Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Josua 23

23
Araith Ffarwel Josua
1Wedi cyfnod maith, a'r ARGLWYDD wedi rhoi llonyddwch i Israel oddi wrth eu holl elynion o'u hamgylch, yr oedd Josua yn hen ac yn oedrannus. 2Galwodd ato Israel gyfan, eu henuriaid, penaethiaid, barnwyr a swyddogion, a dweud wrthynt, “Yr wyf yn hen ac yn oedrannus. 3Gwelsoch y cwbl a wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw i'r holl genhedloedd hyn er eich mwyn, oherwydd yr ARGLWYDD eich Duw oedd yn ymladd drosoch. 4Gwelwch fy mod wedi rhannu rhyngoch, yn etifeddiaeth i'ch llwythau, dir y cenhedloedd hyn a ddistrywiais a'r rhai a adawyd rhwng yr Iorddonen a'r Môr Mawr yn y gorllewin. 5Yr ARGLWYDD eich Duw a fu'n eu hymlid ar eich rhan ac yn eu gyrru allan o'ch blaen, er mwyn i chwi gael meddiannu eu gwlad, fel yr addawodd yr ARGLWYDD eich Duw wrthych. 6Felly byddwch yn gadarn dros gadw a chyflawni'r cwbl sydd wedi ei ysgrifennu yn llyfr cyfraith Moses, heb wyro oddi wrtho i'r dde na'r aswy. 7Peidiwch â chymysgu â'r cenhedloedd hyn a adawyd yn eich mysg; peidiwch ag yngan enw eu duwiau na thyngu wrthynt, na'u gwasanaethu na'u haddoli. 8Ond glynwch wrth yr ARGLWYDD eich Duw fel, yn wir, yr ydych wedi ei wneud hyd y dydd hwn. 9Oherwydd gyrrodd yr ARGLWYDD allan o'ch blaen genhedloedd mawr a nerthol; nid oes un ohonynt wedi'ch gwrthsefyll hyd y dydd hwn. 10Y mae un ohonoch chwi'n peri i fil ohonynt hwy ffoi, oherwydd bod yr ARGLWYDD eich Duw yn ymladd drosoch, fel yr addawodd wrthych. 11Byddwch yn ofalus, bob un ohonoch, eich bod yn caru'r ARGLWYDD eich Duw. 12Oherwydd os gwrthgiliwch, a glynu wrth weddill y cenhedloedd hyn a adawyd yn eich mysg, a phriodi a chymysgu â hwy, 13gallwch fod yn gwbl sicr na fydd yr ARGLWYDD eich Duw yn parhau i yrru'r cenhedloedd hyn allan o'ch blaen. Yn hytrach byddant yn fagl ac yn dramgwydd ichwi, yn chwip ar eich cefnau ac yn ddrain yn eich llygaid, nes y byddwch wedi'ch difa o'r wlad dda hon a roddodd yr ARGLWYDD eich Duw i chwi.
14“Yn awr yr wyf fi ar fynd i ffordd yr holl ddaear. Y mae pob un ohonoch yn gwybod yn ei galon a'i enaid na phallodd dim un o'r holl bethau daionus a addawodd yr ARGLWYDD eich Duw ar eich cyfer; cawsoch y cwbl, heb ball. 15Fel y daeth ichwi bopeth da a addawodd yr ARGLWYDD eich Duw, felly hefyd bydd yr ARGLWYDD yn dwyn arnoch bopeth drwg, nes eich difa o'r wlad dda hon a roddodd yr ARGLWYDD eich Duw ichwi. 16Os torrwch gyfamod yr ARGLWYDD eich Duw, y cyfamod a orchmynnodd ef, a mynd a gwasanaethu duwiau estron a'u haddoli, yna bydd digofaint yr ARGLWYDD yn cynnau yn eich erbyn, ac yn fuan byddwch wedi'ch difa o'r wlad dda a roddodd ef ichwi.”

Dewis Presennol:

Josua 23: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda