Josua 24:1-18
Josua 24:1-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Casglodd Josua holl lwythau Israel ynghyd i Sichem, a galwodd henuriaid, penaethiaid, barnwyr a swyddogion Israel i ymddangos gerbron Duw. Yna dywedodd Josua wrth yr holl bobl, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Ers talwm yr oedd Tera, tad Abraham a Nachor eich hynafiaid, yn byw y tu hwnt i'r Ewffrates ac yn addoli duwiau estron. Ond fe gymerais eich tad Abraham o'r tu hwnt i'r Ewffrates a'i arwain trwy holl wlad Canaan, ac amlhau ei ddisgynyddion. Rhoddais iddo Isaac; ac i Isaac rhoddais Jacob ac Esau. Rhoddais fynydd-dir Seir yn eiddo i Esau, ond aeth Jacob a'i blant i lawr i'r Aifft. Yna anfonais Moses ac Aaron, a gosod pla ar yr Aifft, trwy'r hyn a wneuthum yno; wedi hynny deuthum â chwi allan. Deuthum â'ch hynafiaid allan o'r Aifft hyd at y môr, a'r Eifftiaid yn eu hymlid â cherbydau a gwŷr meirch hyd at y Môr Coch. Gwaeddodd eich hynafiaid ar yr ARGLWYDD, a gosododd dywyllwch rhyngddynt a'r Eifftiaid, a pheri i'r môr eu goddiweddyd a'u gorchuddio. Gwelsoch â'ch llygaid eich hunain yr hyn a wneuthum yn yr Aifft, ac wedi hynny buoch yn byw yn yr anialwch am gyfnod maith. Yna deuthum â chwi i wlad yr Amoriaid, sy'n byw y tu hwnt i'r Iorddonen, ac er iddynt ryfela yn eich erbyn, rhoddais hwy yn eich llaw, a chawsoch feddiannu eu gwlad, wedi imi eu distrywio o'ch blaen. Cododd Balac fab Sippor, brenin Moab, a rhyfela yn erbyn Israel, ac anfonodd i wahodd Balaam fab Beor i'ch melltithio. Ond ni fynnwn wrando ar Balaam; am hynny fe'ch bendithiodd dro ar ôl tro, a gwaredais chwi o afael Balac. Wedi ichwi groesi'r Iorddonen a dod i Jericho, brwydrodd llywodraethwyr Jericho yn eich erbyn (Amoriaid, Peresiaid, Canaaneaid, Hethiaid, Girgasiaid, Hefiaid a Jebusiaid), ond rhoddais hwy yn eich llaw. Anfonais gacynen o'ch blaen; a hon, nid eich cleddyf na'ch bwa chwi, a yrrodd ddau frenin yr Amoriaid ymaith o'ch blaen. Rhoddais ichwi wlad nad oeddech wedi llafurio ynddi, a chawsoch drefi i fyw ynddynt heb ichwi eu hadeiladu; a chawsoch gynhaliaeth o winllannoedd ac olewydd na fu i chwi eu plannu.’ “Am hynny ofnwch yr ARGLWYDD, gwasanaethwch ef yn ddidwyll ac yn ffyddlon; bwriwch ymaith y duwiau y bu'ch hynafiaid yn eu gwasanaethu y tu hwnt i'r Afon ac yn yr Aifft. Gwasanaethwch yr ARGLWYDD; ac oni ddymunwch wasanaethu'r ARGLWYDD, dewiswch ichwi'n awr pwy a wasanaethwch: ai'r duwiau a wasanaethodd eich hynafiaid pan oeddent y tu hwnt i'r Afon, ai ynteu duwiau'r Amoriaid yr ydych yn byw yn eu gwlad? Ond byddaf fi a'm teulu yn gwasanaethu'r ARGLWYDD.” Atebodd y bobl a dweud, “Pell y bo oddi wrthym adael yr ARGLWYDD i wasanaethu duwiau estron! Oherwydd yr ARGLWYDD ein Duw a ddaeth â ni a'n tadau i fyny o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed, ac a wnaeth yr arwyddion mawr hyn yn ein gŵydd, a'n cadw bob cam o'r ffordd y daethom, ac ymysg yr holl bobloedd y buom yn tramwy yn eu plith. Hefyd gyrrodd yr ARGLWYDD allan o'n blaen yr holl bobloedd a'r Amoriaid oedd yn y wlad. Yr ydym ninnau hefyd am wasanaethu'r ARGLWYDD, oherwydd ef yw ein Duw.”
Josua 24:1-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Josua yn galw llwythau Israel i gyd at ei gilydd yn Sichem. Galwodd y cynghorwyr a’r arweinwyr i gyd, y barnwyr, a’r swyddogion, a mynd â nhw i sefyll o flaen Duw. Yna dwedodd wrth y bobl, “Dyma mae’r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Yn bell, bell yn ôl roedd eich hynafiaid (hyd at Tera, tad Abraham a Nachor) yn byw yr ochr draw i afon Ewffrates. Roedden nhw’n addoli duwiau eraill. Ond dyma fi’n cymryd Abraham o’r wlad honno, a dod ag e i wlad Canaan, a rhoi lot fawr o ddisgynyddion iddo. Rhoddais ei fab Isaac iddo, ac wedyn rhoi Jacob ac Esau i Isaac. Cafodd Esau fyw ar fryniau Seir. Ond aeth Jacob a’i feibion i lawr i’r Aifft. Wedyn anfonais Moses ac Aaron i’ch arwain chi allan o wlad yr Aifft, a tharo pobl yr Aifft gyda plâu. Pan ddes i â’ch hynafiaid chi allan o’r Aifft, dyma nhw’n cyrraedd y môr, ac roedd marchogion a cherbydau rhyfel yr Eifftiaid wedi dod ar eu holau. Wrth y Môr Coch, dyma’ch hynafiaid yn gweiddi ar yr ARGLWYDD am help, a dyma fi’n rhoi tywyllwch rhyngoch chi a’r Eifftiaid, ac yn eu boddi nhw yn y môr. Gwelsoch gyda’ch llygaid eich hunain beth wnes i yn yr Aifft. Wedyn buoch chi’n byw yn yr anialwch am flynyddoedd lawer. Yna dyma fi’n dod â chi i dir yr Amoriaid, sef y bobl oedd yn byw i’r dwyrain o afon Iorddonen. Dyma nhw’n ymladd yn eich erbyn chi, ond dyma fi’n eu dinistrio nhw’n llwyr o’ch blaenau chi. Chi gafodd ennill y frwydr, a choncro eu tir nhw. Roedd Balac fab Sippor, brenin Moab, yn paratoi i ymosod ar Israel, ac wedi cael Balaam fab Beor i’ch melltithio chi. Ond wnes i ddim gwrando ar Balaam. Yn lle hynny, dyma fe’n proffwydo pethau da amdanoch chi dro ar ôl tro! Fi wnaeth eich achub chi oddi wrtho. Wedyn, ar ôl i chi groesi afon Iorddonen, dyma chi’n dod i Jericho. Daeth arweinwyr Jericho i ymladd yn eich erbyn chi, a’r Amoriaid, Peresiaid, Canaaneaid, Hethiaid, Girgasiaid, Hefiaid a Jebwsiaid hefyd, ond dyma fi’n gwneud i chi ennill. Dyma fi’n achosi panig llwyr, a gyrru dau frenin yr Amoriaid allan o’ch blaen chi. Fi wnaeth ennill y frwydr i chi, nid eich arfau rhyfel chi. Fi wnaeth roi’r tir i chi. Wnaethoch chi ddim gweithio amdano, a wnaethoch chi ddim adeiladu’r trefi. Dych chi’n bwyta ffrwyth gwinllannoedd a choed olewydd wnaethoch chi mo’u plannu. “Felly byddwch yn ufudd i’r ARGLWYDD, a’i addoli o ddifrif. Taflwch i ffwrdd y duwiau hynny roedd eich hynafiaid yn eu haddoli yr ochr arall i afon Ewffrates, a duwiau’r Aifft. Addolwch yr ARGLWYDD. Os nad ydych chi am addoli’r ARGLWYDD, penderfynwch heddiw pwy dych chi am ei addoli. Y duwiau roedd eich hynafiaid yn eu haddoli yr ochr arall i’r Ewffrates? Neu falle dduwiau’r Amoriaid dych chi’n byw ar eu tir nhw? Ond dw i a’m teulu yn mynd i addoli’r ARGLWYDD!” Dyma’r bobl yn ymateb, “Fydden ni ddim yn meiddio troi cefn ar yr ARGLWYDD i addoli duwiau eraill! Yr ARGLWYDD ein Duw wnaeth ein hachub ni a’n hynafiaid o fod yn gaethweision yn yr Aifft, a gwneud gwyrthiau rhyfeddol o flaen ein llygaid. Fe wnaeth ein cadw ni’n saff ar y daith, wrth i ni basio drwy diroedd gwahanol bobl. Yr ARGLWYDD wnaeth yrru’r bobloedd i gyd allan o’n blaenau ni, gan gynnwys yr Amoriaid oedd yn byw yn y wlad yma. Felly dŷn ni hefyd am addoli’r ARGLWYDD. Ein Duw ni ydy e.”
Josua 24:1-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Josua a gynullodd holl lwythau Israel i Sichem; ac a alwodd am henuriaid Israel, ac am eu penaethiaid, ac am eu barnwyr, ac am eu swyddogion: a hwy a safasant gerbron DUW. A dywedodd Josua wrth yr holl bobl, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel; Tu hwnt i’r afon y trigodd eich tadau chwi gynt, sef Tera tad Abraham, a thad Nachor: a hwy a wasanaethasant dduwiau dieithr. Ac mi a gymerais eich tad Abraham ymaith o’r tu hwnt i’r afon, ac a’i harweiniais ef trwy holl wlad Canaan, ac a amlheais hefyd ei had ef, ac a roddais iddo Isaac. Ac i Isaac y rhoddais Jacob ac Esau: ac i Esau y rhoddais fynydd Seir i’w etifeddu; ond Jacob a’i feibion a aethant i waered i’r Aifft. A mi a anfonais Moses ac Aaron, ac a drewais yr Eifftiaid, yn ôl yr hyn a wneuthum yn eu mysg: ac wedi hynny y dygais chwi allan, Ac a ddygais eich tadau chwi allan o’r Aifft: a chwi a ddaethoch at y môr; a’r Eifftiaid a erlidiodd ar ôl eich tadau â cherbydau, ac â gwŷr meirch, hyd y môr coch. A phan waeddasant ar yr ARGLWYDD, efe a osododd dywyllwch rhyngoch chwi a’r Eifftiaid, ac a ddug y môr arnynt hwy, ac a’u gorchuddiodd: eich llygaid chwi a welsant yr hyn a wneuthum yn yr Aifft: trigasoch hefyd yn yr anialwch ddyddiau lawer. A mi a’ch dygais i wlad yr Amoriaid, y rhai oedd yn trigo o’r tu hwnt i’r Iorddonen; a hwy a ymladdasant i’ch erbyn: a myfi a’u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi, fel y meddianasoch eu gwlad hwynt; a minnau a’u difethais hwynt o’ch blaen chwi. Yna Balac mab Sippor brenin Moab, a gyfododd, ac a ryfelodd yn erbyn Israel; ac a anfonodd, ac a alwodd am Balaam mab Beor, i’ch melltigo chwi. Ond ni fynnwn i wrando ar Balaam; am hynny gan fendithio y bendithiodd efe chwi: felly y gwaredais chwi o’i law ef. A chwi a aethoch dros yr Iorddonen, ac a ddaethoch i Jericho: a gwŷr Jericho a ymladdodd i’ch erbyn, yr Amoriaid, a’r Pheresiaid, a’r Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Girgasiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid; a mi a’u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi. A mi a anfonais gacwn o’ch blaen chwi, a’r rhai hynny a’u gyrrodd hwynt allan o’ch blaen chwi; sef dau frenin yr Amoriaid: nid â’th gleddyf di, ac nid â’th fwa. A mi a roddais i chwi wlad ni lafuriasoch amdani, a dinasoedd y rhai nid adeiladasoch, ac yr ydych yn trigo ynddynt: o’r gwinllannoedd a’r olewlannoedd ni phlanasoch, yr ydych yn bwyta ohonynt. Yn awr gan hynny ofnwch yr ARGLWYDD, a gwasanaethwch ef mewn perffeithrwydd a gwirionedd, a bwriwch ymaith y duwiau a wasanaethodd eich tadau o’r tu hwnt i’r afon, ac yn yr Aifft; a gwasanaethwch chwi yr ARGLWYDD. Ac od yw ddrwg yn eich golwg wasanaethu yr ARGLWYDD, dewiswch i chwi heddiw pa un a wasanaethoch, ai y duwiau a wasanaethodd eich tadau, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r afon, ai ynteu duwiau yr Amoriaid, y rhai yr ydych yn trigo yn eu gwlad: ond myfi, mi a’m tylwyth a wasanaethwn yr ARGLWYDD. Yna yr atebodd y bobl, ac y dywedodd, Na ato DUW i ni adael yr ARGLWYDD, i wasanaethu duwiau dieithr; Canys yr ARGLWYDD ein DUW yw yr hwn a’n dug ni i fyny a’n tadau o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed; a’r hwn a wnaeth y rhyfeddodau mawrion hynny yn ein gŵydd ni, ac a’n cadwodd ni yn yr holl ffordd y rhodiasom ynddi, ac ymysg yr holl bobloedd y tramwyasom yn eu plith: A’r ARGLWYDD a yrrodd allan yr holl bobloedd, a’r Amoriaid, preswylwyr y wlad, o’n blaen ni: am hynny ninnau a wasanaethwn yr ARGLWYDD; canys efe yw ein DUW ni.