Ond dywedodd Josua wrth y bobl, “Ni fedrwch wasanaethu'r ARGLWYDD, oherwydd y mae'n Dduw sanctaidd, ac yn Dduw eiddigus, ac ni fydd yn maddau eich troseddau a'ch pechodau. Os gadewch yr ARGLWYDD a gwasanaethu duwiau estron, bydd yn troi ac yn gwneud niwed i chwi ac yn eich difodi, er yr holl dda a wnaeth i chwi.” Dywedodd y bobl wrth Josua, “Na, yr ydym am wasanaethu'r ARGLWYDD.” Yna dywedodd Josua wrth y bobl, “Yr ydych yn dystion yn eich erbyn eich hunain i chwi ddewis gwasanaethu'r ARGLWYDD.” Atebasant hwythau, “Tystion ydym.” “Yn awr ynteu,” meddai, “bwriwch allan y duwiau estron sydd yn eich mysg, a throwch eich calon at yr ARGLWYDD, Duw Israel.” Dywedodd y bobl wrth Josua, “Fe addolwn yr ARGLWYDD ein Duw, a gwrandawn ar ei lais ef.” Gwnaeth Josua gyfamod â'r bobl y diwrnod hwnnw yn Sichem, a gosod deddf a chyfraith ar eu cyfer. Ysgrifennodd y geiriau hynny yn llyfr cyfraith Duw, a chymryd maen mawr a'i osod i fyny yno o dan dderwen oedd yng nghysegr yr ARGLWYDD. Dywedodd wrth yr holl bobl, “Edrychwch, bydd y maen hwn yn dystiolaeth yn ein herbyn, oherwydd clywodd yr holl eiriau a lefarodd yr ARGLWYDD wrthym, a bydd yn dystiolaeth yn eich erbyn os byddwch yn gwadu eich Duw.” Yna gollyngodd Josua'r bobl, bob un i'w etifeddiaeth.
Darllen Josua 24
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Josua 24:19-28
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos