Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Galarnad 3:1-24

Galarnad 3:1-24 BCND

Myfi yw'r gŵr a welodd ofid dan wialen ei ddicter. Gyrrodd fi allan a gwneud imi gerdded trwy dywyllwch lle nad oedd goleuni. Daliodd i droi ei law yn f'erbyn, a hynny ddydd ar ôl dydd. Parodd i'm cnawd a'm croen ddihoeni, a maluriodd f'esgyrn. Gwnaeth warchae o'm cwmpas, a'm hamgylchynu â chwerwder a blinder. Gwnaeth i mi aros mewn tywyllwch, fel rhai wedi hen farw. Caeodd arnaf fel na allwn ddianc, a gosododd rwymau trwm amdanaf. Pan elwais, a gweiddi am gymorth, fe wrthododd fy ngweddi. Caeodd fy ffyrdd â meini mawrion, a gwneud fy llwybrau'n gam. Y mae'n gwylio amdanaf fel arth, fel llew yn ei guddfa. Tynnodd fi oddi ar y ffordd a'm dryllio, ac yna fy ngadael yn ddiymgeledd. Paratôdd ei fwa, a'm gosod yn nod i'w saeth. Anelodd saethau ei gawell a'u trywanu i'm perfeddion. Yr oeddwn yn gyff gwawd i'r holl bobloedd, yn destun caneuon gwatwarus drwy'r dydd. Llanwodd fi â chwerwder, a'm meddwi â'r wermod. Torrodd fy nannedd â cherrig, a gwneud imi grymu yn y lludw. Yr wyf wedi f'amddifadu o heddwch; anghofiais beth yw daioni. Yna dywedais, “Diflannodd fy nerth, a hefyd fy ngobaith oddi wrth yr ARGLWYDD.” Cofia fy nhrallod a'm crwydro, y wermod a'r bustl. Yr wyf fi yn ei gofio'n wastad, ac wedi fy narostwng. Meddyliaf yn wastad am hyn, ac felly disgwyliaf yn eiddgar. Nid oes terfyn ar gariad yr ARGLWYDD, ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau. Y maent yn newydd bob bore, a mawr yw dy ffyddlondeb. Dywedais, “Yr ARGLWYDD yw fy rhan, am hynny disgwyliaf wrtho.”

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd