond pan oedd Sachareias a'i adran, yn eu tro, yn gweinyddu fel offeiriaid gerbron Duw, yn ôl arferiad y swydd, daeth i'w ran fynd i mewn i gysegr yr Arglwydd ac offrymu'r arogldarth; ac ar awr yr offrymu yr oedd holl dyrfa'r bobl y tu allan yn gweddïo. A dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos iddo, yn sefyll ar yr ochr dde i allor yr arogldarth; a phan welodd Sachareias ef, fe'i cythryblwyd a daeth ofn arno. Ond dywedodd yr angel wrtho, “Paid ag ofni, Sachareias, oherwydd y mae dy ddeisyfiad wedi ei wrando; bydd dy wraig Elisabeth yn esgor ar fab i ti, a gelwi ef Ioan. Fe gei lawenydd a gorfoledd, a bydd llawer yn llawenychu o achos ei enedigaeth ef; oherwydd mawr fydd ef gerbron yr Arglwydd, ac nid yf win na diod gadarn byth; llenwir ef â'r Ysbryd Glân, ie, yng nghroth ei fam, ac fe dry lawer o bobl Israel yn ôl at yr Arglwydd eu Duw. Bydd yn cerdded o flaen yr Arglwydd yn ysbryd a nerth Elias, i droi calonnau rhieni at eu plant, ac i droi'r anufudd i feddylfryd y cyfiawn, er mwyn darparu i'r Arglwydd bobl wedi eu paratoi.” Meddai Sachareias wrth yr angel, “Sut y caf sicrwydd o hyn? Oherwydd yr wyf fi yn hen, a'm gwraig wedi cyrraedd oedran mawr.” Atebodd yr angel ef, “Myfi yw Gabriel, sydd yn sefyll gerbron Duw, ac anfonwyd fi i lefaru wrthyt ac i gyhoeddi iti y newydd da hwn; ac wele, byddi'n fud a heb allu llefaru hyd y dydd y digwydd hyn, am iti beidio â chredu fy ngeiriau, geiriau a gyflawnir yn eu hamser priodol.” Yr oedd y bobl yn disgwyl am Sachareias, ac yn synnu ei fod yn oedi yn y cysegr. A phan ddaeth allan, ni allai lefaru wrthynt, a deallasant iddo gael gweledigaeth yn y cysegr; yr oedd yntau yn amneidio arnynt ac yn parhau yn fud. Pan ddaeth dyddiau ei wasanaeth i ben, dychwelodd adref. Ond wedi'r dyddiau hynny beichiogodd Elisabeth ei wraig; ac fe'i cuddiodd ei hun am bum mis, gan ddweud, “Fel hyn y gwnaeth yr Arglwydd i mi yn y dyddiau yr edrychodd arnaf i dynnu ymaith fy ngwarth yng ngolwg y cyhoedd.”

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd