Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Josua 24:19-28

Josua 24:19-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Yna dyma Josua yn rhybuddio’r bobl, “Wnewch chi ddim dal ati i addoli’r ARGLWYDD. Mae e’n Dduw sanctaidd. Mae e’n Dduw eiddigeddus. Fydd e ddim yn maddau i chi am wrthryfela a phechu yn ei erbyn. Mae e wedi bod mor dda atoch chi! Os byddwch chi’n troi cefn arno ac yn addoli duwiau eraill, bydd e’n troi yn eich erbyn chi, yn achosi trychineb ac yn eich dinistrio chi!” Ond dyma’r bobl yn dweud wrth Josua, “Na! Dŷn ni’n mynd i addoli’r ARGLWYDD!” Felly dyma Josua yn gofyn i’r bobl, “Ydych chi’n derbyn eich bod chi’n atebol iddo ar ôl gwneud y penderfyniad yma i addoli’r ARGLWYDD?” A dyma nhw’n dweud, “Ydyn, dŷn ni’n atebol.” “Iawn,” meddai Josua, “taflwch y duwiau eraill sydd gynnoch chi i ffwrdd, a rhoi eich hunain yn llwyr i’r ARGLWYDD, Duw Israel.” A dyma’r bobl yn dweud wrth Josua, “Dŷn ni’n mynd i addoli’r ARGLWYDD ein Duw, a gwrando arno.” Felly dyma Josua yn gwneud cytundeb gyda’r bobl, a gosod rheolau a chanllawiau iddyn nhw yn Sichem. A dyma fe’n ysgrifennu’r cwbl yn Sgrôl Cyfraith Duw. Wedyn dyma fe’n cymryd carreg fawr, a’i gosod i fyny o dan y goeden dderwen oedd wrth ymyl cysegr yr ARGLWYDD. A dyma fe’n dweud wrth y bobl, “Mae’r garreg yma wedi clywed popeth mae’r ARGLWYDD wedi’i ddweud wrthon ni. Bydd yn dyst yn eich erbyn chi os gwnewch chi droi cefn ar Dduw.” Yna dyma Josua yn gadael i’r bobl fynd, a dyma nhw i gyd yn mynd adre i’w tir eu hunain.