Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lefiticus 18

18
Gwaharddiadau ynglŷn â Rhyw
1Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 2“Dywed wrth bobl Israel, ‘Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw. 3Nid ydych i wneud fel y gwneir yng ngwlad yr Aifft, lle buoch yn byw, nac fel y gwneir yng ngwlad Canaan, lle'r wyf yn mynd â chwi. Peidiwch â dilyn eu harferion. 4Yr ydych i ufuddhau i'm cyfreithiau ac i gadw fy neddfau; myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw. 5Cadwch fy neddfau a'm cyfreithiau, oherwydd y mae'r sawl sy'n eu cadw yn byw trwyddynt. Myfi yw'r ARGLWYDD.
6“ ‘Nid yw unrhyw un i ddynesu at berthynas agos iddo i gael cyfathrach rywiol. Myfi yw'r ARGLWYDD.
7“ ‘Nid wyt i amharchu dy dad trwy gael cyfathrach rywiol â'th fam; dy fam yw hi, ac nid wyt i gael cyfathrach â hi.
8“ ‘Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â gwraig dy dad; byddai hynny'n amharchu dy dad.
9“ ‘Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â'th chwaer, boed yn ferch i'th dad neu'n ferch i'th fam, ac wedi ei geni yn y cartref neu'r tu allan iddo.
10“ ‘Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â merch dy fab neu ferch dy ferch; byddai hynny'n dy amharchu.
11“ ‘Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â merch i wraig dy dad sydd wedi ei geni i'th dad; y mae'n chwaer iti, ac nid wyt i gael cyfathrach â hi.
12“ ‘Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â chwaer dy dad; y mae'n berthynas agos i'th dad.
13“ ‘Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â chwaer dy fam, gan ei bod yn berthynas agos i'th fam.
14“ ‘Nid wyt i amharchu brawd dy dad trwy ddynesu at ei wraig; y mae'n fodryb iti.
15“ ‘Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â'th ferch-yng-nghyfraith; y mae'n wraig i'th fab, ac nid wyt i gael cyfathrach â hi.
16“ ‘Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â gwraig dy frawd; byddai hynny'n amharchu dy frawd.
17“ ‘Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â gwraig ac â'i merch, nac ychwaith â merch ei mab na merch ei merch; y maent yn perthyn yn agos iddi, a byddai hynny'n anlladrwydd.
18“ ‘Nid wyt i briodi chwaer dy wraig rhag iddi gystadlu â hi, na chael cyfathrach â hi tra bo dy wraig yn fyw.
19“ ‘Nid wyt i ddynesu at wraig i gael cyfathrach rywiol â hi yn ystod aflendid ei misglwyf.
20“ ‘Nid wyt i orwedd mewn cyfathrach gyda gwraig dy gymydog, i'th wneud dy hun yn aflan gyda hi.
21“ ‘Nid wyt i roi yr un o'th blant i'w aberthu i Moloch, a halogi enw dy Dduw. Myfi yw'r ARGLWYDD.
22“ ‘Nid wyt i orwedd gyda dyn fel gyda gwraig; y mae hynny'n ffieidd-dra.
23“ ‘Nid wyt i orwedd gydag unrhyw anifail, i'th wneud dy hun yn aflan, ac nid yw unrhyw wraig i'w rhoi ei hun mewn cyfathrach ag anifail; y mae hynny'n wyrni.
24“ ‘Peidiwch â'ch halogi eich hunain â'r un o'r pethau hyn, oherwydd trwy'r rhain y bu'r cenhedloedd yr wyf yn eu gyrru allan o'ch blaenau yn eu halogi eu hunain. 25Halogwyd y tir, ac fe'i cosbais am ei ddrygioni, ac fe chwydodd y tir ei drigolion. 26Ond cadwch chwi fy neddfau a'm cyfreithiau, a pheidiwch â gwneud yr un o'r pethau ffiaidd hyn, pa un bynnag ai brodor ai estron ydych; 27oherwydd gwnaeth y bobl oedd yn y wlad o'ch blaen chwi yr holl bethau ffiaidd hyn, a halogwyd y tir. 28Os byddwch chwi'n halogi'r tir, bydd yn eich chwydu chwithau fel y chwydodd y cenhedloedd#18:28 Felly Fersiynau. Hebraeg, genedl. oedd o'ch blaen chwi. 29Pwy bynnag sy'n gwneud unrhyw un o'r pethau ffiaidd hyn, fe'i torrir ymaith o blith ei bobl. 30Cadwch fy ngofynion, a pheidiwch â dilyn yr arferion ffiaidd a wnaed o'ch blaen, na chael eich halogi ganddynt. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.’ ”

Dewis Presennol:

Lefiticus 18: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda