Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Josua 19

19
Rhandir Llwyth Simeon
1I Simeon y disgynnodd yr ail goelbren, i lwyth Simeon yn ôl eu tylwythau; yr oedd eu hetifeddiaeth hwy yng nghanol etifeddiaeth Jwda. 2Cawsant yn etifeddiaeth: Beerseba, Seba, Molada, 3Hasar-sual, Bala, Esem, 4Eltolad, Bethul, Horma, 5Siclag, Beth-marcaboth, Hasar-usa, 6Beth-lebaoth a Saruhen: tair ar ddeg o drefi a'u pentrefi. 7Ain, Rimmon, Ether ac Asan: pedair tref a'u pentrefi; 8hefyd yr holl bentrefi o amgylch y trefi hyn, hyd at Baalath-beer, Ramath-negef. Dyma etifeddiaeth llwyth Simeon yn ôl eu tylwythau. 9Daeth peth o randir Jwda yn etifeddiaeth i Simeon, am fod rhan llwyth Jwda yn ormod iddynt; felly etifeddodd Simeon gyfran yng nghanol etifeddiaeth Jwda.
Rhandir Llwyth Sabulon
10Disgynnodd y trydydd coelbren i lwyth Sabulon yn ôl eu tylwythau; yr oedd terfyn eu hetifeddiaeth hwy'n ymestyn hyd Sarid, 11ac yna i fyny tua'r gorllewin at Marala, gan gyffwrdd â Dabbeseth ac â'r nant gyferbyn â Jocneam. 12Yr oedd y terfyn yn troi'n ôl o Sarid tua'r dwyrain a chodiad haul, ac yna'n mynd i fyny at Cisloth-tabor, ac ymlaen at Daberath ac i fyny i Jaffia. 13Oddi yno âi yn ei flaen tua'r dwyrain i Gath-heffer ac Itta-casin, nes cyrraedd Rimon a throi tua Nea. 14Yr oedd y terfyn yn troi i'r gogledd o Hannathon, nes cyrraedd dyffryn Jifftahel, 15gan gynnwys Cattath, Nahalal, Simron, Idala a Bethlehem: deuddeg o drefi a'u pentrefi. 16Dyma etifeddiaeth llwyth Sabulon yn ôl eu tylwythau, y trefi hyn a'u pentrefi.
Rhandir Llwyth Issachar
17I Issachar y disgynnodd y pedwerydd coelbren, i lwyth Issachar yn ôl eu tylwythau. 18Yn eu tiriogaeth hwy yr oedd Jesreel, Cesuloth, Sunem, 19Haffraim, Sihon, Anaharath, 20Rabbith, Cision, Abes, 21Remeth, En-gannim, En-hada a Beth-passes. 22Yr oedd y terfyn yn cyffwrdd â Tabor, Sahasima a Beth-semes, ac yn cyrraedd yr Iorddonen: un ar bymtheg o drefi a'u pentrefi. 23Dyma etifeddiaeth llwyth Issachar yn ôl eu tylwythau, yn drefi a'u pentrefi.
Rhandir Llwyth Aser
24Disgynnodd y pumed coelbren i lwyth Aser yn ôl eu tylwythau. 25Yn eu tiriogaeth hwy yr oedd Helcath, Hali, Beten, Achsaff, 26Alammelech, Amad a Misal; yn y gorllewin yr oedd eu terfyn yn cyffwrdd â Charmel a Sihor Libnath. 27Yr oedd yn troi'n ôl tua'r dwyrain at Beth-dagon, ac yna'n cyffwrdd â Sabulon a dyffryn Jifftahel, ac yn mynd tua'r gogledd at Beth-emec a Neiel, heibio i Cabwl, 28Ebron, Rehob, Hammon a Cana hyd at Sidon Fawr. 29Yr oedd y terfyn yn troi yn Rama ac yn cyrraedd dinas gaerog Tyrus, ac yna'n troi tua Hosa nes cyrraedd Mahalab, Achsib, 30Acco#19:30 Felly Groeg. Cymh. Barn. 1:31. Hebraeg, Umma., Affec a Rehob: dwy ar hugain o drefi a'u pentrefi. 31Dyma etifeddiaeth llwyth Aser yn ôl eu tylwythau, y trefi hyn a'u pentrefi.
Rhandir Llwyth Nafftali
32I lwyth Nafftali y disgynnodd y chweched coelbren, i lwyth Nafftali yn ôl eu tylwythau. 33Âi eu terfyn hwy o Heleff, o'r dderwen yn Saanannim heibio i Adami-neceb a Jabneel i Laccum, nes cyrraedd yr Iorddonen. 34Yr oedd y terfyn yn troi tua'r gorllewin yn Asnoth-tabor ac yn mynd oddi yno i Huccoc, gan gyffwrdd â Sabulon i'r de, ac Aser i'r gorllewin, a Jwda ger yr Iorddonen i'r dwyrain. 35Eu dinasoedd caerog oedd Sidim, Ser, Hammath, Raccath, Cinnereth, 36Adama, Rama, Hasor, 37Cedes, Edrei, En-hasor, 38Iron, Migdal-el, Horem, Beth-anath a Beth-semes: pedair ar bymtheg o drefi a'u pentrefi. 39Dyma etifeddiaeth llwyth Nafftali yn ôl eu tylwythau, yn drefi a'u pentrefi.
Rhandir Llwyth Dan
40Disgynnodd y seithfed coelbren i lwyth Dan yn ôl eu tylwythau. 41Yn eu tiriogaeth hwy yr oedd Sora, Estaol, Ir-semes, 42Saalabbin, Ajalon, Ithla, 43Elon, Timna, Ecron, 44Eltece, Gibbethon, Baalath, 45Jehud, Bene-berac, Gath-rimmon, 46Meiarcon, a Raccon, a hefyd y tir gyferbyn â Jopa. 47Pan gollodd y Daniaid eu tiriogaeth, aethant i fyny ac ymladd yn erbyn Lesem a'i chipio; trawsant hi â min cleddyf, a'i meddiannu ac ymsefydlu yno, gan alw Lesem yn Dan ar ôl eu tad. 48Dyma etifeddiaeth llwyth Dan yn ôl eu tylwythau, y trefi hyn a'u pentrefi.
Gorffen Rhannu'r Wlad
49Wedi iddynt orffen rhannu'r wlad yn ôl ei therfynau, rhoddodd yr Israeliaid etifeddiaeth yn eu mysg i Josua fab Nun. 50Yn unol â gorchymyn yr ARGLWYDD, rhoesant iddo'r ddinas y gofynnodd amdani, sef Timnath-sera ym mynydd-dir Effraim; ac wedi iddo'i hailadeiladu, bu fyw yno.
51Dyma'r etifeddiaethau a rannodd yr offeiriad Eleasar, a Josua fab Nun a'r pennau-teuluoedd, trwy goelbren, i lwythau Israel yn Seilo gerbron yr ARGLWYDD, yn nrws pabell y cyfarfod. A gorffenasant rannu'r wlad.

Dewis Presennol:

Josua 19: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda