Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 1:5-25

Luc 1:5-25 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Pan oedd Herod yn frenin ar Jwdea, roedd dyn o’r enw Sachareias yn offeiriad. Roedd yn perthyn i deulu offeiriadol Abeia, ac roedd ei wraig Elisabeth hefyd yn un o ddisgynyddion Aaron, brawd Moses. Roedd y ddau ohonyn nhw yn bobl dda yng ngolwg Duw, ac yn gwneud yn union fel roedd e’n dweud. Ond doedd Elisabeth ddim yn gallu cael plant, ac roedd y ddau ohonyn nhw’n eithaf hen. Un tro, pan oedd y teulu offeiriadol oedd Sachareias yn perthyn iddo yn gwasanaethu yn y deml, roedd Sachareias yno gyda nhw yn gwneud ei waith fel offeiriad. A fe oedd yr un gafodd ei ddewis, drwy daflu coelbren, i losgi arogldarth wrth fynd i mewn i’r cysegr. (Taflu coelbren oedd y ffordd draddodiadol roedd yr offeiriaid yn ei defnyddio i wneud y dewis.) Pan oedd yn amser i’r arogldarth gael ei losgi, roedd yr holl bobl oedd wedi dod yno i addoli yn gweddïo y tu allan. Roedd Sachareias wrthi’n llosgi’r arogldarth, ac yn sydyn gwelodd un o angylion yr Arglwydd o’i flaen yn sefyll ar yr ochr dde i’r allor. Roedd Sachareias wedi dychryn am ei fywyd. Ond dyma’r angel yn dweud wrtho: “Paid bod ofn, Sachareias; mae Duw wedi clywed dy weddi. Mae Elisabeth dy wraig yn mynd i gael plentyn – dy fab di! Ioan ydy’r enw rwyt i’w roi iddo, a bydd yn dy wneud di’n hapus iawn. A bydd llawer iawn o bobl eraill yn llawen hefyd am ei fod wedi’i eni. Bydd e’n was pwysig iawn i’r Arglwydd Dduw. Fydd e ddim yn yfed gwin nac unrhyw ddiod feddwol, ond bydd wedi cael ei lenwi â’r Ysbryd Glân hyd yn oed cyn iddo gael ei eni. Bydd yn troi llawer iawn o bobl Israel yn ôl at yr Arglwydd eu Duw. Gyda’r un ysbryd a nerth a oedd gan y proffwyd Elias bydd yn mynd allan i gyhoeddi fod yr Arglwydd yn dod, ac yn paratoi’r bobl ar ei gyfer. Bydd yn gwella perthynas rhieni â’u plant, ac yn peri i’r rhai sydd wedi bod yn anufudd weld mai byw yn iawn sy’n gwneud synnwyr.” “Sut alla i gredu’r fath beth?” meddai Sachareias wrth yr angel, “Wedi’r cwbl, dw i’n hen ddyn ac mae ngwraig i mewn oed hefyd.” Dyma’r angel yn ateb, “Gabriel ydw i. Fi ydy’r angel sy’n sefyll o flaen Duw i’w wasanaethu. Fe sydd wedi fy anfon i siarad â ti a dweud y newyddion da yma wrthot ti. Gan dy fod ti wedi gwrthod credu beth dw i’n ddweud, byddi’n methu siarad nes bydd y plentyn wedi’i eni. Ond daw’r cwbl dw i’n ei ddweud yn wir yn amser Duw.” Tra oedd hyn i gyd yn digwydd, roedd y bobl yn disgwyl i Sachareias ddod allan o’r deml. Roedden nhw’n methu deall pam roedd e mor hir. Yna pan ddaeth allan, roedd yn methu siarad â nhw. A dyma nhw’n sylweddoli ei fod wedi gweld rhywbeth rhyfeddol yn y deml – roedd yn ceisio esbonio iddyn nhw drwy wneud arwyddion, ond yn methu siarad. Ar ôl i’r cyfnod pan oedd Sachareias yn gwasanaethu yn y deml ddod i ben, aeth adre. Yn fuan wedyn dyma’i wraig Elisabeth yn darganfod ei bod hi’n disgwyl babi, a dyma hi’n cadw o’r golwg am bum mis. “Yr Arglwydd Dduw sydd wedi gwneud hyn i mi!” meddai. “Mae wedi bod mor garedig, ac wedi symud y cywilydd roeddwn i’n ei deimlo am fod gen i ddim plant.”

Luc 1:5-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yn nyddiau Herod, brenin Jwdea, yr oedd offeiriad o adran Abeia, o'r enw Sachareias, a chanddo wraig o blith merched Aaron; ei henw hi oedd Elisabeth. Yr oeddent ill dau yn gyfiawn gerbron Duw, yn ymddwyn yn ddi-fai yn ôl holl orchmynion ac ordeiniadau'r Arglwydd. Nid oedd ganddynt blant, oherwydd yr oedd Elisabeth yn ddiffrwyth, ac yr oeddent ill dau wedi cyrraedd oedran mawr. Ond pan oedd Sachareias a'i adran, yn eu tro, yn gweinyddu fel offeiriaid gerbron Duw, yn ôl arferiad y swydd, daeth i'w ran fynd i mewn i gysegr yr Arglwydd ac offrymu'r arogldarth; ac ar awr yr offrymu yr oedd holl dyrfa'r bobl y tu allan yn gweddïo. A dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos iddo, yn sefyll ar yr ochr dde i allor yr arogldarth; a phan welodd Sachareias ef, fe'i cythryblwyd a daeth ofn arno. Ond dywedodd yr angel wrtho, “Paid ag ofni, Sachareias, oherwydd y mae dy ddeisyfiad wedi ei wrando; bydd dy wraig Elisabeth yn esgor ar fab i ti, a gelwi ef Ioan. Fe gei lawenydd a gorfoledd, a bydd llawer yn llawenychu o achos ei enedigaeth ef; oherwydd mawr fydd ef gerbron yr Arglwydd, ac nid yf win na diod gadarn byth; llenwir ef â'r Ysbryd Glân, ie, yng nghroth ei fam, ac fe dry lawer o bobl Israel yn ôl at yr Arglwydd eu Duw. Bydd yn cerdded o flaen yr Arglwydd yn ysbryd a nerth Elias, i droi calonnau rhieni at eu plant, ac i droi'r anufudd i feddylfryd y cyfiawn, er mwyn darparu i'r Arglwydd bobl wedi eu paratoi.” Meddai Sachareias wrth yr angel, “Sut y caf sicrwydd o hyn? Oherwydd yr wyf fi yn hen, a'm gwraig wedi cyrraedd oedran mawr.” Atebodd yr angel ef, “Myfi yw Gabriel, sydd yn sefyll gerbron Duw, ac anfonwyd fi i lefaru wrthyt ac i gyhoeddi iti y newydd da hwn; ac wele, byddi'n fud a heb allu llefaru hyd y dydd y digwydd hyn, am iti beidio â chredu fy ngeiriau, geiriau a gyflawnir yn eu hamser priodol.” Yr oedd y bobl yn disgwyl am Sachareias, ac yn synnu ei fod yn oedi yn y cysegr. A phan ddaeth allan, ni allai lefaru wrthynt, a deallasant iddo gael gweledigaeth yn y cysegr; yr oedd yntau yn amneidio arnynt ac yn parhau yn fud. Pan ddaeth dyddiau ei wasanaeth i ben, dychwelodd adref. Ond wedi'r dyddiau hynny beichiogodd Elisabeth ei wraig; ac fe'i cuddiodd ei hun am bum mis, gan ddweud, “Fel hyn y gwnaeth yr Arglwydd i mi yn y dyddiau yr edrychodd arnaf i dynnu ymaith fy ngwarth yng ngolwg y cyhoedd.”

Luc 1:5-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yr oedd yn nyddiau Herod, brenin Jwdea, ryw offeiriad a’i enw Sachareias, o ddyddgylch Abeia: a’i wraig oedd o ferched Aaron, a’i henw Elisabeth. Ac yr oeddynt ill dau yn gyfiawn gerbron Duw, yn rhodio yn holl orchmynion a deddfau’r Arglwydd yn ddiargyhoedd. Ac nid oedd plentyn iddynt, am fod Elisabeth yn amhlantadwy; ac yr oeddynt wedi myned ill dau mewn gwth o oedran. A bu, ac efe yn gwasanaethu swydd offeiriad gerbron Duw, yn nhrefn ei ddyddgylch ef, Yn ôl arfer swydd yr offeiriaid, ddyfod o ran iddo arogldarthu yn ôl ei fyned i deml yr Arglwydd. A holl liaws y bobl oedd allan yn gweddïo ar awr yr arogl-darthiad. Ac ymddangosodd iddo angel yr Arglwydd yn sefyll o’r tu deau i allor yr arogl-darth. A Sachareias, pan ganfu, a gythryblwyd, ac ofn a syrthiodd arno. Eithr yr angel a ddywedodd wrtho, Nac ofna, Sachareias: canys gwrandawyd dy weddi; a’th wraig Elisabeth a ddwg i ti fab, a thi a elwi ei enw ef Ioan. A bydd iti lawenydd a gorfoledd; a llawer a lawenychant am ei enedigaeth ef. Canys mawr fydd efe yng ngolwg yr Arglwydd, ac nid yf na gwin na diod gadarn; ac efe a gyflawnir o’r Ysbryd Glân, ie, o groth ei fam. A llawer o blant Israel a dry efe at yr Arglwydd eu Duw. Ac efe a â o’i flaen ef yn ysbryd a nerth Eleias, i droi calonnau’r tadau at y plant, a’r anufudd i ddoethineb y cyfiawn; i ddarparu i’r Arglwydd bobl barod. A dywedodd Sachareias wrth yr angel, Pa fodd y gwybyddaf fi hyn? canys hynafgwr wyf fi, a’m gwraig hefyd mewn gwth o oedran. A’r angel gan ateb a ddywedodd wrtho, Myfi yw Gabriel, yr hwn wyf yn sefyll gerbron Duw, ac a anfonwyd i lefaru wrthyt, ac i fynegi i ti’r newyddion da hyn. Ac wele, ti a fyddi fud ac heb allu llefaru hyd y dydd y gwneler y pethau hyn, am na chredaist i’m geiriau i, y rhai a gyflawnir yn eu hamser. Ac yr oedd y bobl yn disgwyl am Sachareias: a rhyfeddu a wnaethant ei fod ef yn aros cyhyd yn y deml. A phan ddaeth efe allan, ni allai efe lefaru wrthynt; a hwy a wybuant weled ohono weledigaeth yn y deml: ac yr oedd efe yn gwneuthur amnaid iddynt; ac efe a arhosodd yn fud. A bu, cyn gynted ag y cyflawnwyd dyddiau ei weinidogaeth ef, fyned ohono i’w dŷ ei hun. Ac ar ôl y dyddiau hynny y cafodd Elisabeth ei wraig ef feichiogi, ac a ymguddiodd bum mis, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnaeth yr Arglwydd i mi yn y dyddiau yr edrychodd arnaf, i dynnu ymaith fy ngwaradwydd ymhlith dynion.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd