1
Josua 23:14
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
“Yn awr yr wyf fi ar fynd i ffordd yr holl ddaear. Y mae pob un ohonoch yn gwybod yn ei galon a'i enaid na phallodd dim un o'r holl bethau daionus a addawodd yr ARGLWYDD eich Duw ar eich cyfer; cawsoch y cwbl, heb ball.
Cymharu
Archwiliwch Josua 23:14
2
Josua 23:11
Byddwch yn ofalus, bob un ohonoch, eich bod yn caru'r ARGLWYDD eich Duw.
Archwiliwch Josua 23:11
3
Josua 23:10
Y mae un ohonoch chwi'n peri i fil ohonynt hwy ffoi, oherwydd bod yr ARGLWYDD eich Duw yn ymladd drosoch, fel yr addawodd wrthych.
Archwiliwch Josua 23:10
4
Josua 23:8
Ond glynwch wrth yr ARGLWYDD eich Duw fel, yn wir, yr ydych wedi ei wneud hyd y dydd hwn.
Archwiliwch Josua 23:8
5
Josua 23:6
Felly byddwch yn gadarn dros gadw a chyflawni'r cwbl sydd wedi ei ysgrifennu yn llyfr cyfraith Moses, heb wyro oddi wrtho i'r dde na'r aswy.
Archwiliwch Josua 23:6
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos