Casglodd Josua holl lwythau Israel ynghyd i Sichem, a galwodd henuriaid, penaethiaid, barnwyr a swyddogion Israel i ymddangos gerbron Duw. Yna dywedodd Josua wrth yr holl bobl, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Ers talwm yr oedd Tera, tad Abraham a Nachor eich hynafiaid, yn byw y tu hwnt i'r Ewffrates ac yn addoli duwiau estron. Ond fe gymerais eich tad Abraham o'r tu hwnt i'r Ewffrates a'i arwain trwy holl wlad Canaan, ac amlhau ei ddisgynyddion. Rhoddais iddo Isaac; ac i Isaac rhoddais Jacob ac Esau. Rhoddais fynydd-dir Seir yn eiddo i Esau, ond aeth Jacob a'i blant i lawr i'r Aifft. Yna anfonais Moses ac Aaron, a gosod pla ar yr Aifft, trwy'r hyn a wneuthum yno; wedi hynny deuthum â chwi allan. Deuthum â'ch hynafiaid allan o'r Aifft hyd at y môr, a'r Eifftiaid yn eu hymlid â cherbydau a gwŷr meirch hyd at y Môr Coch. Gwaeddodd eich hynafiaid ar yr ARGLWYDD, a gosododd dywyllwch rhyngddynt a'r Eifftiaid, a pheri i'r môr eu goddiweddyd a'u gorchuddio. Gwelsoch â'ch llygaid eich hunain yr hyn a wneuthum yn yr Aifft, ac wedi hynny buoch yn byw yn yr anialwch am gyfnod maith. Yna deuthum â chwi i wlad yr Amoriaid, sy'n byw y tu hwnt i'r Iorddonen, ac er iddynt ryfela yn eich erbyn, rhoddais hwy yn eich llaw, a chawsoch feddiannu eu gwlad, wedi imi eu distrywio o'ch blaen. Cododd Balac fab Sippor, brenin Moab, a rhyfela yn erbyn Israel, ac anfonodd i wahodd Balaam fab Beor i'ch melltithio. Ond ni fynnwn wrando ar Balaam; am hynny fe'ch bendithiodd dro ar ôl tro, a gwaredais chwi o afael Balac. Wedi ichwi groesi'r Iorddonen a dod i Jericho, brwydrodd llywodraethwyr Jericho yn eich erbyn (Amoriaid, Peresiaid, Canaaneaid, Hethiaid, Girgasiaid, Hefiaid a Jebusiaid), ond rhoddais hwy yn eich llaw. Anfonais gacynen o'ch blaen; a hon, nid eich cleddyf na'ch bwa chwi, a yrrodd ddau frenin yr Amoriaid ymaith o'ch blaen. Rhoddais ichwi wlad nad oeddech wedi llafurio ynddi, a chawsoch drefi i fyw ynddynt heb ichwi eu hadeiladu; a chawsoch gynhaliaeth o winllannoedd ac olewydd na fu i chwi eu plannu.’
“Am hynny ofnwch yr ARGLWYDD, gwasanaethwch ef yn ddidwyll ac yn ffyddlon; bwriwch ymaith y duwiau y bu'ch hynafiaid yn eu gwasanaethu y tu hwnt i'r Afon ac yn yr Aifft. Gwasanaethwch yr ARGLWYDD; ac oni ddymunwch wasanaethu'r ARGLWYDD, dewiswch ichwi'n awr pwy a wasanaethwch: ai'r duwiau a wasanaethodd eich hynafiaid pan oeddent y tu hwnt i'r Afon, ai ynteu duwiau'r Amoriaid yr ydych yn byw yn eu gwlad? Ond byddaf fi a'm teulu yn gwasanaethu'r ARGLWYDD.” Atebodd y bobl a dweud, “Pell y bo oddi wrthym adael yr ARGLWYDD i wasanaethu duwiau estron! Oherwydd yr ARGLWYDD ein Duw a ddaeth â ni a'n tadau i fyny o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed, ac a wnaeth yr arwyddion mawr hyn yn ein gŵydd, a'n cadw bob cam o'r ffordd y daethom, ac ymysg yr holl bobloedd y buom yn tramwy yn eu plith. Hefyd gyrrodd yr ARGLWYDD allan o'n blaen yr holl bobloedd a'r Amoriaid oedd yn y wlad. Yr ydym ninnau hefyd am wasanaethu'r ARGLWYDD, oherwydd ef yw ein Duw.”